Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Comisiynais Equiventus Ltd i adolygu Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 (y Ddeddf) ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi ar waith yr ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar y pryd i gynnal adolygiad ymhen tair blynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym. Comisiynwyd yr adolygiad i ystyried a yw’r Ddeddf:  

• yn addas i’r diben, ac a yw’r Awdurdodau Lleol sydd wedi defnyddio’r ddeddfwriaeth neu sy’n ei defnyddio ar hyn o bryd yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf;

• wedi dod â manteision i gymunedau ledled Cymru yn ogystal â bod er lles gorau’r anifeiliaid dan sylw  

Ymatebodd Llywodraeth Cymru’n gyflym i roi’r Ddeddf ar waith ar ôl i Awdurdodau Lleol, elusennau ceffylau a’r Heddlu alw am gamau brys i fynd i’r afael â phori anghyfreithlon a cheffylau a merlod yn crwydro ac yn cael eu gadael ledled Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau cyfreithiol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru fynd i’r afael â phori anghyfreithlon.

Rwy’n falch o weld bod yr adroddiad yn nodi bod tystiolaeth glir yn dangos gostyngiad yn nifer y ceffylau sy’n achosi problemau ers cyflwyno Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 dair blynedd yn ôl yn sgil pori anghyfreithlon a cheffylau a merlod yn crwydro ac yn cael eu gadael ledled Cymru.

Yn ogystal, yn ôl yr adroddiad, mae tystiolaeth yn dangos bod y gostyngiad hwn wedi’i achosi gan nifer o ffactorau pwysig, gan gynnwys: cyflwyno’r Ddeddf yn gyflym, cynyddu nifer y rhaglenni i addysgu perchnogion ceffylau, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r problemau posibl, a chydweithio’n well â’r holl randdeiliaid wrth fynd i’r afael â’r problemau.
 
Yn ôl yr adroddiad, mae’r Ddeddf wedi cael effaith gadarnhaol ond, wrth gwrs, “nid da lle gellir gwell”.

Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ddarparu’r adroddiad, gan dynnu sylw holl awdurdodau lleol Cymru a’r holl randdeiliaid a gyfrannodd at y gwaith at ei argymhellion. Rwyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion drafod yr argymhellion ag aelodau’r Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid er mwyn sefydlu dull partneriaeth o ddatblygu cynigion i roi argymhellion yr adroddiad ar waith lle bernir bod newid yn briodol.
 
Rwy’n ddiolchgar i staff Equiventus Ltd am eu hamser a’u harbenigedd a phawb a gyfrannodd eu hamser mor hael yn ystod y broses o gynnal yr adolygiad. Mae ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i’r 14 o argymhellion a wnaed gan Equiventus Ltd i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â’r adroddiad. 
http://gov.wales/topics/environmentcountryside/ahw/horses/control-of-horses-wales-act-2014/?lang=cy