Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ddiweddar, fe gyhoeddiais dargedau ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru, er mwyn llywio Cymru at ddyfodol ffyniannus sy’n garbon isel. Yn fy natganiad, dywedais fy mod yn gweithio gyda'r rhai sy’n cymryd rhan yn fy Nhrafodaethau Gweinidogol Bord Gron ar Brexit er mwyn cael consensws cytbwys ar yr hyn sydd yn mynd i ddiwallu anghenion Cymru orau.

Mae’r DU wedi buddsoddi dros £9 biliwn yn datblygu’r sector adnewyddadwy ac mae costau wedi cael eu gostwng yn llwyddiannus. Er hynny, mae newidiadau cyflym i bolisïau’r DU wedi amharu’n sylweddol ar rannau mawr o’r sector ynni adnewyddadwy. Mae datblygiadau a allai fod yn werthfawr i Gymru wedi'u hatal yn llwyr gan Weinidogion Llywodraeth y DU.  Yn 2015 gwrthododd Llywodraeth y DU bedwar datblygiad gwynt newydd yng nghanolbarth Cymru, gyda’r gallu i gynhyrchu 300MW.  Tra fy mod yn croesawu cynigion ychwanegol Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn ynysoedd yr Alban drwy’r Strategaeth Tŵf Glân, mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am y modd tameidiog mae Llywodraeth y DU yn ei ddilyn i genfogi datblygiadadu ynni adnewyddol newydd.

Mae’r rhan fwyaf o’r buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy gan Lywodraeth y DU yn mynd yn awr i brosiectau gwynt ar y môr y tu allan i Gymru. Yn y dyraniad diweddaraf, dyfarnwyd cyllid i brosiectau o Loegr sydd â chapasiti cyfanredol o 2, 310.9MW, prosiectau o’r Alban sydd â chapasiti cyfanredol o 1, 035MW a dyfarniad sengl i brosiect yng Nghymru o 0.05MW. Telir am y buddsoddiad hwn gan y trethdalwyr o Gymru, ymysg eraill

Mae’r cyfleoedd gorau i reoli costau cynhyrchu a chostau biliau ynni, i’w cael ymhlith y technolegau costau isel, sef gwynt ar y tir a solar. Mae’n gyfle i fusnesau o Gymru adeiladu strwythurau ynni lleol sy’n wydn ac yn angenrheidiol ar gyfer cystadlu mewn marchnad garbon isel y tu allan i Ewrop. Mae’n hanfodol bwysig cael fframwaith polisi sy’n golygu bod y prosiectau mwyaf fforddiadwy yn parhau i ffurfio’r rhan fwyaf o'r cyflenwad ynni, boed hynny drwy gyfundrefn CfD neu fecanweithiau eraill megis y pris isaf, er mwyn i ni gyflawni ein nodau datgarboneiddio a’n nodau ffyniant.

Pleser i mi heddiw yw gwneud datganiad cyhoeddus i gefnogi’r safbwynt hwn, sydd wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau o Gymru. Gobeithio y bydd eraill yn gallu cymeradwyo hyn ag ymuno â’r rheini sydd eisoes yn gweithio i ddatblygu consensws ar gyflenwi ein hatebion o ran ynni yn y dyfodol.

Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar wynt a solar. Gadewch i mi fod yn glir, mae angen rhoi ystyriaeth i’r ystod lawn o dechnolegau ynni, gan gynnwys y rhai morol, gan sicrhau bod llwybr datblygu parhaus yn arwain o ymchwil a datblygu i uwchraddio i'r cyfnod pan fydd gan y technolegau’r gallu i gystadlu â’r farchnad sefydledig.