Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ysgrifenedig - Lansio Brexit a'n Tir

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gen i lansio ymgynghoriad heddiw sy'n gofyn eich barn am ein cynigion ar gyfer Rhaglen Rheoli Tir i Gymru ar ôl Brexit.

https://beta.gov.wales/support-welsh-farming-after-brexit

https://beta.llyw.cymru/cymorth-i-ffermwyr-cymru-ar-ol-brexit

Mae tir Cymru'n bwysig inni i gyd. Mae'n rhoi bywoliaeth, yn cynnal cymunedau ac yn creu'r adnoddau naturiol rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae'r bobl sy'n gofalu amdano yn gwneud cyfraniad anferthol at les y wlad.

Bydd Brexit yn dod â heriau mawr yn ei sgil.  Ond mae’n cynnig cyfle digynsail i greu polisi unigryw all ddod â budd i'n heconomi, cymdeithas a'r amgylchedd naturiol. Rhaid peidio â cholli'r cyfle hwn.

Mae'r ddadl o blaid cefnogi'n rheolwyr tir yn aruthrol ac mae'r papur hwn yn gosod allan ein cynigion ar gyfer rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau. Yn gynharach eleni, ar ôl trafod helaeth â llawer o randdeiliaid, cyhoeddais fy mhum egwyddor graidd sy'n sail i 'ngweledigaeth ar gyfer polisi rheoli tir newydd i Gymru.

Ac yn awr, rydyn ni'n cynnig Rhaglen Rheoli Tir newydd i gymryd lle'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yng Nghymru. Caiff y Rhaglen ei rhannu'n ddau gynllun: y cynllun Cydnerthedd Economaidd a'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus. Bydd y Cynllun Cadernid Economaidd yn buddsoddi'n benodol i helpu rheolwyr tir a'u cadwyni cyflenwi. Bydd y cynllun Nwyddau Cyhoeddus yn cynnig ffrwd incwm newydd i reolwyr tir fel tâl am ddefnyddio'u tir i ddarparu mwy o nwyddau cyhoeddus.

Fel sail i'r ddau gynllun, rydyn ni'n credu bod dadl gref o blaid trefn reoleiddio decach, symlach a mwy ystyrlon.

Mae hyn yn golygu newid mawr.  Rydyn ni am i’r newid hwnnw fod yn un graddol er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr amser sydd ei angen i newid a'r angen i roi cefnogaeth amserol.  Bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn aros yn union fel y mae yn 2018 a 2019 a chaiff pob contract Glastir ei anrhydeddu. Yn 2020, byddwn yn dechrau'r broses o symud i'r cynlluniau newydd, fydd yn cynnwys gostwng y BPS yn raddol wrth inni ddechrau rhoi'r cynlluniau newydd ar waith.  Y nod yw cael y cynlluniau newydd ar eu traed erbyn 2025 gan ddefnyddio systemau llwyddiannus Taliadau Gwledig Cymru.

Rydyn ni'n ddiolchgar i randdeiliaid Cymru sydd wedi dod ynghyd i'n helpu â'r gwaith hwn am eu cymorth a'u hegni. Bydd y trafodaethau hyn yn parhau wrth inni baratoi cynlluniau manwl, creu deddfwriaeth a rhoi'r newidiadau ar waith.

Rwy'n disgwyl ymlaen at glywed a ydych yn meddwl y gwnaiff y cynigion ein helpu i wireddu'n hamcanion tymor hir. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref 2018. Byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad manylach yn y gwanwyn ac yna ddeddfwriaeth ar gyfer diwygio'r drefn. Ein hamcan yw cyhoeddi'r Bil cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn yn 2021.