Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydym yn cyhoeddi ein papur polisi Brexit diweddaraf, Diwygio trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU ar ôl Brexit.

Bydd Brexit yn effeithio ar bob gwlad a rhanbarth yn  y DU ac mae'n rhaid i ni ystyried sut y bydd y DU yn gweithredu y tu allan i'r UE. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau sut y bydd trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU yn esblygu i ymateb i'r amgylchiadau a'r heriau newydd, i ddarparu eglurder i fusnesau a chymunedau ac, yn anad dim, codi hyder ar gyfer y dyfodol.

Mae Brexit yn cynnig cyfle i lunio system ariannu newydd a fydd yn gwarantu buddsoddiad teg a pharhaus lle bo'i angen, yng Nghymru ac yng ngweddill y DU. Dylai hyn hefyd helpu i egluro agweddau pwysig o berthynas y DU yn y dyfodol â rhwydweithiau'r UE, gan gynnwys parhau i gael mynediad at gyllid ac arbenigedd Banc Buddsoddi Ewrop.

Rydym yn dweud unwaith eto na ddylai Cymru golli ceiniog o gyllid yn sgil Brexit, ac y dylai Llywodraeth y DU wneud yn iawn am unrhyw gyllid yr UE sy'n cael ei golli heb unrhyw amodau na chymryd cyfran ei hun.

Y ddogfen hon yw'r ddiweddaraf yn ein cyfres sy'n gosod cynigion manwl ar gyfer Brexit, gyda'r nod o gyfrannu'n adeiladol i'r drafodaeth am ddyfodol y DU y tu allan i'r UE. Mae'n gosod yr achos dros Brexit a fyddai'n diogelu buddiannau Cymru, ac yn dadlau dros ymagwedd bragmataidd a chytbwys a fyddai'n cynnig system ariannu gadarn i wasanaethu'r DU am sawl degawd i ddod.