Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Rhagfyr, lansiais y Cynllun Gweithredu ar yr Economi sy'n nodi agenda i adeiladu ar ein sylfeini economaidd, i baratoi busnesau tuag at y dyfodol ac i rymuso rhanbarthau a phobl i fod yn fwy cynhyrchiol.  

Heddiw, rwy’n cyhoeddi sut y bydd elfennau allweddol y Cynllun yn cael eu gweithredu. Bydd hynny'n cynnwys y Contract Economaidd, y Meysydd Gweithredu a Chronfa Dyfodol yr Economi.  

Bydd hyn yn gam mawr ymlaen o ran gwireddu gweledigaeth y Cynllun ar gyfer cyfoeth a llesiant yn ogystal â chyflwyno ffyrdd newydd o weithio a fydd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar fusnesau, cymunedau a phobl ledled Cymru.  

Byddaf yn darparu manylion pellach yn fy Natganiad Llafar yfory.