Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2017.

Mae’n amlinellu nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, yn rhoi manylion y newidiadau a’r trosglwyddiadau rhwng portffolios y Gweinidogion ac yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 14 Chwefror a bydd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 6 Mawrth.