Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Disgwylir y bydd y Cynllun Cyflawni Teithio Llesol yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddechrau hydref 2023.

Roedd y Bwrdd yn cefnogi'r bwriad i ymestyn y cyfnod o ddiweddaru mapiau'r rhwydwaith o 3 blynedd i 5 mlynedd.

Arweinyddiaeth a galluogrwydd awdurdodau lleol yng Nghymru

Nodwyd cyfyngiadau amrywiol ar allu awdurdodau lleol i arwain, megis recriwtio arbenigwyr ar deithio llesol yn fewnol am nad yw'r gyllideb hirdymor ar gyfer y swyddi hyn yn sicr. Dywedodd Llywodraeth Cymru y gwneir ymrwymiadau cyllidebol amlflwydd. Awgrymodd y Bwrdd y dylai Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru adolygu'r ffordd y maent yn dyrannu ac yn cyfathrebu er mwyn sicrhau y gellid penodi unigolion am dymor hwy.

Dylai teithio llesol fod yn ganolbwynt mewn sawl portffolio a byddai hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o fuddiannau a phwysigrwydd teithio llesol ymhlith gwneuthurwyr penderfyniadau.

Dymuna'r Bwrdd dynnu sylw at enghreifftiau o fesurau teithio llesol sydd wedi'u cynllunio'n effeithiol a sut y mae hyn o fudd i'r gymuned a chytunodd aelodau'r Bwrdd i gydweithio i gasglu enghreifftiau o arfer dda.

Teithio Llesol i'r Ysgol

Cytunodd y Bwrdd ar gylch gwaith y grŵp Teithio Llesol i'r Ysgol.

Cyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei waith yn hyrwyddo a dylanwadu ar y cynllun teithio llesol i'r ysgol yng Nghymru. Yn gyffredinol, roedd llai na 40 y cant o deithiau i'r ysgol yn cael eu hystyried yn rhai teithio llesol ac mae'n ymddangos bod y nifer o blant sy'n teithio'n llesol i'r ysgol wedi gostwng.

Esboniodd Llywodraeth Cymru fod Sustrans yn gweithio ar gynlluniau teithio llesol ar gyfer ysgolion a rhoddwyd gwybod bod teithio llesol yn rhan o'r rhaglen buddsoddi mewn addysg ac amodau cyllido. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chanllawiau dylunio ac wedi cytuno i rannu drafft ohonynt â'r Bwrdd.