Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad heddiw ar y cynllun mawr arfaethedig ar gyfer Maes Awyr Caerdydd.

O ganlyniad i brynu'r maes awyr gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn 2013, mae’r maes awyr  wedi gweld mwy o dwf yn nifer y teithwyr nag  erioed o'r blaen.  Yn 2017 gwelwyd cynnydd o 9% yn nifer y teithwyr ar gyfer y flwyddyn galendr gyda dros 1,468 miliwn o gwsmeriaid yn teithio drwy'r Maes Awyr yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae'r ffigur hwn yn golygu twf o bron i 50% yn nifer y teithwyr ers i Faes Awyr Caerdydd ddod i berchnogaeth gyhoeddus.

Bu hefyd fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn y prif adeilad, i wella profiad y teithwyr, a gwneud Maes Awyr Caerdydd yn fwy deniadol a chyfforddus ar gyfer teithwyr busnes a hamdden.  

Ond ni fydd newidiadau cosmetig yn ddigon i baratoi y maes awyr hwn ar gyfer y dyfodol, i fod yn un o'r prif byrth rhyngwladol i dde Cymru, i greu'r argraff gyntaf hollbwysig hwnnw fel gwlad hyderus, sy'n datblygu ac am gysylltu â'r byd, a lleoliad sy'n gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer busnes, hamdden a dysgu.

Gan bod y maes awyr bellach wedi sefydlu ei hun a hefyd yn gwella, mae'n iawn i Lywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd, gydweithio fel tîm, i bennu cynllun strategol ar gyfer dyfodol sy'n ychwanegu at y llwyddiannau diweddar ac sy'n edrych ymlaen at sicrhau bod y maes awyr yn addas ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.

Mae gan deithwyr, rhanddeiliaid, trigolion lleol a busnesau bellach y cyfle i ddweud eu dweud ar gynlluniau y maes awyr yn y dyfodol.

Mae angen i'r Cynllun Mawr sicrhau bod y maes awyr yn parhau i fod yn fwy cystadleuol ac atyniadol, ac iddo fod yn borth i deithio a masnachu yn rhyngwladol, ar gyfer de Cymru a thu hwnt.

Rwy'n croesawu datblygiad y cynllun mawr, sydd wedi'i gynllunio i barhau ac ehangu twf y maes awyr, gyda'r nod o gynyddu nifer y teithwyr i dri miliwn y flwyddyn, tra'n cynnig profiad gwych ar gyfer y rhai hynny sy'n teithio ar gyfer busnes a hamdden.

Bydd y cynnig cyffrous hwn ar gyfer y prif adeilad newydd yn galluogi twf mewn teithwyr ac yn rhoi capasiti i ddenu mwy o gwmnïau awyrennau yn gwasanaethu llwybrau newydd.

Ond bydd y cynllun mawr hwn yn cynnig mwy o fanteision na thwf mewn teithwyr yn unig.  Yn y Cynllun Gweithredu Economaidd a lansiwyd gennyf ym mis Rhagfyr y llynedd, amlinellodd y Llywodraeth ddull newydd o fuddsoddi mewn busnes a'r economi a chael cymaint â phosib o'r economi.  Mae datblygu rhagor o gysylltiadau awyr â gweddill y DU, Ewrop a thu hwnt yn hanfodol i lewyrch hirdymor Cymru.

Ond yn ehangach, mae'r Cynllun Gweithredu Economaidd yn pennu ein huchelgais i wella sgiliau ein gweithlu a chreu seilwaith cysylltiedig sy'n cefnogi twf a buddsoddiad.  Mae'r cynllun meistr a lansiwyd heddiw yn ymgorfforiad o'n Cynllun Gweithredu Economaidd.

Pan gafodd y Cynllun Gweithredu Economaidd ei greu, roeddem yn cydnabod swyddogaeth bwysig y Maes Awyr fel rhan o'r weledigaeth o dwf cynhwysfawr. I ddatblygu ymhellach mae'n hanfodol i'r maes awyr gael cysylltiadau gwell a seilwaith trafnidiaeth ehangach gan ei alluogi i gefnogi twf a buddsoddiad.

Bydd ein cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru yn gweld dwy drên bob awr yn gwasanaethu rheilffordd Bro Morgannwg o 2023. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cyfnewidfa fysiau newydd ar gyfer gorsaf Y Barri i gynnig cyfleusterau o safon uchel ar gyfer cysylltiadau bws â'r Maes Awyr i deithwyr sy'n defnyddio'r bedair trên yr awr drwy orsaf Y Barri.

Rydym yn buddsoddi £26 miliwn i wella 5 Mile Lane, ac wedi buddsoddi yn natblygiad y cynlluniau cychwynnol ar gyfer cysylltu o ben gogleddol 5 Mile Lane i'r M4 ar gyffordd 34.

Mae nifer y teithwyr yn parhau i godi ar lwybr T9, sy'n elfen bwysig o'n rhwydwaith bysiau cenedlaethol Traws Cymru.

Mae mynediad o safon uchel, dibynadwy, hawdd ei ddefnyddio a chyflym ar yr wyneb ar reilffyrdd, ffyrdd a bysiau yn hollbwysig i bob maes awyr, ac nid yw Caerdydd yn wahanol yn hyn o beth.  Rydym yn parhau i fuddsoddi i wella mynediad ar yr wyneb i Faes Awyr Caerdydd i ganiatáu iddo gyflawni'r uchelgeisiau a bennwyd heddiw.

Yn gynharach eleni gwnaeth y llywodraeth fuddsoddiad ecwiti pellach o £6miliwn i gwmni y maes awyr, er mwyn dod yn nes at yr amser pan fydd gwerth y maes awyr yn fwy na'r swm yr ydym wedi'i fuddsoddi ynddo.  

Wrth i'r busnes barhau i ddatblygu tuag at darged eleni o 1.65 o deithwyr, bydd gwerth y cwmni yn parhau i gynyddu.  

Nid oes gan Weinidogion fwriad i werthu cyfran y Llywodraeth yn y cwmni er mwyn ei werthu.  Mae'r llywodraeth am weld twf cynaliadwy yn nifer y teithwyr a chryfder y fantolen, ond yn bwysicach rydym am weld Maes Awyr Caerdydd yn sbardun i ddatblygu economi Cymru.  

Bydd angen i'r buddsoddiad fydd ei angen i gyflawni'r cynllun datblygu ddod o'r farchnad, nid dim ond y llywodraeth, a golyga hyn y byddwn yn dod o hyd i ffyrdd newydd i o fod yn bartneriaid â'r sector preifat.

Mae'r cynllun mawr yn gyfuniad o waith Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Sain Tathan.

Gwnaeth Bwrdd yr Ardal Fenter argymhelliad clir y dylem ddatblygu cynllun oedd yn cyfuno anghenion y maes awyr â gofynion ehangach o ran adfywio economaidd y tu hwnt i ffiniau'r maes awyr. Oherwydd y cyd-destun ehangach hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi dod yn bartneriaid â Maes Awyr Caerdydd i ddatblygu'r cynllun cynhwysfawr hwn.

Nid oedd y llywodraeth am weld cynllun mawr ar gyfer y maes awyr a oedd yn edrych ar anghenion y maes awyr yn unig.  Mae gan y cynigion a lansiwyd heddiw sylfaen a rhesymeg llawer ehangach.  

Mae'r cynllun mawr yn cyd-fynd â'n cynlluniau ehangach ar gyfer Ardal Fenter Sain Tathan.

Mae maes awyr a pharc busnes Sain Tathan i ddod o dan reolaeth sifiliaid o'r 1af Ebrill 2019.

Gall y llywodraeth gyhoeddi y bydd Maes Awyr Sain Tathan yn cael ei reoli a'i weithredu gan Faes Awyr Caerdydd o dan Fenter ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â chynnig mwy o hyblygrwydd i ddefnyddwyr y safle, dros y 10 mlynedd nesaf, rhagwelir y bydd y fenter ar y cyd yn arbed £20 miliwn i Lywodraeth Cymru, o gymharu â'r trefniadau presennol.

Byddwn yn hyrwyddo parc busnes Sain Tathan ar gyfer prosiectau datblygu economaidd o bob sector.

Rydym yn hyderus y bydd parc busnes Sain Tathan yn cefnogi 2000 o swyddi o fewn yr ardal fenter dros y 10 mlynedd nesaf.

Bydd y cynllun mawr yn cefnogi'r uchelgeisiau hyn.

Mae'n bwysig nawr bod rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn cymryd yr amser i ystyried y cynigion a bennwyd heddiw.