Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd trwydded forol ei rhoi yn 2014 gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer cael gwared ar ddeunydd wedi'i garthu ar safle gwaredu Cardiff Grounds, sef un o'r 17 safle gwaredu yng Nghymru. I esbonio, mae'n bwysig nodi nad trwydded yw hon ar gyfer cael gwared ar wastraff niwclear. Trwydded yw hi i gael gwared ar waddodion sydd wedi'u codi o Aber Hafren. Hyd yma, nid oes unrhyw waith gwaredu wedi'i gynnal. Byddwn yn samplu unrhyw ddeunydd sydd wedi'i godi ac sydd am gael ei waredu a bydd yn rhaid i CNC roi cymeradwyaeth ysgrifenedig cyn y gellir gwaredu unrhyw ddeunydd o dan y drwydded. Gallaf dawelu ofnau aelodau fod gennym broses asesu gadarn i ddiogelu amgylchedd y môr ac iechyd y cyhoedd, heddiw ac yn y dyfodol.

Cefndir

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu, hynny o dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (MCAA). Rhwng 2007 a 2013, yr Uned Caniatadau Morol oedd yn gyfrifol am geisiadau am drwyddedau morol. Yn 2013, gyda sefydlu CNC, trosglwyddodd Gweinidogion Cymru y rhan fwyaf o'r swyddogaethau hyn i CNC, sy'n gweinyddu'r system ar eu rhan.

Prosiect Hinkley Point C

Ar 19 Mawrth 2013, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd (Edward Davey) Orchymyn Caniatáu Datblygiad ar gyfer prosiect Hinkley Point C. Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer y prosiect.

Trwydded forol ac amodau ar gyfer samplu deunydd

Daeth ceisiadau i gael gwared ar ddeunydd wedi'i garthu i law'r Uned Caniatadau a chawsant eu prosesu yn unol â gofynion yr MCAA a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol) 2007 (fel y'i diwygiwyd) (MWR). Daeth dau gais ar wahân i law (gan i'r deunydd gael ei garthu o ddau safle - yr ardal o gwmpas y lanfa dros dro a gwaith arall yn y môr) ond un drwydded a roddwyd. Dengys y cofnodion bod y ceisiadau i waredu deunydd yn nyfroedd Cymru wedi ystyried yr Asesiad o Effaith Amgylcheddol prosiect Hinkley Point C.

Mae'r broses cloriannu ceisiadau morol yn cynnwys asesiad trylwyr a chadarn o'r prosiectau ar sail y meini prawf canlynol:

  • Diogelu amgylchedd y môr
  • Diogelu iechyd pobl
  • Peidio ag amharu ar weithgareddau dilys eraill yn y môr.

O gofio'r safle y daeth y deunydd ohono, sef Hinkley Point C, cynhaliodd Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS) asesiad ymbelydrol fel rhan o broses cloriannu'r ceisiadau, ac ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr (gan gynnwys y prif reoleiddiwr niwclear yn Asiantaeth yr Amgylchedd), ni fynegwyd unrhyw ofidiau ynghylch y lefel radiolegol.

Trosglwyddwyd y ceisiadau i CNC pan gafodd y swyddogaethau trwyddedu morol eu trosglwyddo, a nhw gynhaliodd weddill y broses. Cyhoeddodd CNC y drwydded forol (cyf. 12/45/ML) ar 11 Gorffennaf 2014 i drwyddedu'r gwaith o waredu'r deunydd a garthwyd ar safle gwaredu Cardiff Grounds.

Gofynion samplu

Fel gyda phob trwydded forol a roddir i waredu deunydd a garthwyd, mae gofyn samplu'r deunydd a chynnal profion trylwyr arno i wneud yn siwr ei bod yn addas cael ei wared yn y môr neu ar safle gwaredu penodol - yn yr achos hwn, Cardiff Grounds.

Nid oes unrhyw waith gwaredu wedi'i wneud eto o dan y drwydded hon, ac yn unol ag amodau'r drwydded, oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers rhoi'r drwydded, rhaid ail-samplu ac ail-brofi'r deunydd sydd i'w waredu cyn y gellir ei waredu. Mae'n arferol bod unrhyw ddeunydd y bwriedir cael gwared arno yn y môr yn cael ei brofi bob tair blynedd yn unol â gofynion Confensiwn Atal Llygredd Morol trwy Ddympio Gwastraff a Deunydd Arall 1972.

Mae amodau 9.3 - 9.5 o drwydded 12/45/ML yn gofyn i ddeiliad y drwydded gynnal y gwaith samplu, yn unol â'r cytundeb samplu y cytunwyd arno gydag CNC. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod deiliad y drwydded wedi cytuno ar gynllun samplu gydag CNC. Pan fydd y gwaith samplu hwn wedi'i wneud, caiff profion eu cynnal ar y deunydd i weld a yw'n addas ar gyfer cael gwared arno yn y môr a bydd y broses yn cynnwys asesiad radiolegol arall. Dywed amod 9.5 o'r drwydded na chaniateir cael gwared ar ddeunydd heb gymeradwyaeth ysgrifenedig CNC.