Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel y Gweinidog Tai ac Adfywio, fy mhrif flaenoriaeth yw darparu tai o safon i bobl Cymru. Ein huchelgais, fel y nodwyd yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb, yw bod gan bawb yng Nghymru gartref diogel, fforddiadwy sy’n hybu ac yn hyrwyddo bywyd ffyniannus. I lawer o bobl, caiff y dyhead hwn ei wireddu drwy fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. O ganlyniad i'r cynnydd mewn prisiau tai a'r cynnydd yn y gofynion o ran y blaendal, fodd bynnag, mae'n fwy anodd i bobl sydd o bosibl am brynu cartref gael eu hunain ar yr ysgol tuag at wireddu hynny. Rydym wedi ymrwymo i wella'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i'r bobl hynny sydd am berchen ar eu cartref eu hunain.

Yn rhan o'r gwaith hwn, rwyf am ymrwymo heddiw £70 miliwn o gyllid tuag at lansio dau gynllun newydd sef Rhentu i Berchnogi – Cymru a Rhanberchnogaeth – Cymru. Bydd y ddau, mewn ffyrdd gwahanol, yn cynnig y cyfle i deuluoedd sy'n gallu fforddio'r taliadau morgais misol ond sydd heb y lefel o flaendal sy'n ofynnol fel arfer i brynu cartref, fynd ati i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.

Cynllunio'r Cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru

O dan y cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru, bydd darpar brynwyr yn talu rhenti ar lefel y farchnad ar gyfer cartrefi sydd newydd eu hadeiladu gan gymdeithasau tai sy'n rhan o'r cynllun. Byddant hefyd yn cael yr opsiwn i'w prynu o ddiwedd ail flwyddyn y cyfnod rhentu.

O fwrw ymlaen â'r opsiwn i brynu, bydd y darpar brynwr yn derbyn yn rhodd swm a fydd yn gyfatebol i 25% o'r rhent maent wedi'i dalu a 50% o unrhyw gynnydd yng ngwerth y cartref, i'w ddefnyddio fel blaendal ar gyfer y morgais. Bydd hyn yn eu helpu i brynu'r cartref maent yn ei rentu.

Cynllunio'r Cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru

Cynllun yw Rhanberchnogaeth – Cymru  sy'n gyfuniad o brynu cyfran o'r eiddo a rhentu cyfran o'r eiddo ac mae'n addas i ddarpar brynwyr sydd â rhywfaint o flaendal wrth law ond sy'n methu cael gafael ar lefel y morgais i brynu'r cartref yn ei gyfanrwydd. Gall darpar brynwyr brynu cyfran gychwynnol o 25% i 75% o werth cartrefi sydd newydd eu hadeiladu sydd ar gael ar gyfer y cynllun hwn gan gymdeithasau tai sy'n rhan o'r cynllun.

Gallant gynyddu cyfran eu perchentyaeth i fod yn berchen ar yr eiddo yn ei gyfanrwydd ar unrhyw adeg. Bydd yn rhaid talu rhent ar y gyfran nad ydynt yn berchen arni.

Caiff cyllid ei roi i landlordiaid a fydd yn rhan o'r cynllun eleni i ddechrau adeiladu cartrefi newydd ar gyfer y cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru a'r cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru.  Mae nifer bychan o gartrefi ar gael ar gyfer y ddau gynllun ar hyn o bryd ond bydd rhagor o gartrefi ar gael dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i ddod.

Rwyf hefyd heddiw yn lansio'r wefan newydd ar gyfer Eich Cartref yng Nghymru. Bydd yr adnodd hanfodol yma yn darparu gwybodaeth bwysig am holl gynlluniau perchentyaeth Llywodraeth Cymru i bawb sydd am berchen ar eu cartref eu hunain. Bydd y canllawiau clir yn fodd i'w helpu i benderfynu pa gynllun sy'n gweddu orau i'w hamgylchiadau personol hwy.