Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gosodwyd dyletswydd ar Weinidogion Cymru gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 nid yn unig i roi sylw dyledus i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau am ddeddfwriaeth a pholisïau newydd neu ddeddfwriaeth a pholisïau sydd eisoes yn bodoli, ond hefyd i gyhoeddi adroddiad ar yr hyn a wnaed ganddynt hwy a'r Prif Weinidog i gydymffurfio â'r ddyletswydd. Cafodd y trefniadau hyn eu hamlinellu yn y Cynllun Hawliau Plant a gymeradwywyd gan Aelodau’r Cynulliad yn 2014.

Mae'n dda gen i gyhoeddi'r trydydd adroddiad ar ein trefniadau cydymffurfio fel y nodwyd yn y Cynllun Hawliau Plant. Yn ôl yr adroddiad, yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf, rydym wedi rhoi sylw dyledus i hawliau plant wrth ddatblygu neu adolygu polisi a deddfwriaeth.  Mae hefyd yn ymwneud â'n gwaith ehangach yn gysylltiedig â hawliau plant a hybu ymwybyddiaeth amdanynt y tu allan i'n sefydliad ni.

I ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant ac i annog cyrff cyhoeddus eraill i ddefnyddio'r fframwaith, rydym wedi strwythuro'r Adroddiad Cydymffurfedd o gwmpas y pum egwyddor a nodwyd yng nghanllawiau'r Comisiynydd Plant sef Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru.  

Mae'r Cynllun Hawliau Plant presennol yn adlewyrchu'r trefniadau oedd yn eu lle yn 2014 i roi'r Mesur ar waith. Credaf ei bod hi'n bryd erbyn hyn i edrych ar yr hyn a wnaed gennym mewn perthynas â hawliau plant a'i ddiweddaru.  Byddwn yn ystyried yn llawn yn ystod y misoedd sydd i ddod, drwy ymgynghori â phlant a phobl ifanc, Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau rhanddeiliaid eraill, cyn cynnig unrhyw newidiadau neu ofyn am gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Ein nod yw cwblhau'r gwaith erbyn diwedd 2018.