Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn penodiad y Cadeirydd interim, Dr Chris Jones, a'r Prif Weithredwr, Alex Howells, mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod chwe aelod annibynnol o'r Bwrdd bellach wedi eu penodi. Roedd y diddordeb a ddangoswyd yn y rolau hyn yn galonogol dros ben, ac rydym wedi gallu penodi aelodau amrywiol o ansawdd uchel sy'n dod o wahanol rannau o Gymru. Bydd yr aelodau hyn yn sicrhau bod lleisiau gweithwyr proffesiynol, addysgwyr a chleifion i'w clywed yn nhrafodaethau Bwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Y chwe aelod hyn yw:

Mrs Tina Donnelly CBE DL FRCN
Mae Tina wedi bod yn Gyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ers 2004; mae'n Nyrs Gofrestredig sydd hefyd wedi cwblhau hyfforddiant fel bydwraig, yn ogystal â hyfforddiant arbenigol mewn gofal cardiaidd, gofal lliniarol, ac addysgu, gan gynnwys addysgu clinigol. Mae Tina wedi dal swyddi uwch-reoli yn y GIG ac ym maes Addysg Uwch, ac mae wedi gweithio yn Llywodraeth Cymru fel Swyddog Nyrsio yn rhoi cyngor ar bolisi iechyd a nyrsio, rheoleiddio, Adnoddau Dynol, ymchwil ac addysg. Mae Tina yn Gymrawd anrhydeddus ym Mhrifysgol De Cymru ac yn gymrawd yn y Coleg Brenhinol.  

Dr Ruth Hall CB
Yn gymwysedig mewn meddygaeth, mae Ruth wedi bod yn ymarferydd mewn pediatreg ac iechyd plant, cyn arbenigo ym meddygaeth iechyd cyhoeddus yn y Gogledd ac yna gwasanaethu fel Prif Swyddog Meddygol Cymru rhwng 1997 a 2005. Ers hynny, mae wedi dal swyddi anweithredol ar Fyrddau a rolau cynghorol, fel aelod o’r Pwyllgor Cynghori ar Iechyd y Cyhoedd yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), Bwrdd Asiantaeth yr Amgylchedd, ac ar hyn o bryd Cyfoeth Naturiol Cymru. Ers 2015, mae wedi bod yn cyd-gadeirio Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth, sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru wledig. Mae’n Llywodraethwr yn Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n Gadeirydd gwadd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae’n aelod o Gyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a’i Fwrdd yng Nghymru.

Mr John Hill-Tout
Mae gan John brofiad 40 mlynedd o weithio mewn sefydliadau mawr a chymhleth sy'n gysylltiedig â'r GIG a'r llywodraeth. Bu'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweithredol, ac am gyfnod o chwe mis bu'n Brif Weithredwr dros dro yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste. Gadawodd y GIG yn 2001 i ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Perfformiad a Gweithrediadau yn Adran Iechyd Llywodraeth Cymru, cyn ymddeol yn 2007. Bu'n gwasanaethu fel aelod annibynnol ar Fwrdd Iechyd Cwm Taf rhwng 2009 a 2017, lle bu ganddo gyfrifoldebau penodol dros faterion ariannol, a bu'n gwasanaethu fel cadeirydd yr is-bwyllgor Archwilio a chadeirydd y pwyllgor ar gyfer Cyllid, Perfformiad a'r Gweithlu.

Mrs Gill Lewis
Ar hyn o bryd mae Gill yn Gadeirydd Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, ac mae wedi gweithio yn y sector cyhoeddus y rhan fwyaf o’i gyrfa. Mae'n gyfrifydd siartredig cymwysedig ac mae wedi dal nifer o swyddi uwch gyda'r Comisiwn Archwilio gynt a Swyddfa Archwilio Cymru. Yn fwy diweddar, mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o rolau allweddol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Adnoddau, a swyddog statudol Adran 151, yn ogystal â rolau eraill fel cyfarwyddwr yn y sectorau Llywodraeth Leol ac Iechyd. Mae Gill wedi gwasanaethu ar Fyrddau Cymdeithasau Tai a Chyngor CIPFA, ac mae'n arbenigo mewn llywodraethu corfforaethol, adolygu gan gymheiriaid, a gweithredu newidiadau sefydliadol trawsnewidiol.  

Yr Athro Ceri Phillips
Mae Ceri yn bennaeth ar y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Athro Economeg Iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe.   Ef yw aelod y Brifysgol nad yw'n swyddog o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac mae wedi gwneud cyfraniad mawr at y gwaith o ddatblygu Rhaglen ARCH. Hefyd ef yw Cadeirydd presennol Cyngor Deoniaid Iechyd Cymru. Mae'n aelod o'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer y Gweithlu Gofal Sylfaenol yng Nghymru. Bu'n eistedd ar y Panel a gomisiynwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adolygu Gweithlu'r GIG yng Nghymru, a bu'n aelod o'r Panel a fu’n gyfrifol am gynnal yr Adolygiad o Fuddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol yng Nghymru yn 2015, ynghyd ag adolygiad Williams sydd wedi arwain at sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Bu hefyd yn cydarwain yr adolygiad o'r gwerthusiad o feddyginiaethau amddifad a thra amddifad yng Nghymru yn 2014.  

Dr Heidi Phillips
Mae Heidi wedi gweithio fel meddyg teulu yn y De ers 2001, ac ar hyn o bryd mae'n Athro Cyswllt/Cyfarwyddwr Derbyniadau ar gyfer y rhaglenni Meddygaeth Mynediad i Raddedigion ac Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae'n Gymrawd yn Academi yr Addysgwyr Meddygol ac yn Gymrawd Hŷn yn yr Academi Addysg Uwch. Mae gan Heidi ddiddordeb penodol mewn recriwtio a chadw meddygon teulu yng Nghymru, ac mae'n arwain y gwaith o ddatblygu Academi Gofal Sylfaenol. Mae'n frwd dros ehangu mynediad i ysgolion meddygaeth, ac mae'n eistedd ar Fwrdd yr MSC Selection Alliance, gan arwain ar nifer o ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac anabledd.

Bydd holl aelodau annibynnol y Bwrdd yn dechrau ym mis Chwefror, ac mae eu cyfnodau’n amrywio, gyda'r aelodau'n cael cynnig tymhorau dwy neu dair blynedd.

Yn sgil cais gan y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr, rwyf hefyd wedi cytuno i newid rhai o'r dyddiadau ar gyfer rhoi'r sefydliad newydd ar waith. Yn ystod chwe mis cyntaf blwyddyn ariannol 2018/19, bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru bellach yn gweithredu mewn modd cysgodol. Roedd fy Mwrdd Rhaglenni ac arweinwyr Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi fy nghynghori y byddai cyfnod cysgodol o chwe mis yn caniatáu i'r sefydliad newydd ddatblygu ei brosesau llywodraethu a gweithredu, a gweithio gyda staff a rhanddeiliaid i baratoi ar gyfer y gwaith pwysig sydd o'i flaen.