Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda rhanddeiliaid allweddol, rwyf wedi cytuno i gyfarwyddo byrddau iechyd Cymru i ddarparu gwasanaethau terfynu beichiogrwydd i fenywod o Ogledd Iwerddon.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth hon yn cael ei darparu’n effeithiol i fenywod o Ogledd Iwerddon ac i wneud yn siŵr bod gwasanaeth cydradd yn cael ei ddarparu i fenywod Cymru, bydd canllawiau ar sut i gael gafael ar ddarpariaeth terfynu beichiogrwydd yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan Galw Iechyd Cymru.

Rhagwelir mai isel fydd nifer y menywod o Ogledd Iwerddon ac mae’r byrddau iechyd wedi sicrhau Llywodraeth Cymru y bydd modd iddynt ymdopi â’r ddarpariaeth hon gyda’r adnoddau sydd ganddynt yn barod. Fodd bynnag, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gynnal adolygiad o’r sefyllfa ar ôl chwe mis.

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad i’w weld ar y tudalennau ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru.

https://beta.llyw.cymru/gwasanaethau-terfynu-beichiogrwydd-i-fenywod-o-ogledd-iwerddon