Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu grantiau addysg cyn-16 ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Cynnwys
Grant Addysg Awdurdod Lleol
Mae ein cyllid grantiau addysg cyn-16 yn cynnwys 4 elfen ariannu:Rydym wedi cyfuno rhywfaint o'n cyllid grantiau addysg cyn-16 yn 4 elfen ariannu:
- Safonau Ysgolion.
- Tegwch.
- Diwygio.
- Cymraeg 2050.
Safonau ysgolion
Diben cyllid Safonau Ysgolion yw cefnogi safonau mewn ysgolion a lleoliadau ledled Cymru. Mae'n cynnwys cyllid a fydd yn cael ei ddosbarthu i ysgolion gan ddefnyddio fformiwla genedlaethol. Mae hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer addysg gynnar mewn lleoliadau nas cynhelir a chyllid i awdurdodau lleol gefnogi ysgolion a lleoliadau i godi safonau.
Tegwch
Mae'r elfen hon yn cynnwys cyllid sy'n cefnogi tegwch mewn polisïau addysg. Bydd y deilliannau'n cefnogi amcanion polisi tegwch gan gynnwys:
- y grant datblygu disgyblion
- plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal
- presenoldeb
- dysgwyr ethnig leiafrifol ac sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- dysgwyr a addysgir yn y cartref
- ysgolion bro
Diwygio
Mae'r elfen hon yn cynnwys cyllid a fydd yn cefnogi mentrau diwygio addysg. Bydd yn cefnogi deilliannau ar gyfer:
- Cwricwlwm i Gymru
- dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth
- anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant meddyliol
Cymraeg 2050
Mae'r elfen hon yn cynnwys cyllid sy'n cefnogi ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol i wireddu amcanion Cymraeg 2050.
Bydd pob un o'r 4 elfen ariannu yn cael ei rhoi i awdurdodau lleol drwy'r Grant Addysg i Awdurdod Lleol. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddirprwyo'r rhan fwyaf o'r cyllid hwn i ysgolion a lleoliadau. Byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol wneud hyn cyn gynted â phosibl ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Cyllid safonau ysgolion
Dosbarthu’r cyllid
Mae'r cyllid ar gyfer Safonau Ysgolion yn werth cyfanswm o £178.1 miliwn. O hyn:
- bydd 92.2% yn cael ei ddosbarthu i ysgolion ac i ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, 'y Grant Safonau Ysgolion' fydd ei enw
- bydd 5% yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol ar gyfer Addysg Gynnar a bydd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer lleoliadau nas cynhelir
- bydd gweddill y cyllid, ynghyd ag arian (cyfatebol) awdurdodau lleol eu hunain yn cael ei ddefnyddio i gefnogi safonau addysg
Mae'r cyllid i gefnogi safonau addysg yn ymwneud â'r cymorth ychwanegol y mae awdurdodau lleol yn ei roi i ysgolion a lleoliadau eraill. Defnyddir y cymorth ychwanegol hwn i wneud y canlynol:
- cyflwyno mesurau gwella ysgolion
- gwella safonau ysgolion
Y Grant Safonau Ysgolion
Sut y caiff y grant ei bennu
Dyraniadau grant ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027
Mae'r fformiwla yn seiliedig ar ddata CYBLD 2025.
Mae’r dyraniadau fel a ganlyn:
- ar gyfer pob dysgwr o'r dosbarth meithrin i Flwyddyn 11 bydd ysgolion yn cael £96.34
- ar gyfer pob dysgwr mewn ysgol wledig yn nosbarthiad gwledig neu drefol 1, 2 neu 3, bydd yr ysgol yn cael £96.34 yn ychwanegol
Bydd ysgolion arbennig yn cael:
- £192.67 ychwanegol ar gyfer pob dysgwr
- cyfandaliad ychwanegol o £11,500
I gefnogi cymarebau dysgu sylfaen:
- bydd ysgolion yn cael £664.16 yn ychwanegol am bob dysgwr meithrin
- bydd ysgolion yn cael £1,328.32 yn ychwanegol am bob dysgwr mewn dosbarth derbyn
- bydd ysgolion yn cael £664.16 yn ychwanegol am bob dysgwr ym Mlwyddyn 1 a Blwyddyn 2
I gefnogi llwybrau dysgu 14 i 16:
- bydd ysgolion yn cael £204.73 yn ychwanegol am bob dysgwr ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11
Yr hyn y mae'n ei olygu i ysgolion
Bydd ysgolion yn derbyn y Grant Safonau Ysgolion. Y cyfanswm y bydd ysgolion a lleoliadau yn ei gael am hyn yw £164.2 miliwn.
Cyllid grant arall ar gyfer ysgolion a lleoliadau
Mae gan rai rhannau o'r elfennau ariannu Tegwch a Diwygio gyllid a fydd hefyd yn cael ei ddirprwyo i ysgolion a lleoliadau.
Elfennau ariannu Tegwch
Grant Datblygu Disgyblion
Dyrennir hwn ar sail nifer y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM) mewn unrhyw un o'r ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddefnyddio data CYBLD 2024 a CYBLD 2025. Mae'n cael ei ddyrannu ar gyfradd o £1,150 y dysgwr. Cyfanswm y swm a ddirprwywyd ar gyfer hyn yw £116.5 miliwn. Mae £5.7 miliwn arall yn cael ei ddyrannu ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027, bydd cyllid Grant Datblygu Disgyblion ychwanegol ar gael. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol er mwyn iddynt benderfynu sut y caiff ei ddosbarthu. Fodd bynnag, rydym wedi dweud wrth awdurdodau lleol bod yn rhaid dirprwyo'r cyfan o'r £4.2 miliwn ychwanegol sydd ar gael i ysgolion a lleoliadau.
Elfennau ariannu diwygio
Dysgu proffesiynol
Dyrennir hwn ar sail nifer yr athrawon cymwysedig a chynghorwyr anghenion dysgu ychwanegol gan ddefnyddio data Cyfrifiad Blynyddol 2024 o’r gweithlu ysgolion. Ar gyfer ysgolion arbennig, mae'r nifer hwn yn cynnwys rhai aelodau ychwanegol o staff. Cyfanswm y gost ar gyfer hyn yw £13.5 miliwn.
Ansawdd a Chyflenwi ADY
Dyrennir hwn fel cyfandaliad ar gyfer pob ysgol neu leoliad. Mae dyraniad pellach wedi'i seilio ar nifer y dysgwyr o'r dosbarth meithrin i Flwyddyn 11, gan ddefnyddio data CYBLD 2025. Cyfanswm y gost ar gyfer hyn yw £10.4 miliwn.
