Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r gwrthdaro yn Syria wedi arwain at ddadleoli dros 4 miliwn o ffoaduriaid, yn bennaf i wledydd eraill yn y rhanbarth hwnnw. Fodd bynnag, mae rhai o'r bobl sydd wedi mudo oherwydd y gwrthdaro wedi ymgymryd â theithiau peryglus i Ewrop i chwilio am ymgeledd. Mae gan Gymru hanes balch o groesawu pobl anghenus, fel ffoaduriaid o Wlad Belg yn y Rhyfel Byd Cyntaf,  ffoaduriaid o Wlad y Basg yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen neu ffoaduriaid Iddewig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Rydym yn ymateb i'r argyfwng parhaus yn Syria â'r un lefel o ddyngarwch, gan ddarparu noddfa ddiogel i ffoaduriaid o Syria a'u teuluoedd ledled Cymru.

Sefydlwyd Tasglu Ffoaduriaid Syria Cymru ym mis Tachwedd 2015.  Ers hynny, mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud o ran helpu i adsefydlu pobl sydd wedi goroesi'r argyfwng dyngarol yn Syria. Mae pob un o 22 Awdurdod Lleol Cymru wedi ymrwymo i chwarae ei ran i ddarparu'r gefnogaeth a'r help sydd eu hangen ar y bobl sy'n ceisio ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru.

Mae'r ystadegau diweddaraf i'w cyhoeddi'n dangos ein bod wedi adsefydlu 397 o ffoaduriaid o Syria erbyn mis Rhagfyr 2016, er bod y gwir rif wedi cynyddu wrth i nifer o deuluoedd gyrraedd ym mis Ionawr a mis Chwefror.  Rydym ar y trywydd iawn i chwarae ein rhan yn llawn ynghyd â rhannau eraill o'r DU. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wneud popeth a allwn i adsefydlu pobl sy'n dal yn byw mewn sefyllfaoedd bregus.

Yn ogystal â'r Rhaglen Adsefydlu Syriaid, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dau gynllun arall yn canolbwyntio ar blant. Mae awdurdodau Cymru yn gweithio i gefnogi'r rhain ar hyn o bryd, sef ‘Rhaglen Adsefydlu Plant mewn Perygl’ (plant sydd efallai ar eu pen eu hunain neu gyda theuluoedd o Ranbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica) a chynllun trosglwyddo ar gyfer plant sydd ar eu pen eu hunain. Mae i bob un o'r cynlluniau hyn ei heriau ei hun, ond mae'n bosibl eu gorchfygu ac rydym yn gweithio i ddatblygu capasiti yng Nghymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn barod i groesawu plant sy'n agored i niwed, boed ar eu pen eu hunain neu gyda'u teuluoedd.

Mae cau gwersyll 'y jyngl' yn Calais yn ddiweddar wedi ysgogi ymdrech ychwanegol o ran canfod lleoedd addas i gefnogi plant ar eu pen eu hunain sy'n agored i niwed, ac sydd wedi cael eu symud o'r gwersyll. Yn berffaith gywir, mae'r cyhoedd yn pryderu am les y plant hyn, ac mae awdurdodau a chymunedau yng Nghymru wedi ymateb gan gynnig help i sicrhau eu bod yn gallu cael eu hadsefydlu'n addas. Yn y tymor hirach, yr her yw sicrhau llwyddiant y gwahanol gynlluniau sy'n cael eu datblygu i alluogi plant a theuluoedd i integreiddio â'r gymdeithas yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio pecyn 'Croeso i Gymru' i helpu gyda hyn, drwy gefnogi ffoaduriaid i ddysgu mwy am eu cartref newydd ac i ymgartrefu'n haws yng Nghymru. Partneriaeth gref rhwng awdurdodau cyhoeddus a'r Trydydd Sector yw'r dull rydym yn ei ddefnyddio i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i deuluoedd sy'n agored i niwed. Mae hyn yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn glir. Mae fframwaith wedi ei osod ar gyfer cefnogi cydweithredu a chydweithio rhwng awdurdodau cyhoeddus a'r trydydd sector, sy'n cael ei arwain gan Dasglu Ffoaduriaid Gweinidogol a Bwrdd Gweithrediadau. Mae'r gwaith o ddiweddaru'r Cynllun Cyflawni Cydlyniant Cymunedol wedi dechrau a bydd hyn yn cynnwys rhoi pwyslais penodol ar gefnogi’r broses o integreiddio ffoaduriaid i'w cymdeithas leol.  Mae ariannu ychwanegol i sicrhau bod gan wasanaethau cyhoeddus well capasiti o ran gofal cymdeithasol a dysgu ieithoedd i helpu'r bobl sy'n dod yma. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn rhoi arian i gefnogi’r ymdrech i gydgysylltu cynlluniau ar gyfer ffoaduriaid yng Nghymru, drwy Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn gweithio ar hyn o bryd i lunio dull neilltuol Cymreig o barhau i gefnogi’r gwaith o adsefydlu'r bobl fwyaf anghenus. Mae rhai ardaloedd heb fawr o brofiad blaenorol, os o gwbl, ym maes cefnogi plant a theuluoedd sy'n ffoaduriaid ac sydd ag anghenion cymhleth yn aml. Bydd y dull hwn yn canolbwyntio, felly, ar sicrhau ein bod yn dod o hyd i leoliadau ar gyfer ffoaduriaid a fydd yn eu helpu i integreiddio i gymdeithas ac yn rhoi cyfle i economi Cymru elwa ar y sgiliau sydd ganddynt. Ar yr un pryd, mae'r ardaloedd sefydlu sefydlog, sef Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe, yn parhau i groesawu a chefnogi ceiswyr lloches sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, law yn llaw â'r rhaglenni adsefydlu ffoaduriaid. Mae Cymru'n gwneud cyfraniad pwysig i'r gwaith o ddarparu noddfa i'r anghenus yn y ffyrdd hyn.

Mae Cymru'n wlad groesawgar a bydd  awdurdodau cyhoeddus a'u partneriaid yn cydweithio i sicrhau ein bod yn parhau i chwarae ein rhan yn y gwaith o gyflawni ein hymrwymiadau cyfreithiol a moesol tuag at y rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth, yn ogystal ag adeiladu cymunedau cynaliadwy yng Nghymru.