Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddariadau polisi a llywodraethu TB buchol diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llywodraethu

Ein Dogfennau Polisi a Rhaglen TB 

Mae ein polisi a'n chynllun cyflawni ar gyfer Dileu TB Gwartheg yn nodi sut rydym yn bwriadu dileu'r clefyd erbyn 2041. I weld y ddogfen hon, cliciwch ar y ddolen isod: 

Rhaglen dileu TB Gwartheg Cymru: cynllun cyflawni 2023 | LLYW. CYMRU 

Grŵp Cynghori Technegol 

 Mae'r Grŵp Cynghori Technegol yn rhoi cyngor arbenigol annibynnol i Lywodraeth Cymru ar y rhaglen dileu TB drwy Ferdd y Rhaglen Dilau TB. 

Cyfarfu'r TAG am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2024, gan ystyried trefniadau lladd ar ffermydd yn y lle cyntaf. Yn dilyn argymhellion y TAG, gwnaed newidiadau i'r polisi presennol ar unwaith i leihau nifer y gwartheg y mae angen eu lladd ar ffermydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Gohirio symud gwartheg at ddiben rheoli TB.

Mae'r TAG hefyd wedi ystyried tystiolaeth mewn perthynas â pholisi Adweithyddion Amhendant, wedi ystyried data TB a bylchau mewn tystiolaeth mewn perthynas â bywyd gwyllt.

Am fwy o wybodaeth am y TAG ac i weld cofnodion cyfarfodydd gweler: Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg Cymru 

Bwrdd y Rhaglen 

Bydd y Bwrdd Rhaglen yn darparu argymhellion strategol i Lywodraeth Cymru ar TB mewn gwartheg, gan ddefnyddio cyngor gan y TAG.

 

Cyfarfu'r Bwrdd Rhaglen am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2024 a thrafod cyngor gan y TAG ar bolisi Adweithyddion Amhendant. Ym mis Mai 2025 cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig newidiadau i bolisi Adweithyddion Amhendant ar ôl derbyn cyngor y TAG a'r Bwrdd Rhaglen ar y pwnc. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma Plenary 13/05/2025 - Welsh Parliament.

Polisi

Gellir gweld y newidiadau polisi diweddaraf yn natganiad y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y Rhaglen Dileu TB Cyfarfod Llawn 13/05/2025 - Senedd Cymru].

Manylion cyswllt 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch llywodraethu neu bolisïau newydd, cysylltwch â'r tîm TB gwartheg gan ddefnyddio'r e-bost canlynol: BovineTB@llyw.cymru  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cyflwyno polisïau presennol yng Nghymru, cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion gan ddefnyddio'r manylion isod: 

Ffôn: 0300 303 8268
E-bost: APHA.CymruWales@apha.gsi.gov.uk 
Gwefan: Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion