Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gwasanaethau delweddu diagnostig yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o adnabod clefydau yn gynnar ac yn gywir er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth iawn cyn gynted â phosibl. Fel arfer mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan Adrannau Radioleg (pelydr-X) dryw amryw o dechnolegau, gan gynnwys: radiograffau (pelydr-X), uwchsain, delweddu atseiniol magnetig (MRI) a Tomograffeg Allyriant Positron – Tomograffeg Gyfrifiadurol (PET-CT).

Gall Cymru hefyd ymfalchïo yn ei safle blaenllaw ym maes cyfleusterau delweddu arloesol, a'i henw da yn rhyngwladol yn sgil y gwaith a wneir yng Nghanolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC) a Chanolfan Delweddu Tomograffeg Allyriant Positron Cymru (PETIC). Bydd Academi Ddelweddu Genedlaethol GIG Cymru ym Mhencoed yn agor ym mis Ebrill 2018. Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn, gan weithio gyda'n partneriaid i ymateb i heriau ar lefel gwasanaethau.

Mae gwasanaethau delweddu'n wynebu nifer o heriau sylweddol megis y galw cynyddol am ddulliau delweddu cywir ac anfewnwthiol; materion sy’n ymwneud â’r gweithlu megis recriwtio, hyfforddi, ac ymddeol; yr angen i roi diagnosis cyflymach ar gyfer cyflyrau; technegau a thechnolegau delweddu newydd. Gallai heriau o'r fath olygu oedi diangen wrth roi diagnosis a thriniaeth, ac mae yna dystiolaeth gref bod angen inni weddnewid ein darpariaeth o wasanaethau.

Er mwyn inni allu ymateb i'r heriau hyn, mae'n hanfodol ein bod yn datblygu cynllun gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer gwasanaethau delweddu GIG Cymru. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, mae Tasglu Delweddu, o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, wedi dod ynghyd i baratoi Datganiad o Fwriad strategol ar gyfer y dyfodol.

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r Datganiad o Fwriad ar gyfer Gwasanaethau Delweddu sy'n disgrifio'n fanylach y gwaith a fydd yn cael ei ddatblygu o dan wyth maes o flaenoriaeth allweddol.

  • ymgysylltu â'r cyhoedd
  • datblygu'r gweithlu
  • cyfarpar
  • ansawdd
  • gwasanaethau
  • gwybodeg a gwybodaeth
  • gwaith ymchwil ac arloesedd
  • llywodraethu.

Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i lunio cynllun gweithredu i Gymru sydd â'r nod o ddarparu gwasanaethau delweddu o ansawdd uchel mewn GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Bydd y cynllun hwnnw’n gwneud y canlynol:

  • disgrifio sut y bydd yr Academi Ddelweddu Genedlaethol ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cydweithio i greu gweithlu delweddu hyblyg a chynaliadwy
  • nodi'r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn cyfarpar delweddu, a gwella'r dulliau o gydgysylltu hynny
  • cryfhau'r sail dystiolaeth ar gyfer gwasanaethau delweddu er mwyn helpu i wella ansawdd a darparu gofal iechyd darbodus
  • datblygu Rhwydwaith Cymru gyfan i sicrhau bod y gwasanaethau a darperir wedi eu hintegreiddio ac yn deg
  • gwella systemau TG i wella a chysoni dulliau o gofnodi data
  • cryfhau dulliau o gydweithredu ym meysydd ymchwil ac arloesi er mwyn ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau
  • hyrwyddo rhagoriaeth drwy ddefnyddio dulliau meincnodi cenedlaethol a rhyngwladol mewn perthynas â gwasanaethau delweddu;
  • cefnogi'r gwaith o wella capasiti arweinyddiaeth y gwasanaethau delweddu a’i hatebolrwydd.

Bydd y cynllun gweithredu yn dod â llawer o fanteision i gleifion, teuluoedd a phobl Cymru, sef manteision megis:

  • gwasanaeth delweddu mwy effeithlon a darbodus, sy'n defnyddio adnoddau lle mae'r angen mwyaf amdanynt; a,
  • diagnosis cynharach a chywirach, fel bod modd ymyrryd yn gynnar a chynnig triniaeth sydd wedi'i thargedu'n well, a allai olygu bod pobl yn ymateb yn well i driniaeth, yn dioddef llai o sgil-effeithiau, ac yn gwella'n gyflymach ar ôl salwch.

Rwyf wedi gofyn i'r Tasglu Delweddu barhau â'i waith da ac i helpu i ddatblygu'r cynllun gweithredu. Bydd y Tasglu, sy'n cynnwys arbenigwyr o GIG Cymru a swyddogion o Lywodraeth Cymru, o dan arweiniad Dr Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol (Iechyd), yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru wrth ddatblygu'r cynllun. Rwyf wedi gofyn i'r Tasglu roi adroddiad imi erbyn haf 2018.

Datganiad o Fwriad ar gyfer Gwasanaethau Delweddu Diagnostig