Uwchsgilio eich gweithwyr gyda Phrosiectau Partneriaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg.
Manylion
Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi busnesau ledled Cymru i fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a meithrin gweithlu cryfach a mwy medrus.
Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid i dalu am 50% o'r costau hyfforddi achrededig, a gall bob cais ofyn am hyd at £50,000 o gyfraniad. Nid oes isafswm i faint o gyllid y gellir ei roi.
P'un a ydych chi'n bwriadu llenwi bylchau sgiliau, cadw staff, neu ddenu talent newydd, gall y Rhaglen Sgiliau Hyblyg eich helpu i fuddsoddi yn nyfodol eich tîm.
Pwy sy'n gymwys:
Mae cyllid ar gael i gyflogwyr yn y mwyafrif llethol o ddiwydiannau ledled Cymru. Rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli yng Nghymru, yn ddiddyled, a rhaid i chi ymrwymo i ryddhau staff i gyflawni'r hyfforddiant dan sylw erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Does dim unrhyw ofyniad i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig – ond rhaid i unrhyw hyfforddiant â chymorth o dan y rhaglen hon fod naill ai wedi'i achredu neu fod o safon diwydiant cydnabyddedig.
Mae'r cyllid yn ddewisol a Llywodraeth Cymru sydd â’r gair olaf ar gymhwysedd.
Datgan Diddordeb
Gall busnesau gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb cychwynnol ar wefan Busnes Cymru, gyda'r opsiwn o gymorth gan Reolwr Perthynas. Cwblhewch y Datganiad Diddordeb. Bydd un o'n tîm Sgiliau yn ymateb cyn gynted â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith.
Sectorau Blaenoriaeth
Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg wedi'i strwythuro o amgylch 8 sector blaenoriaeth/thema fusnes:
- Sgiliau Sero Net
- Sgiliau Coedwigaeth a’r Gadwyn Cyflenwi Pren *
- Sgiliau Digidol
- Sgiliau Allforio
- Hyfforddiant Peirianneg a Gweithgynhyrchu
- Sgiliau a Hyfforddiant y Sector Creadigol *
- Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch *
- Sgiliau Arwain a Rheoli
* Byddem yn disgwyl i fusnesau sy'n ymgeisio sy'n dymuno gwneud cais o dan y meysydd hyn weithredu yn y sectorau priodol.
Gall cwmnïau wneud cais am gymorth o bob rhan o'r gwahanol sectorau/themâu busnes fel rhan o un cais.
Y Camau Nesaf:
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyllid hwn, cwblhewch y Datganiad o Ddiddordeb a bydd aelod o'n tîm Sgiliau yn ymateb cyn gynted â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith.
