Mae Swyddogion Cyswllt Coedwig Cenedlaethol yn cefnogi perchnogion coetiroedd sydd am wneud eu safle yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Mae chwe swyddog cyswllt, ledled Cymru, yn gweithio i ddatblygu rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol.
Mae swyddogion cyswllt yn gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru a gallant helpu perchnogion coetiroedd drwy rannu gwybodaeth a rhoi cyngor am:
- creu a gwella safleoedd coetiroedd
- gwneud ceisiadau ar gyfer Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru
- cyfleoedd ariannu coetiroedd a choedwigoedd
Gallwch gysylltu â Swyddog Cyswllt y Goedwig Genedlaethol drwy:
Ffônio: 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm) Ebost: NationalForestWalesStatus@naturalresources.wales
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Cyfoeth Naturiol Cymru: