Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Rhagfyr diwethaf, gofynnais i Banel Annibynnol dan arweiniad yr Athro Mick Waters gyda chefnogaeth yr Athro Melanie Jones a Syr Alasdair Macdonald gynnal adolygiad annibynnol o Gyflog ac Amodau Athrawon Ysgol ac i awgrymu cynigion a allai gefnogi’n diwygiadau addysg unwaith y bydd Cymru’n ysgwyddo cyfrifoldeb am y maes hwn o 30 Medi 2018.

Mae’r Panel wedi cyhoeddi ei adroddiad yn sgil yr adolygiad i’w ystyried gan Weinidogion Cymru, ein partneriaid mewn awdurdodau lleol, y proffesiwn a phawb sydd â buddiant ym myd addysg Cymru.  

Mae ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflog ac amodau athrawon yn gam pwysig iawn i’n gwlad a’n system addysg. Nid yw system Lloegr yn briodol na pherthnasol mwyach nac o fantais i’r proffesiwn yma.

Rwy’n cytuno gyda Mick, Melanie ac Alasdair bod teitl yr adroddiad, ‘Addysgu: proffesiwn gwerthfawr’, yn dangos y rolau allweddol sydd gan athrawon a phenaethiaid i sicrhau'r cyfleoedd gorau mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc. Byddwn ond yn gallu cyflawni hyn gyda system sy’n seiliedig ar werthoedd tegwch a rhagoriaeth ac ymrwymiad i addysg gwasanaeth cyhoeddus cynhwysol. Mae hyn yn allweddol i gefnogi a chryfhau’r proffesiwn addysgu.

Hoffwn ddiolch i Mick, Melanie ac Alasdair am eu gweledigaeth, eu huchelgais a’u  gwreiddioldeb wrth lunio’r set gynhwysfawr iawn o argymhellion; pob un yn rhoi ystyriaeth benodol i anghenion Cymru a’r proffesiwn yma.

Byddaf nawr yn ystyried y cynigion yn fanwl ac yn gwneud datganiad pellach maes o law.

Rwyf hefyd am adeiladu ar drafodaethau blaenorol a chyfredol gydag undebau a phartneriaid eraill, i sicrhau bod yna system briodol ar gyfer pennu’r argymhellion hynny sy’n effeithio’n uniongyrchol ar gyflog ac amodau athrawon.

Drwy gydweithio fel hyn gallwn ddarparu system gynaliadwy sy’n cefnogi’n hathrawon ac yn codi safonau i bawb.

Mae’n gyfle rhy dda i’w golli.

Mae copi o’r adroddiad yn: htthttps://beta.llyw.cymru/addysgu-ac-arweinyddiaeth