Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Hydref 2024.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 217 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn am newidiadau arfaethedig i ymestyn trefniadau rhannu swydd ar gyfer aelodau etholedig mewn prif gynghorau i gynnwys rolau nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) ac Atodlen 7 iddi yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2000 i'w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau wneud darpariaeth sy'n galluogi dau neu ragor o gynghorwyr i rannu swydd ar y weithrediaeth honno, gan gynnwys swydd arweinydd y weithrediaeth.
Rydym yn cynnig cyflwyno rheoliadau i ganiatáu rhannu swyddi yn achos rhai rolau nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth o fewn prif gynghorau.
