Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn adroddiad gan banel annibynnol ar farwolaethau cleifion yn ysbyty Gosport War Memorial Hospital yn Hampshire, canfuwyd bod bywydau o leiaf 456 o gleifion wedi eu byrhau yn sgil defnyddio cyffuriau opioid heb gyfiawnhad, rhwng 1989 a 2000. Er bod yr adroddiad yn edrych yn benodol ar bryderon ynghylch safonau gofal Gosport, dyma gyfle pwysig i atgoffa pob darparwr gofal am bwysigrwydd systemau a phrosesau cadarn i ddefnyddio cyffuriau opioid a chyffuriau eraill a reolir mewn ffordd ddiogel. Mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd gwrando ar bryderon staff, cleifion a'u hanwyliaid, a gweithredu ar y pryderon hynny.

Mae'n hanfodol i ni gael trefniadau cadarn yn eu lle ar gyfer goruchwylio a defnyddio cyffuriau a reolir er mwyn cyfyngu ar niwed i'r cleifion, camddefnydd a throseddau.  Digwyddodd y marwolaethau trasig hyn yn Ysbyty Gosport nifer o flynyddoedd yn ôl. Yn y cyfamser, fe wnaed cryn dipyn i wella rheolaeth a goruchwyliaeth o'r defnydd o gyffuriau a reolir o fewn y GIG. Gosodwyd mesurau i alluogi a gorfodi'r GIG a darparwyr gofal iechyd i fonitro eu defnydd o gyffuriau a reolir, a chadarnhau bod mesurau sicrhau ansawdd a diogelwch yn eu lle ar gyfer y gofal sy'n cael ei ddarparu ganddynt. Mae Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac ysbytai annibynnol Cymru benodi Swyddog Atebol Cyffuriau a Reolir. Rhaid i'r Swyddog Atebol fod yn berson cymwys a phriodol, digon profiadol. Bydd ganddo amrywiol gyfrifoldebau yn ymwneud â rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir yn ddiogel. Ymysg y cyfrifoldebau mae sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i fonitro ac archwilio’r defnydd o gyffuriau a reolir ac ymchwilio i unrhyw bryderon sy'n cael eu codi mewn perthynas â rheolaeth neu ddefnydd amhriodol ohonynt. Mae rheoliadau yn rhoi pwerau i'r Swyddog Atebol weithredu pan fo pryderon dilys yn ymwneud â diogelu cleifion neu aelodau o'r cyhoedd, mewn achosion o bryder yn ymwneud â rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir.

Mae rheoliadau hefyd yn caniatáu i fyrddau iechyd lleol sefydlu Rhwydweithiau Gwybodaeth Lleol Cyffuriau a Reolir gyda chynrychiolwyr o fyd iechyd, gofal cymdeithasol, rheoleiddwyr iechyd a gofal a'r heddlu, er mwyn hwyluso'r broses o rannu a thrafod pryderon.

Ein polisi yw dilyn dull gweithredu seiliedig ar dystiolaeth wrth bresgripsiynu a gweinyddu pob meddyginiaeth. Er mwyn sicrhau bod sefydliadau yn cadw at y dull gweithredu hwn, rydym yn gyson yn mesur perfformiad mewn meysydd allweddol drwy ddangosyddion presgripsiynu cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys nifer yn ymwneud â defnydd o gyffuriau opioid.

Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i ddiwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw. Gall cleifion a staff fynegi pryderon ynghylch gofal neu driniaeth drwy broses 'Gweithio i Wella'. Mae'r broses hon yn hyrwyddo diwylliant o fod yn agored drwy egwyddorion 'Bod yn Agored'.  Ar ben hynny, mae polisi chwythu'r chwiban drwy Gymru gyfan sy'n galluogi staff i fynegi pryderon pan fyddant yn credu bod achos o gamweddau neu gamymddygiad. Diben y polisi hwn yw darparu trefn fewnol ar gyfer adrodd, ymchwilio a gwneud yn iawn am unrhyw gamymddygiad/ymarfer amhriodol yn y gweithle.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.