Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ysgrifennu i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar lansio contract newydd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.  

Bydd yr aelodau yn cofio, yn dilyn proses gaffael gystadleuol, o dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, i KeolisAmey gael y contract i weithredu contract gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau.

Mae heddiw yn nodi diwrnod llawn cyntaf y contract gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau newydd, wedi i'r berthynas 15 mlynedd gyda Trenau Arriva Cymru ddod i ben ddydd Sul.

Gyda'r buddsoddiad yn rhoi cyfanswm o bron £5 biliwn dros y ddegawd a hanner nesaf, caiff ein rhwydwaith ei drawsnewid i fodloni anghenion cymunedau ledled Cymru yn well. Rydym wedi ymrwymo £800 miliwn i ddarparu trenau newydd ar draws y rhwydwaith, fydd erbyn 2023 yn golygu bod 95% o deithiau rheilffyrdd yn cael eu gwneud ar drenau newydd. Bydd £194 miliwn yn cael ei roi i wella profiadau teithwyr yn ein gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

Mae £738 miliwn wedi ei glustnodi i foderneiddio'r rheilffyrdd metro canolog, gan alluogi mwy o drenau i redeg pob awr. Ar ben hynny, bydd cyfleoedd ar gyfer gwaith, sy'n cael ei gysylltu'n uniongyrchol â'r contract newydd, gyda 600 o swyddi newydd yn cael eu cynnig a chyfanswm o 450 o brentisiaid dros gyfnod 15 mlynedd y contract.

Mae hwn yn amser cyffrous i Gymru, gyda nifer o fanteision dros y 15 mlynedd nesaf. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Trafnidiaeth Cymru wrth gyflawni'r newidiadau trawsnewidiol hyn ar ein rhan.