Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Rhagfyr cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig i'ch hysbysu bod Llywodraeth Cymru am gyflwyno cynllun ar gyfer trwyddedu arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid yng Nghymru. Testun balchder inni fel gwlad yw bod gennym safonau lles anifeiliaid rhagorol ac mae disgwyl i bawb gefnogi hynny trwy fod yn berchenogion cyfrifol. Mae datblygu'r cynllun trwyddedu hwn yn cryfhau'n hymrwymiad i sicrhau'r safonau lles uchaf ar gyfer pob anifail a gedwir yng Nghymru.

Mae Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid yn cynnwys arddangosfeydd heboga teithiol, anifeiliaid anwes egsotig sy’n cael eu harddangos mewn ysgolion at ddibenion addysgol, a cheirw Llychlyn mewn digwyddiadau adeg y Nadolig, a syrcasau wrth gwrs.

Caiff ymgynghoriad llawn ei gynnal yn 2018 a byddwn yn parhau i  gydweithio'n glos â rhanddeiliaid i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu cynllun trwyddedu sy'n cael effaith barhaol ar safonau lles anifeiliaid yng Nghymru. Rydym wedi cael ar ddeall bod gweinyddiaethau eraill y DU wrthi'n ystyried cynlluniau tebyg a byddwn yn monitro datblygiadau i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn ategu'i gilydd.

Er nad oes gan Gymru ei syrcasau ei hun, maen nhw'n ymweld â'r wlad ac mae'n bwysig nad ydym yn diystyru anghenion lles eu hanifeiliaid. Rwy'n chwilio am gyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Rwyf am ddysgu oddi wrth y craffu a fu ar y Wild Animals in Travelling Circuses (Scotland) Act 2018, yn enwedig y dadleuon moesol a lles o blaid gwaharddiad. Bydd gofyn inni ystyried geiriad cynigion ar gyfer gwaharddiad tebyg yng Nghymru rhag iddo effeithio ar bob Arddangosfa Deithiol a ddaw o dan drwydded. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ystyried yr opsiynau sydd ar gael i Weinidogion Cymru.