Prosiect ymchwil ar raddfa fach a gasglodd adborth gan fusnesau a gymerodd rhan yn y Rhaglen Clwstwr Allforio, sy’n rhan o Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Allforio.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r arolwg adborth wedi darparu tystiolaeth i ddangos bod y Rhaglen Clwstwr Allforio wedi bodloni mwyafrif y busnesau sydd wedi ymateb i'r arolwg yn fras. Mae ei ddigwyddiadau, cyngor a rheolwyr clwstwr yn cael eu hystyried yn effeithiol gan ymatebwyr.
Mae'r canlyniadau'n awgrymu bod y Rhaglen wedi: llwyddo i wella hyder allforio am hanner y busnesau a’u harolygwyd; yn effeithiol wrth gefnogi cyfleoedd marchnad newydd a gwelliannau i strategaethau allforio busnes ar gyfer bron i ddwy ran o bump o ymatebwyr. Efallai y bydd y rhain yn cynrychioli canlyniadau cynnar yn unig - bydd angen ymchwil pellach i sefydlu effeithiau posibl hir-dymor unwaith y bydd busnesau wedi cael mwy o amser i wireddu manteision cefnogaeth.
