Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Rhagfyr 2017, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu'r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol a oedd yn cynnwys cyhoeddi y byddai Aelodau Cyswllt yr Academi yn cael eu recriwtio ar gyfer rhaglen beilot.

Mae 12 Aelod Cyswllt bellach wedi cael eu dewis a fyddant mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar waith cychwynnol yr Academi a helpu i sicrhau ei henw da ymhlith arweinwyr ysgol a llywio rôl Aelodau Cyswllt yn y dyfodol.

Bydd Aelodau Cyswllt yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen datblygu arweinyddiaeth gyntaf a gynllunnir ar ran yr Academi. Bydd y rhaglen hon yn datblygu ac yn atgyfnerthu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn chwarae rôl arwain system strategol ledled Cymru.

Y 12 Aelod Cyswllt yw:

  • Gill Ellis - Ffederasiwn Cynradd Blenheim Road a Choed Eva (Torfaen)
  • John Kendall – Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga (Caerffili)
  • Christine Jackson – Ysgol Gynradd Glasllwch (Casnewydd)
  • Jeremy Griffiths – Ysgol Gwynedd (Sir y Fflint)
  • Gwyn Tudur – Ysgol Uwchradd Tryfan (Gwynedd)
  • Sue Roberts – Ysgol Ffordd Dyffryn (Conwy)
  • Clive Williams – Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Ceredigion)
  • Jan Waldren – Ysgol Gyfun Pontarddulais (Abertawe)
  • Karen Lawrence – Ysgol Gynradd Llanfaes (Powys)
  • Janet Hayward – Ysgol Gynradd Tregatwg (Bro Morgannwg)
  • Emma Coates – Ysgol Gynradd Llanhari (Rhondda Cynon Taf)
  • Huw Powell – Ysgol Uwchradd y Fair Ddihalog (Caerdydd)