Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn faterion treiddiol a niweidiol sy'n gallu effeithio ar unrhyw aelod o'n cymunedau. Gall y profiad fod hyd yn oed yn fwy niweidiol i'r dioddefwyr sydd hefyd yn profi anghenion cymhleth neu beryglon eraill.

Rwy'n falch o gyhoeddi bod y ddogfen 'Gwybodaeth a Chanllawiau ar Gam-drin Domestig: Diogelu Pobl Hŷn yng Nghymru’ ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Crëwyd y ddogfen mewn partneriaeth â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a bydd yn galluogi gweithwyr proffesiynol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru i weithio'n fwy effeithiol gyda phobl hŷn o bob rhywedd sydd yn dioddef, neu sydd wedi dioddef cam-drin domestig.

Ar gyfartaledd, mae dioddefwyr hŷn yn profi cam-drin domestig am gyfnod sydd ddwywaith yn hirach na'r rheini o dan 61 oed, ond eto, nid ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn ein gwasanaethau arbenigol. Mae'r canllawiau hyn wedi'u llunio i godi ymwybyddiaeth o'r mater, ac i wella'r gydnabyddiaeth a'r ddealltwriaeth o'r cyd-destun lle caiff pobl hŷn eu cam-drin, a chynnig cyngor ymarferol ar sut i gynnig gwasanaethau effeithiol i bobl hŷn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a'i staff. Maent yn chwarae rôl hanfodol yn hyrwyddo gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Yn 2017/18, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1.5 miliwn i’r Comisiynydd er mwyn ei galluogi i ddarparu llais annibynnol i bobl hŷn a gweithredu fel hyrwyddwr ar eu cyfer ledled Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i leihau nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae gweithio mewn partneriaeth yn parhau'n hanfodol i'r nod hwnnw. Rwy'n ddiolchgar i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a'r Grŵp Llywio am gyfrannu arbenigedd i gynorthwyo â'r gwaith o ddrafftio'r Canllawiau, ac am eu hymrwymiad a'u cymorth.

Mae'r Canllawiau ar gael i'w lawrlwytho o wefan Llywodraeth Cymru:

http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/safety/domesticabuse/publications/?skip=1&lang=cy