Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhoddais wybod i aelodau y byddwn yn eu ddiweddau cyn toriad yr haf ynghylch y potensial ar gyfer darparu mwy o gyfleoedd addysg a hyfforddiant meddygol yn y Gogledd. Mae hyn yn cynnwys p'un a oes achos ar gyfer sefydlu ysgol feddygol ychwanegol yn y Gogledd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod ac wedi trafod y mater pwysig hwn dros gyfnod o nifer o fisoedd gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y Gogledd, teulu ehangach y GIG a'r ddwy ysgol feddygol bresennol yng Nghymru. Rwyf wedi trafod ac wedi cytuno ar sut i fwrw ymlaen â'r mater hwn gyda'm cydweithiwr yn y Cabinet, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Nid yw'r cyngor rwyf wedi'i gael yn cefnogi'r achos dros greu ysgol feddygol yn y Gogledd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae cyfres o gamau eraill wedi'u cynnig, a byddaf yn parhau i'w hystyried.

Er nad wyf wedi fy argyhoeddi bod angen Ysgol Feddygol newydd, credaf fod achos dros gael mwy o addysg feddygol yn y Gogledd.

Cynigir dull gweithredu cydweithredol o ddarparu addysg a hyfforddiant meddygol yn y Gogledd, yn seiliedig ar Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor yn gweithio'n agosach er mwyn sicrhau mwy o gyfleoedd o ran addysg feddygol yn y Gogledd.

Mae pob un ohonynt wedi dangos parodrwydd i gydweithio i ddarparu rhaglenni a fyddai'n golygu bod gan fyfyrwyr yr opsiwn i dreulio cyfnod llawer helaethach o'u hastudiaethau yn y Gogledd.

Mae sefydlu ysgol feddygol yn broses hir a chostus; mae'r cynnig a amlinellir uchod hefyd yn darparu ar gyfer gwneud gwell defnydd o adnoddau, a byddai'n darparu addysg feddygol yn y Gogledd ar raddfa llawer yn gynt. Dyna fyddai'r achos p'un a fyddai hynny'n digwydd gyda’r nifer presennol o fyfyrwyr neu unrhyw gynnydd posibl yn nifer y lleoedd mewn ysgolion meddygol yn y dyfodol.

Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion barhau i weithio gyda phob Prifysgol i ddatblygu'r cynigion dros yr haf ac i roi rhagor o gyngor ymarferol i mi er mwyn ystyried y mater hwn ymhellach. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yn nhymor yr hydref.