Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae colli golwg yn gallu effeithio ar lesiant pobl yng Nghymru yn sylweddol, ac yn wir, mae colli golwg yn gwneud hynny. Mae'r adroddiad Time to Focus yn dangos yr effeithiau personol a'r costau ehangach sy'n gysylltiedig â cholli golwg. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) yn amcangyfrif y bydd bron i un o bob pump yn colli eu golwg yn barhaol yn ystod eu hoes. Yng Nghymru, mae hynny'n golygu bod tua 3.5% o'r boblogaeth yn colli eu golwg gan effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae disgwyl i'r galw am wasanaethau gofal llygaid gynyddu'n sylweddol dros y 10 mlynedd nesaf wrth i'r boblogaeth barhau i heneiddio. Os na fydd gwasanaethau'r GIG yn ymateb ac yn esblygu, bydd yn her barhaus o ran sicrhau mynediad amserol at wasanaethau gofal llygaid arbenigol. 

Mae'n rhaid inni drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu i sicrhau eu bod yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Ar 14 Hydref, bu imi gynnal uwchgynhadledd Weinidogol i drafod gwella mynediad at wasanaethau gofal llygaid, atal colli golwg a niwed na ellir ei wrthdroi, ac amlinellu'r disgwyliadau ar fyrddau iechyd. Roedd cynrychiolwyr yn bresennol o'r byrddau iechyd a'r awdurdodau iechyd arbennig, Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, Gweithrediaeth y GIG, a'r trydydd sector. 

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar fynd i'r afael â'r rhwystrau i wella gwasanaethau, integreiddio gwasanaethau optometreg gofal sylfaenol er mwyn lleihau rhestrau aros, gweithio'n rhanbarthol ar draws is-arbenigeddau mawr, gan gynnwys glawcoma, cataractau a retina meddygol, datblygu a gwella llwybrau, a thrawsnewid digidol. 

I gyd-fynd â'r digwyddiad, cyhoeddodd Gweithrediaeth GIG Cymru ei strategaeth o dan arweiniad clinigwyr ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmoleg ledled Cymru, sef y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg a gafodd ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru. 

Mae'n nodi pedair elfen strategol: 

  • Diwygio sefydliadol – gwneud y gorau o'r gweithlu 
  • Rhwydweithiau clinigol – i ddarparu gofal cyfartal 
  • Trawsnewid llwybrau – gwella llwybrau o'r dechrau i'r diwedd a gwella profiadau cleifion
  • Model cyflawni cynaliadwy – gweithio ar draws ffiniau byrddau iechyd, yn sefydliadol ac yn ffisegol.

Rwy'n croesawu'r Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd yn cael ei gyflawni'n gyflym drwy'r Rhwydwaith Gweithredu Clinigol ar gyfer Offthalmoleg a Gweithrediaeth y GIG.

Rwyf wedi ei gwneud yn glir bod angen i fyrddau iechyd roi cynlluniau lleol a chynlluniau rhanbarthol ar waith er mwyn ymdrin â'r galw am wasanaethau gofal llygaid, gan flaenoriaethu mynd i'r afael â'r rhai sydd â risg glinigol uchel drwy integreiddio a defnyddio optometryddion gofal sylfaenol a gofal cymunedol yn effeithiol. Mae'r angen am berfformiad gwell a chyson gan fyrddau iechyd i sicrhau lefelau cyfartal o ofal i bobl ledled Cymru yn hanfodol. I gyflawni hyn, rhaid i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag aneffeithlonrwydd yn y system, gan weithio ar y cyd ac yn rhanbarthol ar draws meysydd gwasanaethau lle ceir nifer uchel o achosion. 

Rwy'n cyhoeddi adroddiad yr uwchgynhadledd Weinidogol ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd gydweithio â thimau gofal llygaid sylfaenol ac eilaidd, Gweithrediaeth y GIG a phartneriaid y trydydd sector i gyflawni'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt. 

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.