Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth i 2017 dynnu i'w therfyn, gallwn bwyso a mesur yr hyn sydd wedi'i wneud yng Nghymru o ran ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Yn gyntaf, derbyniais gyngor gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ynghylch sut i gyfri'r allyriadau yng Nghymru a ninnau wedi cytuno i gyfrif holl allyriadau Cymru. Rwyf wedi gofyn am ragor o gyngor ynghylch sut i bennu'n targedau interim a'r ddwy gyllideb garbon gyntaf. Rwy'n disgwyl ymlaen at ei glywed ar 19 Rhagfyr. Byddaf yn cloriannu'r cyngor ynghyd â'r dystiolaeth ehangach ac yn trafod hyn â chydaelodau'r Cabinet. Cewch ragor o wybodaeth am ein penderfyniad yn y maes allweddol hwn yn haf 2018. 

Law yn llaw â rhoi'r fframwaith deddfwriaethol ar waith, roedd yn hanfodol inni weithredu nawr.  Dros y 12 mis diwethaf, rwyf wedi esbonio fy uchelgais i weld Sector Cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 a lansio'r Cais am Dystiolaeth i randdeiliaid rannu eu barn. Mae'r ymatebion bellach wedi'u cyhoeddi ac rwy'n cynnal digwyddiad flwyddyn nesaf gydag arweinwyr y sector cyhoeddus.  Cewch wybodaeth am y camau nesaf yng Ngwanwyn 2018.

Cyhoeddais hefyd dargedau newydd uchelgeisiol ym maes cynhyrchu ynni adnewyddadwy gyda'r nod bod 70% o'r trydan a losgir yng Nghymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030 a bod elfen o berchenogaeth leol mewn datblygiadau newydd. Byddaf yn gwneud Cais am Dystiolaeth ynghylch perchenogaeth leol cyn hir. Byddaf yn gwneud datganiad ddechrau blwyddyn nesaf am y gwaith sydd wedi'i wneud ers fy natganiad fis Rhagfyr diwethaf ac yn esbonio'r camau nesaf ar gyfer gwireddu'n huchelgais ar gyfer ynni. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn nodi mesurau pellach yng Nghymru ar gyfer taclo allyriadau o'r sectorau pŵer ac amgylchedd adeiledig. Fel rhan o'r gwaith hwn, fy mwriad yw cryfhau'r polisi cynllunio mewn cysylltiad â chodi tanwyddau ffosil a byddaf yn ymgynghori ar newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru yn gynnar flwyddyn nesaf.

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion a sefydlais yn helpu i brysuro'r gwaith hwn ym mhob rhan o'r Llywodraeth. Rydym eisoes wedi edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd y mae retroffitio, cerbydau trydan ac alinio cyllidebau carbon ac ariannol yn eu cynnig. O ganlyniad, rydym wedi gallu cymryd camau buan mewn sawl maes.

Rydym wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Economaidd gan wneud datgarboneiddio yn amod i'n ffyniant yn y dyfodol. Bydd hyn yn help i anfon y signalau cywir i sicrhau bod Cymru'n rhoi ei hunan yn y lle gorau i gael y buddiannau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol mwyaf y gall datgarboneiddio eu cynnig.

Cafodd Cymru ei chynrychioli yn COP23 yn Bonn eleni eto fel rhan o Ddirprwyaeth y DU. Â'r cyd-destun ar gyfer gweithredu rhyngwladol i arafu'r newid yn yr hinsawdd bellach yn glir a'r map ffordd  ar gyfer datgarboneiddio ar lefel fyd-eang wedi'i baratoi, mae'n hanfodol ein bod yn dal i weithio gyda'n partneriaid rhyngwladol i ddysgu gwersi a rhannu arferion gorau â rhwydweithiau fel nrg4SD a Grŵp yr Hinsawdd. Roeddwn yn falch o glywed am lwyddiant cynyddol y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Dan 2 sy'n ymrwymiad gan Daleithiau a Rhanbarthol i sicrhau gostyngiad o 80% o leiaf yn eu hallyriadau. Mae'r rhwydwaith yn cwmpasu 43 o wledydd ar chwe chyfandir, gyda GDP rhyngddynt o US $30 triliwn, sy'n cyfateb i bron 40% o economi'r byd. Mae hyn yn dangos y gall Cymru law yn llaw ag eraill newid y byd. Siaradodd Cymru fel rhan hefyd o sesiwn Platfform Pontio Ynni gyda thaleithiau a rhanbarthau diwydiannol eraill fel Nordrhein-Westfalen i rannu’u profiad o'r broses pontio a mentrau llwyddiannus; eu helpu i lorio rhwystrau a'u galluogi i drosglwyddo a mabwysiadu polisïau ynni glân blaengar.

Eleni, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ynghyd â Maint Cymru a Chanolfan y Dechnoleg Amgen ddigwyddiad i arddangos ein Rhaglen Cymru dros Affrica, gan ganolbwyntio ar brosiect arobryn Maint Cymru. Mae'r prosiect 10 miliwn o Goed yn helpu i leihau tlodi ac  addasu i hinsawdd sy'n newid a lleddfu ei effeithiau. Mae chwe miliwn o goed eisoes wedi'u plannu ac mae bywoliaeth o leiaf 500,000 o bobl wedi gwella diolch i'r rhaglen.

Er mai gwlad fach yw Cymru, mae ein hymrwymiad i weithredu rhyngwladol yn un hir. Mae ein cyfraniad llynedd i Gronfa'r Dyfodol Grŵp yr Hinsawdd wedi helpu Llywodraethau Yucatán, Mecsico a Gorllewin Bengal yn India i wneud mwy i leddfu effeithiau hinsawdd sy'n newid. Hefyd, defnyddiwyd yr arian i São Paulo, y Western Cape, Gujarat, Gorllewin Bengal a Yucatán fynd i Gynulliad Cyffredinol Grŵp yr Hinsawdd a rhannu gwersi a gwybodaeth ag eraill. Mae effeithiau hinsawdd sy'n newid  yn taro'r mwyaf bregus gyntaf, felly mae'n hanfodol sicrhau bod yr economïau twf yn bresennol yn y digwyddiadau rhyngwladol pwysig hyn i rannu'u profiadau a chreu cysylltiadau ag eraill i rannu gwersi. O ganlyniad, mae Cymru wedi cyfrannu $20,000 i Gronfa'r Dyfodol ac rwy'n disgwyl ymlaen at glywed mwy amdani flwyddyn nesaf.

Mae'r gweithgareddau sydd yn yr arfaeth fel rhan o'r Cynllun Cyflawni Carbon Isel yn 2019 yn cyffwrdd â holl bobl Cymru. Rwy'n deall nad yw pobl yn trafod y newid yn yr hinsawdd bob dydd, er bod llawer ohonom yn ymddwyn mewn ffordd sy'n lleihau'n heffaith ar yr hinsawdd, boed hynny trwy ailgylchu neu'r ffordd yr rydym yn teithio i'r gwaith neu'n cynhesu'n cartrefi. Mae gan bob un ei ran a byddaf yn lansio ymgynghoriad haf nesaf i holi'ch barn sut y gallai Cymru gyda'i gilydd gyflawni’i hamcanion o ran yr hinsawdd.

Gan edrych ymlaen at 2018 a fydd yn flwyddyn bwysig arall pan fyddwn yn prysuro'n camau i symud yn nes eto tuag at ddyfodol newydd carbon isel a chyfrannu at ein strategaeth Ffyniant i Bawb.

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/climatechange/public-sector-decarbonisation/?lang=en

 
http://gov.wales/topics/businessandeconomy/welsh-economy/economic-action-plan/?skip=1&lang=cy