Digwyddiadau busnes: canllawiau i ymgeiswyr a meini prawf cyllido
Y meini prawf y mae'n rhaid i ddigwyddiadau busnes eu bodloni er mwyn gallu gwneud cais am gymorth gyda chyllid.
Mae'r Cynllun Cymhorthdal Digwyddiadau Busnes wedi'i oedi ac yn cael ei adolygu. Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd.
Nôd yr adolygiad hwn yw gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y cynllun, gan ganolbwyntio ar ystyried digwyddiadau busnes newydd i Gymru sydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer creu profiadau diwylliannol cofiadwy.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch amynedd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyfathrebu trwy ein sianeli swyddogol.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus.
Am ragor o wybodaeth a diweddariadau pellach, ewch i: Ynglŷn â Digwyddiadau Cymru | Diwydiant Croeso Cymru
