Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei adroddiad ar gyfer 2016 ar gynnydd y Deyrnas Unedig o ran gweithredu hawliau plant ers yr adroddiad diwethaf yn 2008.

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.  Nododd y Pwyllgor gynnydd Cymru mewn perthynas â hawliau plant. Er enghraifft, nodwyd ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, sydd â’r nod o gefnogi’r gwaith o wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Nodwyd hefyd yr ymdrechion i gydlynu gwell ymateb i achosion o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant.  Yn ogystal, fe wnaeth y Pwyllgor ganmol ymdrechion Cymru i hyrwyddo’r hawl i chwarae.

Wrth gwrs, mae ein gwaith mewn perthynas â hawliau plant yn parhau.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r lle canolog i hawliau plant yn ein gwaith o lunio polisïau.  Mae argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig a’i sylwadau terfynol wedi rhoi cyfle arall inni adolygu ein gwaith ar hawliau plant ac ystyried sut y gallwn barhau i wella.

Mae argymhellion y Pwyllgor yn cyffwrdd â nifer o feysydd, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol megis parchu barn plant; trais yn erbyn plant; amgylchedd teuluol a gofal amgen; anabledd; iechyd a lles sylfaenol; ac addysg, hamdden a gweithgareddau diwylliannol.

Mae rhai o’r argymhellion yn ymwneud â meysydd nad ydynt wedi’u datganoli ac fe weithiwn, wrth gwrs, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a cheisio dylanwadu arni wrth iddi ystyried y materion hynny.

Yng Nghymru, mae momentwm yn parhau i ddatblygu mewn sawl maes lle y mae gennym y pwerau i wneud gwahaniaeth. Rwyf wedi tynnu sylw at rai o’r meysydd allweddol isod lle y mae cynnydd wedi cael ei wneud, neu yn digwydd ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad yn bwrw ymlaen â’u hymdrechion mewn perthynas â’r egwyddor a’r amcan o barchu barn plant, a hynny drwy roi mwy o gyfleoedd i blant gyfrannu at y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Yn dilyn pleidlais unfrydol gan Aelodau’r Cynulliad ar 19 Hydref 2016, cyhoeddodd y Llywydd ei bwriad i sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru.  Ers hynny, mae Comisiwn y Cynulliad wedi gweithio gyda Grŵp Llywio’r Senedd Ieuenctid i ddatblygu ac ymgynghori ar y cynnig i sefydlu Senedd Ieuenctid. Cynhelir etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd 2018 er mwyn ethol 60 o aelodau ifanc. Bydd pobl ifanc yn ethol 40 o’u cyfoedion, a chaiff yr 20 o aelodau eraill eu hethol gan sefydliadau sy’n bartneriaid. Bydd hyn yn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yn cael eu cynrychioli.

Bydd hyn yn ategu gwaith Cymru Ifanc sy’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc drwy grwpiau, fforymau a chynghorau ieuenctid, a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan roi cyfle iddynt ddweud eu dweud wrth Lywodraeth Cymru am y materion sydd o bwys iddynt. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru, gan gydweithio â Chymru Ifanc, yn ymgynghori â phobl ifanc ar eu gobeithion a’u pryderon mewn perthynas â Brexit.

Mae rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn fater o bwys i bobl ifanc sydd am gael llais a dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yn eu hardal leol a thrwy Gymru gyfan. Ym mis Gorffennaf 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar roi’r bleidlais i bobl 16 oed, fel rhan o raglen ehangach o ddiwygio’r system etholiadol, gyda golwg ar fwrw ymlaen â’r polisi hwn. Ymgysylltodd swyddogion â rhanddeiliaid a phartneriaid sy’n gweithio gyda phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod wedi cael cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaith hwn mewn Bil Llywodraeth Leol yn ogystal ag ystyried pa ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ac i addysgu y mae eu hangen i gyd-fynd ag estyn yr etholfraint, er mwyn rhoi gwybod i bobl ifanc am eu hawl i bleidleisio. Mae’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y mater hwn eisoes wedi dechrau.

Fy ngobaith i yw y gwelwn bobl ifanc 16 ac 17 oed yn chwarae rhan lawn yn y broses ddemocrataidd o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol i bob dysgwr, beth bynnag fo’u hanghenion a’u cefndir, i sicrhau y gallant fanteisio ar addysg o safon uchel er mwyn cyrraedd eu potensial.

Dyma brif nod y Rhaglen i Drawsnewid y System Anghenion Dysgu Ychwanegol a fydd yn sicrhau bod dysgwyr yn cael y lle canolog yn y broses. Un agwedd allweddol o’r rhaglen hon yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018. Bydd y Ddeddf yn cyflwyno un fframwaith deddfwriaethol i gefnogi pob dysgwr rhwng 0 a 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, pa mor ddifrifol neu gymhleth bynnag yw eu hangen. Bydd y fframwaith yn gwella’r broses o gynllunio a chyflwyno darpariaeth ddysgu ychwanegol, drwy ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar unigolion er mwyn nodi anghenion yn gynnar, rhoi system gymorth a monitro effeithiol ar waith, ac addasu ymyriadau er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni’r canlyniadau priodol.

Mae lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr sydd o dan anfantais a’u cyfoedion yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac rydym yn dal i fod yn ymroddedig i’r Grant Datblygu Disgyblion am weddill tymor y Cynulliad hwn. Bydd yr ymrwymiad hirdymor hwn yn galluogi ysgolion i wneud penderfyniadau hirdymor a chynaliadwy ar fuddsoddiad, sy’n helpu i nodi a mynd i’r afael â rhwystrau i ddysgu yn gynnar.

Yn ogystal, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi dros £8 miliwn yn 2018-19 i gefnogi addysg ar gyfer dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Mae ein hymrwymiad i ddeddfu er mwyn dileu’r amddiffyniad o ran cosbi plant yn gorfforol yn dangos pa mor benderfynol yr ydym i warchod hawliau plant.  Rydym wedi ymgynghori ar ein cynnig i gyflawni hyn a byddwn yn cyhoeddi crynodeb a dadansoddiad o’r ymatebion yn fuan. Mae hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau i gefnogi plant a’u rhieni drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor o ran defnyddio technegau mwy cadarnhaol i fagu plant, naill ai drwy ein rhaglenni, drwy gydweithio â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, neu drwy ein hymgyrch “Magu plant – Rhowch amser iddo”.

Mae ein rhaglenni ymyrraeth gynnar yn parhau i weithio mewn ffordd broactif â phlant a theuluoedd er mwyn tynnu sylw at faterion penodol a mynd i’r afael â hwy cyn iddynt ddod yn broblem.

Yn 2016-17, fe wnaeth ein rhaglen Dechrau’n Deg gefnogi dros 37,000 o blant a’u teuluoedd, gan ragori ar ein targed o 36,000. Mae darparu gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed yn elfen allweddol o Dechrau’n Deg, ac mae’r rhaglen yn cynnig gofal plant i rieni pob plentyn cymwys, a hynny am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am gyfnod o 39 wythnos. Mae’r ddarpariaeth gofal plant yn canolbwyntio ar wella deilliannau ar gyfer plant bach.

Mae Cymru’n arwain gwaith ymchwil sy’n edrych ar yr effeithiau posibl yn sgil Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, ac rwyf yn ystyried sut y gallwn leihau niferoedd y Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a helpu plant i feithrin y gallu i oresgyn problemau.  Fel rhan o’r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith y Ganolfan Gymorth ar gyfer Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, er mwyn galluogi gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ar draws sectorau megis addysg, tai a’r heddlu i ddod yn fwy gwybodus am brofiadau o’r fath.

Mae Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ochr yn ochr â’i waith i wella mynediad at wasanaeth clinigol pan fo’i angen, yn mapio a gwerthuso rhaglenni atal ac ymyrryd yn gynnar drwy ei ffrwd waith Ymyriadau Cynnar a Gwell Cymorth i Grwpiau sy’n Agored i Niwed. Mae hyn yn cynnwys Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, sy’n gwneud gwaith i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd angen cymorth penodol yn ei gael mewn ffordd gydlynol.  

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn gofal plant o safon, er mwyn cefnogi teuluoedd â’u dewisiadau cyflogaeth, a sicrhau bod plant yn derbyn gofal a chymorth er mwyn iddynt allu datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.  

Cyflawni ein cynnig gofal plant yw un o brif ymrwymiadau’r Llywodraeth ar gyfer y tymor hwn, sef darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i ariannu gan y Llywodraeth i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair blwydd oed, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn.  Gan ddod ag addysg gynnar a gofal plant at ei gilydd, rydym yn cefnogi plant i bontio i addysg lawn-amser ac, ar yr un pryd, yn galluogi rhieni i gael mynediad at gyflogaeth gan wella rhagolygon teuluoedd.  

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i gryfhau ac ategu ein hymrwymiad i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu byw eu bywydau mewn ffordd sy’n caniatáu iddynt ffynnu a llwyddo, a hynny mewn amgylchedd diogel sy’n helpu i’w meithrin.  Bydd hyn yn golygu bod angen i bob rhan o’r Llywodraeth weithio gyda’i gilydd a chyda phartneriaid y tu allan i’r Llywodraeth, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn gwneud cynnydd pellach yn y blynyddoedd i ddod.

Mae adroddiad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru - gweler y ddolen isod. Gofynnaf i bawb, yn enwedig y rhai hynny sydd â diddordeb ym maes plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, i ystyried yr argymhellion a wnaed a sut y gallwn ni i gyd helpu i sicrhau bod hawliau plant yn rhan annatod o’n cymdeithas.

https://gov.wales/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/rights/?skip=1&lang=cy