Arweiniad i Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024
Canllawiau ar reolau rheoli newydd yn ein pysgodfeydd cocos cyhoeddus a reolir
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024
Trosolwg
Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut y bydd Gweinidogion Cymru’n rheoli’r pysgodfeydd cocos cyhoeddus (y rhai nad ydynt o dan Orchymyn Rheoleiddio) ar ôl i orchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024 yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2024.
Termau allweddol
- ardal benodedig – ardal (neu bysgodfa gyhoeddus) sydd wedi cael ei grybwyll yn y Gorchymyn newydd lle cynaeafir cocos am resymau masnachol ac sy'n cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru.
- asesiad amgylcheddol – a wneir os yw'r gwely cocos mewn ardal warchodedig amgylcheddol. Nod yr asesiad yw sicrhau nad yw unrhyw benderfyniad a wneir wrth agor gwely cocos yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.
- cocos (Cerastoderma edule) – math o bysgod cregyn bwytadwy a elwir hefyd yn folysgiaid dwygragennog ac y gellir dod o hyd iddynt mewn traethau tywodlyd ledled y byd.
- cwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol – cwrs sy'n dysgu pobl sy'n ei ddilyn i ddod yn gyfarwydd ag asesu risg, gwybodaeth am lanwau, canfod lleoliad, peryglon croesi dŵr ac ardaloedd meddal, y ddeddfwriaeth ar ddefnyddio cychod masnachol a sut i ofyn am gymorth mewn argyfwng.
- gornifer cocos y gellir eu cynaeafu – swm y cocos sydd ar gael i'w casglu ar wely cocos, gan ganiatáu i rai gael eu gadael i dyfu ar gyfer y flwyddyn nesaf a gadael rhai ar gyfer adar sy'n gaeafu i fwydo arnynt.
- gwely cocos - ardal o dywod neu waddod mân lle mae casgliad o gocos yn bresennol.
- llestr – mae hyn yn cyfeirio at long/cwch a ddefnyddir i gario cocos y pysgotir amdanynt neu a gymerir o wely cocos. (Bydd amodau'r drwydded yn egluro pa ddull cludiant y gellir ei ddefnyddio i fynd at y cocos a'u symud ymaith o welyau penodol e.e. gall hyn fod yn gwch neu'n feic cwad).
- pwysau byw – pwysau cocos byw pan fyddant yn cael eu pwyso mewn sachau rhwyllog gweuedig.
- safle gwarchodedig perthnasol – ardal ddynodedig lle mae rhywogaethau prin neu bwysig yn byw ac yn cael eu gwarchod gan y gyfraith.
- terfyn dalfa dyddiol – Er mwyn gwarchod stociau, mae'n bosibl y bydd angen cyfyngu ar faint o gocos y caniateir i gasglwyr ei gymryd mewn un diwrnod. Bydd deiliad trwydded yn cael gwybod os bydd hyn yn digwydd a faint o gocos (mewn pwysau) y caniateir iddo eu cymryd bob dydd.
- un cyfnod trwydded – gellir gwneud cais am drwydded unrhyw bryd rhwng 1 Mehefin a 31 Mai y flwyddyn ganlynol. Bydd disgwyl i ymgeiswyr dalu ffi'r drwydded lawn pryd bynnag y byddan nhw'n gwneud cais. Fodd bynnag, ni fydd ymgeiswyr yn gallu cael trwydded am gyfnod o lai na mis.
Agor a chau pysgodfeydd cocos cyhoeddus
Bydd yr holl bysgodfeydd cocos cyhoeddus a reolir gan Lywodraeth Cymru yn aros ar gau nes eu bod yn cael eu hagor yn swyddogol. Bydd pob pysgodfa gocos yn agor unwaith y bydd wedi'i hasesu ac y ceir cadarnhad bod digon o gocos ar gael i'w casglu.
Hysbysir pob deiliad trwydded trwy e-bost a hysbysiad cyhoeddus ar wefan LLYW.CYMRU bod pysgodfa wedi'i hagor neu ei chau.
Gellir cael gwybodaeth am agor a chau pysgodfeydd fel a ganlyn:
- gellir rhoi gwybod i ddeiliad trwydded trwy e-bost neu ddull cyfathrebu arall.
- bydd cyhoeddiad yn cael ei roi ar wefan LLYW.CYMRU.
- gallai hysbysiad gael ei osod ger y bysgodfa gocos neu'r gwely cocos gyda manylion y bysgodfa a dolen i wefan LLYW.CYMRU lle gwelwch yr wybodaeth ddiweddaraf.
Arolygon
O leiaf unwaith y flwyddyn bydd Llywodraeth Cymru'n cynnal arolwg o bob pysgodfa gocos gyhoeddus i asesu faint o gocos a geir ynddi. Os oes digon o gocos, bydd ‘gornifer cocos y gellir eu cynaeafu’ (y nifer mwyaf y gall casglwyr ei gymryd heb effeithio ar iechyd y stoc neu'r amgylchedd) yn cael ei gyfrifo ar gyfer y bysgodfa. Bydd hyn yn sicrhau bod digon o gocos yn cael ei adael fel stoc magu ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac i fwydo adar sy'n gaeafu.
O ganlyniadau'r arolwg, mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n gallu cyfrifo pa bryd yw'r amser gorau i gasglu'r cocos. Bydd amodau yn cael eu gosod i sicrhau bod unrhyw waith casglu cocos yn cael ei wneud mewn modd diogel ac nad yw'n effeithio ar yr amgylchedd.
Cais am drwydded
Mae angen trwydded i gasglu cocos yn fasnachol ar bysgodfa gocos gyhoeddus yng Nghymru. Gellir rhoi trwydded i unrhyw un sydd wedi llenwi'r ffurflen gais yn gywir, wedi bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a thalu'r ffi. Yna gellir defnyddio'r drwydded ar unrhyw un o'r pysgodfeydd cocos cyhoeddus a reolir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i hagor yn swyddogol. Dim ond deiliad y drwydded fydd yn cael defnyddio'r drwydded. Ni chaiff unrhyw un arall ei defnyddio.
Gall ymgeisydd wneud cais am drwydded os:
- yw'n 16 oed neu'n hŷn
- yw wedi bod ar gwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol yn ystod y 3 blynedd diwethaf a bod darparwr y cwrs wedi rhoi tystysgrif
- nad yw wedi'i gael yn euog o drosedd sy'n gysylltiedig â physgodfa o fewn y 12 mis diwethaf. Os yw'r ymgeisydd o dan 18 oed, ni fydd wedi'i gael yn euog o drosedd sy'n gysylltiedig â physgodfa o fewn y 6 mis diwethaf
Ers i Orchymyn 2024 ddod i rym, gwneir pob cais am drwydded ar-lein drwy'r dudalen we "gwneud cais am drwydded pysgodfeydd Cymru" sydd ar gael yn LLYW.CYMRU. Bydd angen i'r ymgeisydd wneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen i allu llenwi pob rhan o'r cais yn gywir wrth law. Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu prosesu a byddant yn cael eu dileu'n awtomatig o'r system ar ôl saith niwrnod.
Cyn llenwi'r cais, bydd angen i'r ymgeisydd wneud yn siŵr bod ganddo'r prawf canlynol wrth law:
- dogfen adnabod (trwydded yrru neu basbort)
- dogfen ychwanegol sy'n cynnwys enw a chyfeiriad e.e. bil nwy neu drydan
- rhif a/neu dystysgrif a gafwyd ar gwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol.
- rhif Yswiriant Gwladol neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (os yw'n hunangyflogedig)
- os defnyddir cwch i gario cocos o'r bysgodfa/gwely cocos bydd angen y dystiolaeth ganlynol:
- cymhwyster Meistr Llong/Cwch.
- gwybodaeth am y llong/cwch a ddefnyddir, gan gynnwys rhif tystysgrif codio Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA).
Bydd angen i'r ymgeisydd wneud yn siŵr hefyd ei fod yn gallu talu'r ffi ar-lein wrth wneud cais. Bydd ffi'r drwydded yn cael ei defnyddio i dalu am gost rheoli'r pysgodfeydd cyhoeddus, gan gynnwys unrhyw gostau gweinyddol a gwyddonol.
Amodau'r drwydded
Pan fydd trwydded yn cael ei rhoi, cyhoeddir set o reolau (amodau) hefyd yr un pryd. Bydd yr amodau hyn yn berthnasol i’r bysgodfa gocos neu wely cocos unigol sydd wedi'i hagor yn swyddogol. Bydd angen eu darllen yn ofalus gan na fydd pob amod yr un fath, gan ddibynnu ar yr ardal y mae'r cocos yn cael eu casglu ohoni. Bydd holl amodau'r drwydded yn cynnwys manylion, cyfesurynnau a mapiau o'r ardal lle gellir casglu cocos a'r gornifer y gellir eu cynaeafu y tymor hwnnw. Bydd yr amodau yn nodi hefyd pa fath o offer y bydd deiliad y drwydded yn cael ei ddefnyddio. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar amodau'r bysgodfa a'r amgylchedd lleol.
Bydd angen i ddeiliad y drwydded edrych ar y wefan bob dydd i sicrhau bod y bysgodfa gocos/gwely cocos ar agor cyn mynd ati i gasglu.
Ambell waith, bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r amodau os bydd yr amgylchiadau'n newid. Gall newidiadau i amodau trwydded gynnwys y canlynol:
- newid y gornifer cocos y gellir eu cynaeafu
- terfyn dalfa dyddiol (os yw'r rheolwyr wedi penderfynu bod angen hyn)
- maint glanio lleiaf
- dyddiadau, amseroedd neu lanwau pan na chaniateir pysgota am gocos na chymryd cocos
- dulliau neu gyfarpar y caniateir eu defnyddio neu ei ddefnyddio wrth bysgota am gocos neu gymryd cocos
- dulliau mynediad i'r ardal neu wely cocos benodedig (er enghraifft, gallai hyn olygu mewn cwch neu feic cwad ac ati, yn dibynnu ar yr ardal a'r amgylchedd o amgylch y bysgodfa)
Lle medrir, hysbysir deiliaid trwyddedau ac weithiau rhanddeiliaid eraill am unrhyw newidiadau cyn iddynt ddigwydd.
Eithriadau i'r drwydded
Nid oes angen trwydded os ydych chi'n casglu hyd at 5kg o gocos bob dydd i'w fwyta yn bersonol.
Nid oes angen trwydded os ydych chi'n casglu cocos at ddibenion gwyddonol. Fodd bynnag, bydd angen i chi ofyn am ganiatâd Llywodraeth Cymru ymlaen llaw a rhoi tystiolaeth o'r angen gwyddonol am gasglu'r samplau o gocos.
Os canfyddir bod rhywun yn torri'r eithriadau uchod, rhaid rhoi'r cocos yn ôl mor gyflym ac mor agos â phosibl at ble cawsant eu casglu, a'u gwasgaru'n denau ac yn gyfartal i sicrhau eu bod yn goroesi.
Ardal benodedig
Yr 'Ardal Benodedig' y cyfeirir ati yng Ngorchymyn 2024 yw lle y mae yna bysgodfeydd cocos cyhoeddus a reolir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cyfesurynnau yn Atodlen 1 o Orchymyn 2024 yn cyfeirio at y pysgodfeydd cocos canlynol:
- Pysgodfa'r Tair Afon (mae'r bysgodfa hon yn cynnwys pum gwely cocos h.y. Llansteffan, Llanybri, Llanismel/Tan-y-lan, Glanyfferi a Gwendraeth)
- Whiteford
- Cilfach Tywyn
- Traeth Lafan
- Traeth Melynog
- Traeth Coch
Ceir mapiau o'r ardaloedd hyn ar wefan LLYW.CYMRU yn: Mapiau Ardaloedd Penodedig
