Atodiad 1: Sut mae mesurau gwahanol i warchod coetiroedd hynafol yn gweithio
Y mesurau gwahanol i helpu i warchod coetiroedd hynafol a’u cadw rhag dirywio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Polisi Cynllunio Cymru (PCC 12): diwygiwyd Chwefror 2024, i gryfhau'r mesurau i ddiogelu coed a choetir
Gweithgareddau
Mae awdurdodau lleol yn ystyried y PCC wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a pharatoi cynlluniau datblygu.
Mae hyn yn gysylltiedig â'r gweithgareddau yn y mesurau canlynol:
- Bil Cydgrynhoi Cynllunio a’r diweddariad o’r rheoliadau Gorchymyn Cadw Coed (TPO)
- gwaith eirioli
Allbwn
Bydd y polisi bioamrywiaeth fesul cam hwn yn PCC yn arwain at osgoi / lleihau / lliniaru effeithiau ar goetir hynafol. Ni chaniateir colli coetir hynafol ond o dan amgylchiadau eithriadol iawn / lle ceir cyfiawnhad llwyr a lle ceir plannu digolledi.
Mae'r allbynnau yn bodloni'r canlynol:
- gellir eu cyflawni ar unwaith (mae'r diwygiad eisoes wedi'i gyhoeddi)
- yn ymwneud â chasglu data ar gyfer dangosyddion Coetiroedd i Gymru
Canlyniad
Mwy o goetiroedd a choed hynafol yn cael eu gwarchod rhag eu colli am byth.
Bil Cydgrynhoi Cynllunio a’r diweddariad o’r Rheoliadau Gorchymyn Cadw Coed (TPO)
Gweithgareddau
Cryfhau gallu awdurdodau lleol i warchod coed drwy ddeddfwriaeth gynllunio; eglurder ynghylch pryd y gellir defnyddio TPOs a sut i gydymffurfio â nhw.
Mae hyn yn gysylltiedig â'r gweithgareddau yn y mesurau canlynol:
- Polisi Cynllunio Cymru (PCC12): diwygiwyd Chwefror 2024, i gryfhau'r mesurau i amddiffyn coed a choetir
- gwaith eirioli
Allbwn
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio TPOs a mesurau diogelu coed a choetir* yn fwy effeithiol (M).
Mae'r allbynnau yn bodloni'r canlynol:
- gellir eu cyflawni yn y tymor canolig (blynyddoedd 2 i 4)
- yn ymwneud â chasglu data ar gyfer dangosyddion Coetiroedd i Gymru
Canlyniad
Mwy o goetiroedd a choed hynafol yn cael eu gwarchod rhag eu colli am byth.
Gwaith eirioli
Gweithgareddau
Codi ymwybyddiaeth ymarferwyr ac awdurdodau lleol am offer cynllunio
Mae hyn yn gysylltiedig â'r gweithgareddau yn y mesurau canlynol:
- Polisi Cynllunio Cymru (PCC12): diwygiwyd Chwefror 2024, i gryfhau'r mesurau i ddiogelu coed a choetir
- Bil Cydgrynhoi Cynllunio a’r diweddariad o’r rheoliadau Gorchymyn Cadw Coed (TPO)
- diwygiadau i Ddeddf Goedwigaeth 1967
Allbwn
Dylai cynigion datblygu ymgorffori gwarchod coed a bioamrywiaeth.
Canlyniad
Mwy o goetiroedd a choed hynafol yn cael eu gwarchod rhag eu colli am byth.
Llwybr Newydd i Natur: Cynllun Gweithredu ar gyfer Adfer Natur ar Rwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru
Gweithgareddau
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgorffori rhagdybiaeth i ddiogelu cynefinoedd anadferadwy wrth gynllunio cynlluniau seilwaith ffyrdd.
Allbwn
Cadw mor fach â phosib y coetiroedd hynafol a gollir oherwydd cynlluniau rhwydwaith ffyrdd. Gwaith plannu digolledu lle nad oes modd osgoi eu colli. Dylai cynigion datblygu ymgorffori gwarchod coed a bioamrywiaeth.
Mae'r allbynnau yn bodloni'r canlynol:
- gellir eu cyflawni ar unwaith (eisoes wedi'i gyhoeddi)
- yn ymwneud â chasglu data ar gyfer dangosyddion Coetiroedd i Gymru
Canlyniad
Mwy o goetiroedd a choed hynafol yn cael eu gwarchod rhag eu colli am byth.
Diwygiadau Deddf Coedwigoedd 1967
Gweithgareddau
Ychwanegir amodau amgylcheddol at drwyddedau cwympo coed sy'n gwarchod coed/coetir hynafol yn ystod gwaith cwympo. Dirwy heb derfyn am gwympo'n anghyfreithlon.
Allbwn
Coetiroedd hynafol a choed hynod yn cael eu gwarchod yn well yn ystod gwaith cwympo. Mae dirwy heb derfyn i gadw pobl rhag cwympo'n anghyfreithlon.
Mae'r allbynnau yn bodloni'r canlynol:
- gellir ei gyflawni ar unwaith (eisoes mewn grym)
- yn ymwneud â chasglu data ar gyfer dangosyddion Coetiroedd i Gymru
Canlyniad
Mwy o goetiroedd a choed hynafol yn cael eu gwarchod rhag eu colli am byth.
Lleihau llygredd amonia fel rhan o Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol 2021: adolygiad 4 blynedd
Gweithgareddau
Gweithio gyda rhanddeiliaid i leihau llygredd amonia yn unol â rhwymedigaethau statudol.
Mae hyn yn gysylltiedig â'r gweithgareddau yn y mesurau canlynol:
- Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024: gosod targedau ansawdd aer
- y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Allbwn
Lleihau llygredd amonia amaethyddol.
Mae'r allbynnau yn bodloni'r canlynol:
- dellir eu cyflawni yn y tymor canolig (blynyddoedd 2 i 4)
Canlyniad
Diogelu coetiroedd a choed hynafol rhag i’w cyflwr a'u gwytnwch ddirywio.
Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024: gosod targedau ansawdd aer
Gweithgareddau
Dyletswydd ar Weinidogion i osod targedau ansawdd aer. Datblygu mentrau i hyrwyddo risg a ffyrdd o leihau / cyfyngu ar lygredd aer.
Mae hyn yn gysylltiedig â'r gweithgareddau yn y mesurau canlynol:
- lleihau llygredd amonia fel rhan o adolygiad 4 blynedd o'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol
- y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Allbwn
Bydd gwella ansawdd aer trwy osod a chyrraedd targedau ansawdd aer yn lleihau'r niwed i iechyd pobl, natur a'r amgylchedd.
Mae'r allbwn hwn yn bodloni'r canlynol:
- gellir ei gyflawni yn y tymor hwy (5 mlynedd ymlaen)
Canlyniad
Diogelu coetiroedd a choed hynafol rhag i’w cyflwr a'u gwytnwch ddirywio.
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Gweithgareddau
Taliadau i ffermwyr i gynnal a chadw coetir. Cynnig gweithred opsiynol i reoli a gwella coedwigoedd fferm. Cynnig gweithred opsiynol i leihau llygredd amonia.
Mae hyn yn gysylltiedig â'r gweithgareddau yn y mesurau canlynol:
- lleihau llygredd amonia fel rhan o adolygiad 4 blynedd o Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol 2021
- Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024: gosod targedau ansawdd aer
Allbwn
Diogelu coetir hynafol trwy eu cadw a'u cynnal. Mae lleihau llygredd aer trwy blannu clustogfeydd yn gwella eu cyflwr. Gwella cyflwr/gwytnwch drwy reoli coetiroedd a lleihau llygredd amonia.
Mae'r allbwn hwn yn bodloni'r canlynol:
- gellir ei gyflawni yn y tymor canolig (blynyddoedd 2 i 4)
Canlyniad
Diogelu coetiroedd a choed hynafol rhag i’w cyflwr a'u gwytnwch ddirywio.
Cynllun Adfer Coetir
Gweithgareddau
Taliadau i berchnogion coetir i adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) ar ôl cwympo coed â'r clefyd Phytopthora ramorum.
Allbwn
Annog adfer PAWS yn raddol
Canlyniad
Diogelu coetiroedd a choed hynafol rhag i’w cyflwr a'u gwytnwch ddirywio.
Rhaglen y Goedwig Genedlaethol: y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) a'r Cynllun Statws
Gweithgareddau
Cymorth ariannol a chyngor i wella'r coetiroedd presennol sydd â'r potensial i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol.
Allbwn
Rheoli ac adfer safleoedd coetir hynafol yn well.
Mae'r allbwn hwn yn bodloni'r canlynol:
- gellir ei gyflawni ar unwaith (ar gael eisoes)
- yn ymwneud â chasglu data ar gyfer dangosyddion Coetiroedd i Gymru
Canlyniad
Diogelu coetiroedd a choed hynafol rhag i’w cyflwr a'u gwytnwch ddirywio.
Rhaglen Rhwydweithiau Natur
Gweithgareddau
Cymorth ariannol i wella cyflwr, cysylltedd a gwytnwch coetiroedd hynafol sy'n rhan o'r rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig.
Allbwn
Gwella rheolaeth ar goetiroedd hynafol a'u gwytnwch.
Mae'r allbwn hwn yn bodloni'r canlynol:
- gellir ei gyflawni ar unwaith (ar gael eisoes)
- yn ymwneud â chasglu data ar gyfer dangosyddion Coetiroedd i Gymru
Canlyniad
Diogelu coetiroedd a choed hynafol rhag i’w cyflwr a'u gwytnwch ddirywio.
Dangosyddion coetiroedd i Gymru ar gyfer coetiroedd
Gweithgareddau
Casglu data am goed treftadaeth a maint coetiroedd hynafol, a chymeradwyaeth i drwyddedau cwympo ar gyfer rheoli coetir hynafol.
Allbwn
Gwaelodlin ar gyfer monitro effaith polisïau dros amser, a dangosydd o welliant tebygol yng nghyflwr coetir hynafol sy'n cael eu rheoli.
Mae'r allbwn hwn yn bodloni'r canlynol:
- gellir ei gyflawni yn y tymor byr (12 mis nesaf)
Canlyniad
Diogelu coetiroedd a choed hynafol rhag i’w cyflwr a'u gwytnwch ddirywio.
