Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 23 Tachwedd 2017, cyhoeddais y byddai Cod y Gweinidogion yn cael ei ddiwygio, fel bod modd i honiadau ynghylch mynd yn groes i’r Cod gael eu cyfeirio at gynghorydd annibynnol a fyddai’n ffynhonnell allanol ac annibynnol o gyngor i mi.

Nid yw’r Cod yn rhagnodi cwmpas, fformat na dull cynnal unrhyw ymchwiliad y gellir gofyn i’r Cynghorydd ymgymryd ag ef. Mater i’r Cynghorydd yw penderfynu sut i weithredu ar faterion a gyfeirir ato gan Brif Weinidog Cymru.

Cytunais â James Hamilton, sydd ar hyn o bryd yn Gynghorydd Annibynnol i Lywodraeth yr Alban, y byddai’n derbyn atgyfeiriad gennyf mewn perthynas â honiadau imi fynd yn groes i God y Gweinidogion.

Ar 5 Rhagfyr, ysgrifennais at Mr Hamilton i ofyn am ei gyngor ynglŷn â’r honiad imi fynd yn groes i God y Gweinidogion mewn perthynas ag atebion a roddais i’r Cynulliad Cenedlaethol ar 11 Tachwedd 2014 ac 14 Tachwedd 2017.

Mae Mr Hamilton bellach wedi cwblhau ei ymchwiliad ac wedi darparu ei gyngor i mi ar ffurf adroddiad. Rwyf heddiw’n gosod yr adroddiad llawn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, heb unrhyw ailolygu (dolen allanol).