Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Rhagfyr 2024.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn ceisio eich barn ar baramedrau ymarfer ar gyfer rôl y cydymaith nyrsio cofrestredig. Y bwriad yw ei wahaniaethu oddi wrth rôl y nyrs gofrestredig.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nod yr ymgynghoriad hwn yw:
- pennu'r elfennau o rôl y nyrs gofrestredig na ellir eu dirprwyo i'r cydymaith nyrsio cofrestredig
- pennu'r gwahaniaethau rhwng rolau'r nyrsys cofrestredig a'r cydymaith nyrsio cofrestredig
- pennu paramedrau ymarfer ar gyfer rôl y cydymaith nyrsio cofrestredig yng Nghymru
Dogfennau ymgynghori
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 506 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Ar 12 Tachwedd 2024 fe wnaethom ychwanegu 3 chwestiwn at yr ymgynghoriad ar ei effaith ar y Gymraeg. Os ydych eisoes wedi cyflwyno eich ymateb ac yr hoffech ateb y cwestiynau hyn, e-bostiwch ansaddanyrsio@llyw.cymru.
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
