Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 18 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad cryno o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad.

Sefydlwyd ers hynny ni adlewyrchwyd nifer o ymatebion ar-lein yn y crynodeb hwnnw.

Mae'r rhain bellach wedi'u dadansoddi ac mae adroddiad cryno diwygiedig ar yr ymgynghoriad, sy'n cynnwys cyfeiriad at 45 o ymatebion ychwanegol, yn gwneud cyfanswm o 214, yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae'r ymatebion ychwanegol yn adlewyrchu'n fras y safbwyntiau a'r sylwadau a fynegwyd gan yr ymatebion yn yr adroddiad cryno gwreiddiol ac nid ydynt yn newid canlyniad yr ymgynghoriad.

Mae'r holl safbwyntiau a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn cael eu hystyried wrth i Lywodraeth Cymru barhau i ddatblygu polisïau i ddiwygio llywodraeth leol.

Mae'r crynodeb diwygiedig ar gael yn Consultation | Diwygio llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad