Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn yr ymgynghoriadau diweddar ar reoleiddio ac arolygu gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion, a gwasanaethau eirioli statudol i blant, mae'n bleser gennyf anfon y dolenni at yr ymgynghoriad ar wasanaethau mabwysiadu atoch. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei lansio heddiw (4 Medi 2018).  

https://beta.llyw.cymru/fframwaith-rheoleiddio-newydd-ar-gyfer-gwasanaethau-mabwysiadu

Mae'n rhan o gam 3 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019.  

Rydym yn awyddus i gael sylwadau ar Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019 sy'n:

• gosod gofynion newydd ar ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig ac unigolion cyfrifol mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny o dan adrannau 27 a 28 o Ddeddf 2016

• gosod gofynion tebyg, lle bo hynny'n briodol, ar ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol a'u rheolwyr, o dan adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Hefyd, mae canllawiau statudol drafft wedi cael eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghori. Cyhoeddwyd y canllawiau hyn, ar gyfer darparwyr gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig ac unigolion cyfrifol, o dan Ddeddf 2016, a chyhoeddwyd cod ymarfer, ar gyfer darparwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol a'u rheolwyr, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016. Cafodd y rhain eu datblygu, a'u cyfuno o fewn yr un ddogfen, i ategu'r rheoliadau drafft ac i sicrhau mwy o eglurder o ran sut y dylid mynd ati i fodloni'r gofynion.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gwahodd sylwadau ar yr opsiynau ar gyfer cynnal adolygiadau annibynnol o benderfyniadau mabwysiadu yn y dyfodol. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar yr opsiynau cyfatebol ar gyfer maethu yn gynharach eleni. 

Fel y dywedwyd eisoes, mae'r dull gweithredu, a ddefnyddir i ddatblygu'r gofynion cam 3 ar gyfer gwasanaethau, yn ystyried ac yn gyson, lle bo hynny'n briodol, â'r safonau yr ydym ni fel Llywodraeth a Chynulliad wedi eu rhoi ar waith yng ngham 2  (Ebrill 2018) mewn perthynas â gwasanaethau megis cartrefi gofal a chymorth cartref. Fodd bynnag, mae'r gofynion drafft wedi cael eu teilwra lle bo hynny'n briodol i gyd-fynd yn y ffordd fwyaf effeithiol â'r ddarpariaeth ymarferol o wasanaethau mabwysiadu, heb gyfaddawdu’r disgwyliadau cyffredinol.

Yn yr un modd â cham 2, mae'r Rheoliadau drafft wedi'u cynllunio a'u datblygu gyda chymorth a chyngor gan grwpiau technegol rhanddeiliaid, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny.  Rwyf nawr yn awyddus i gael sylwadau ar y cynigion, a hoffwn annog pawb sydd â diddordeb i ymateb erbyn y dyddiad cau, sef 27 Tachwedd 2018.

Yn olaf, hoffwn ychwanegu y byddwn yn ymgynghori ar set o reoliadau pellach sy'n ymwneud â gwasanaethau mabwysiadu – a fydd yn sefydlu proses ddau gam ar gyfer cymeradwyo darpar fabwysiadwyr – gan ddechrau yn nes ymlaen y mis hwn.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.