Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiwyd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol fis Chwefror diwethaf i helpu i wneud iawn am y diffyg yn y buddsoddiad confensiynol mewn seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn darparu dros £1bn o fuddsoddiad angenrheidiol ar gyfer ein rhaglen gyfalaf sy’n ychwanegol at ein cyllidebau cyfalaf sy’n lleihau, cyllid yr UE a’n pwerau benthyca cyfalaf newydd.

Pan lansiais y model, dywedais yn glir y byddai – yn wahanol i’r hen fodel Menter Cyllid Preifat sydd bellach wedi colli hygrededd – yn hyrwyddo budd y cyhoedd, gan gynnwys llesiant a gwerth am arian. Bydd yn ofynnol i bartneriaid preifat fabwysiadu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a sefydlu lefelau uchel o gynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd prosiectau'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn hyrwyddo gwerth am arian drwy ddarparu ecwiti cyhoeddus, mabwysiadu contractau safonol y gellir eu hatgynhyrchu ac allgáu'r gwasanaethau sy’n gallu cael eu hariannu'n fwy effeithiol drwy gyllidebau cyfalaf. Bydd tryloywder yn cael ei hyrwyddo drwy benodi cyfarwyddwyr budd y cyhoedd i fyrddau prosiect y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

Ers lansio’r Model y llynedd, mae Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig wedi dangos diddordeb mawr yn y model, yn enwedig yn y ffordd y mae hyrwyddo budd y cyhoedd yn cyd-fynd ag amcanion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer datblygu partneriaethau cyhoeddus-preifat Pobl yn Gyntaf yn fyd-eang.

Gwahoddwyd Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Model ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa ym mis Mai. O ganlyniad i hynny, mae'r Model wedi'i gyhoeddi yng nghasgliad y Cenhedloedd Unedig o ddarpar Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat Pobl yn Gyntaf. 

Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Mae fy swyddogion wedi bod yn rhan o drafodaethau â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat i gael eglurder ynghylch y rheolaeth a'r dylanwad y gall y sector cyhoeddus eu harfer dros weithrediadau partneriaid preifat sy'n cyflawni prosiectau'r Model. Mae Eurostat wedi dod i'r casgliad – am y tro cyntaf, rwy'n credu – bod modd i'r sector cyhoeddus arfer dewis o reolaethau penodol, a elwir yn faterion a gedwir yn ôl, wrth sicrhau bod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn parhau wedi'i ddosbarthu i'r sector preifat.

Mae penderfyniad Eurostat ar gael yma.

Mae’r gwaith o ddatblygu achosion busnes yn parhau ar gyfer y tri phrosiect y Model, sef deuoli rhannau 5 a 6 o'r A465, y Ganolfan Ganser newydd yn Felindre a Band B o’r rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Rwy'n disgwyl i'r cynllun cyntaf yn y llif, sef yr A465, fod yn barod ar gyfer penderfyniad i fynd ati i gaffael ddiwedd yr haf.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y prosiectau o dan y Model.