Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:
Bydd y penderfyniad a wnaed llynedd gan bobl y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn effeithio'n ddwys ar ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae llawer o bethau'n anhysbys wrth inni fynd drwy'r broses o adael yr UE ond mae'n glir y bydd yr effaith ar ffermio ac yn benodol, ar y sector cig coch yng Nghymru, yn fawr.

Ym mis Hydref 2016, cyhoeddais Adolygiad Annibynnol o Hybu Cig Cymru (HCC), a gyflawnwyd gan Kevin Roberts, ynghyd â'm hymateb. Roedd yr adroddiad yn gwneud un ar hugain o argymhellion i Lywodraeth Cymru a HCC eu cyflawni ac rwy'n falch â'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Un o'r argymhellion roeddwn fwyaf awyddus i fynd i'r afael ag ef oedd rôl Bwrdd HCC yn y gwaith o gynyddu lefel yr arweinyddiaeth yn y sector cig coch drwy gymryd mwy o gyfrifoldeb dros gyfeiriad strategol HCC a drwy gryfhau'r cysylltiad â'r weithrediaeth, darparu cymorth a hefyd sicrhau bod prosesau craffu cadarn a herio yn eu lle.

Cynhaliwyd yr ymgyrch i benodi Cadeirydd ac un aelod ar ddeg i'r Bwrdd rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis Mawrth 2017 ac roeddwn yn hynod falch o lefel y diddordeb a ddangoswyd i'r rolau hyn, yn enwedig gan bobl ifanc a menywod yn benodol. Nid oedd y Panel Dethol o'r farn bod modd argymell unrhyw un o'r ymgeiswyr i rôl y Cadeirydd, ac felly penderfynais ddod â'r broses o benodi Cadeirydd i ben. Byddaf yn dechrau proses newydd i benodi i'r swydd hollbwysig hon maes o law. Mae'n hanfodol fy mod i, ar ran y diwydiant a thalwyr yr ardoll cig coch, yn penodi Cadeirydd sydd â'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i arwain a rheoli'r Bwrdd a'r weithrediaeth yn ystod y blynyddoedd heriol sydd i ddod, a byddaf yn sicrhau y bydd hyn yn digwydd.

Wrth imi gynnal y broses o benodi Cadeirydd parhaol, rwyf wedi gwahodd Kevin Roberts i fod yn Gadeirydd am gyfnod dros dro, ac mae hyn yn debygol o fod am uchafswm o chwech mis. Mae gan Kevin flynyddoedd o brofiad o arwain Byrddau a phwyllgorau, ac ef yw Cadeirydd annibynnol presennol Amaeth Cymru. Mae hefyd yn aelod o fy ngrŵp ford gron ar Brexit. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am gamu i'r adwy a chefnogi'r Bwrdd a'r weithrediaeth yn ystod misoedd cyntaf y tymor newydd hwn.

O ran Aelodau'r Bwrdd, roeddwn yn glir bod angen sicrhau sylfaen sgiliau ehangach a chydbwysedd gwell o ran rhywedd. Roedd yr angen i benodi pobl sy'n meddu ar wybodaeth a phrofiad eang yn allweddol; pobl sydd â'r gallu i lunio a rhannu cyfeiriad strategol clir i'r diwydiant yn ogystal â darparu llywodraethiant cryf i HCC.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod deg o'r ugain o ymgeiswyr a gafodd eu gwahodd am gyfweliad wedi dangos y sgiliau a'r profiad gofynnol, ac maent bellach wedi'u penodi i'r Bwrdd. Mae pump o'r deg yn fenywod, a bydd gan Fwrdd newydd HCC fwy o dalwyr ardoll yn rhan ohono na Bwrdd blaenorol HCC.

Y rheini a Benodir i'r Bwrdd o 1 Ebrill 2017 yw (yn nhrefn yr wyddor):

Barrie Jones
Catherine Smith
Claire Louise Williams
Gareth Wynn Davies
Helen Howells
Huw Davies
Illtud Dunsford
John T Davies
Ogwen Williams
Rachael Madeley Davies

Hoffwn longyfarch yr ymgeiswyr llwyddiannus a'u croesawu i'r Bwrdd. Byddaf yn cyfarfod â nhw a'n Cadeirydd newydd dros dro yn fuan i drafod eu rolau pwysig yn ogystal â'm disgwyliadau ar gyfer HCC dros y blynyddoedd sydd i ddod. Mae'n gyfnod cyffrous i'r diwydiant amaethyddol ond nid wyf dan gamargraff y byddwn yn wynebu heriau sylweddol a byddaf yn cydweithio â'r Bwrdd newydd i'm helpu i sicrhau dyfodol ffyniannus a chydnerth i'r sector cig coch yng Nghymru.