Mynnwch ragor o wybodaeth am gynllun Cymorth i Aros - Cymru.
Cynnwys
Am Gymorth i Aros - Cymru
Mae Cymorth i Aros - Cymru yn cynnig cymorth ariannol i berchnogion tai cymwys yng Nghymru sydd:
- yn ei chael hi'n anodd talu eu morgais presennol
- mewn perygl o fod ar ei hôl hi gyda'u morgais
Drwy Cymorth i Aros - Cymru, efallai y byddwch yn gallu cael mynediad at gyngor ariannol am ddim a benthyciad ecwiti a rennir i helpu i wneud eich taliadau morgais misol yn fwy fforddiadwy. Mae'r gefnogaeth hon wedi'i chynllunio i'ch helpu i aros yn eich cartref tra byddwch yn gweithio trwy eich anawsterau ariannol, gan leihau'r risg o adfeddiannu neu ddigartrefedd.
Os nad ydych chi eisoes wedi derbyn cyngor annibynnol ar ddyledion, bydd Cymorth i Aros – Cymru yn eich cyfeirio at gynghorydd dyledion annibynnol, am ddim, a fydd yn adolygu eich cyllid ac yn gwneud argymhellion i'ch helpu i reoli'ch sefyllfa. Os yw'n briodol, efallai y cewch gynnig cyngor morgais am ddim wedyn, ac os ydych chi'n gymwys, ac mai dyma'r opsiwn gorau i chi, efallai y cewch gynnig benthyciad ecwiti a rennir.
Cymhwysedd y Cynllun
Nod Cymorth i Aros - Cymru yw gweithio ochr yn ochr â'r gefnogaeth a gynigir gan eich benthyciwr morgais ac yn unol â Siarter Morgais y DU. I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae’n rhaid i chi:
- fod yn cael anhawster neu'n wynebu anhawster i dalu eich morgais. Efallai y byddwch yn gymwys os yw eich aelwyd:
- eisoes yn methu taliadau neu'n cronni ôl-ddyledion, neu
- mewn perygl o golli taliadau’n fuan — er enghraifft, oherwydd newid mewn amgylchiadau fel cynnydd yn eich cyfradd morgais neu golled incwm
- fod â chyfanswm incwm aelwyd o lai na £67,000:
- ni ddylai incwm gros cyfunol pawb sy'n byw yn eich cartref fod yn fwy na £67,000 y flwyddyn.
Rhaid i'ch eiddo fod:
- yng Nghymru
- eich unig gartref neu brif gartref / prif breswylfa (ni allwch wneud cais os ydych chi'n berchen ar unrhyw eiddo arall neu'n berchen arno'n rhannol)
- wedi'i brisio a bod ei werth yn llai na £300,000
Gall meini prawf eraill fod yn berthnasol, gweler canllawiau'r Cynllun am ragor o wybodaeth.
Eich Benthyciwr Morgais
Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch taliadau morgais, neu'n poeni amdanyn nhw, cysylltwch â'ch benthyciwr morgais cyn gynted â phosibl, neu gallwn ni eich helpu i gysylltu â'ch benthyciwr. Gall eich benthyciwr gynnig opsiynau i'ch helpu i reoli'ch sefyllfa, fel cynllun talu dros dro neu newid i delerau eich morgais.
Sut i wneud cais
I wneud cais, rhaid i chi lenwi a chyflwyno'r ffurflen gais Cymorth i Aros - Cymru.
Mae gwybodaeth am sut i lenwi'r ffurflen gais i'w chael yn y ffurflen.
Cyn cyflwyno cais, mae’n rhaid i chi:
- ddarllen a dilyn y canllawiau yn Cymorth i Aros - Cymru: canllawiau i ymgeiswyr; a
- wneud yn siŵr bod holl berchnogion cofrestredig eich cartref wedi llofnodi'r ffurflen gais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ganllawiau'r cynllun neu sut i lenwi'r ffurflen gais, cysylltwch â ni yn:
Cymorth i Aros – Cymru
Banc Datblygu Cymru
1 Capital Quarter
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer y cynllun Cymorth i Aros - Cymru a'r gefnogaeth sydd ar gael hefyd ar gael yn Cymorth i Aros - Cymru: canllawiau i ymgeiswyr.
