Rhyddhad ardrethi annomestig elusennol ar gyfer ysgolion preifat: crynodeb o'r ymatebion
Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu rhyddhad ardrethi elusennol ar gyfer ysgolion preifat yng Nghymru yn ôl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gymhwysedd ysgolion am ryddhad ardrethi annomestig elusennol yng Nghymru yn wreiddiol yn 2020. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau ar gynnig penodol Llywodraeth Cymru i dynnu rhyddhad ardrethi elusennol yn ôl wrth ysgolion preifat, gan anelu at sicrhau eu bod yn cael eu trin yn unol â'r rhai hynny nad oes ganddynt statws elusennol at ddibenion ardrethi annomestig. Nod y cynnig hwn yw sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau lleol yng Nghymru, drwy dynnu rhyddhad treth i addysg breifat yn ôl, y telir amdano drwy gyllid cyhoeddus.
Yng Nghymru, caiff ysgolion preifat eu cofrestru fel ysgolion annibynnol. Nid yw pob ysgol annibynnol yn cael rhyddhad ardrethi elusennol, gan nad yw'r rhan fwyaf ohonynt yn elusennau. Ar hyn o bryd (Ionawr 2025), mae 83 o ysgolion annibynnol wedi'u cofrestru yng Nghymru. O'u plith, mae 17 ohonynt yn cael rhyddhad ardrethi elusennol.
Wrth ddatblygu'r cynnig hwn, arfarnodd Llywodraeth Cymru yr effeithiau posibl drwy gynnal Asesiad Effaith Integredig. Cafodd crynodeb o'r Asesiad Effaith Integredig ac Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar wahân eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r ymgynghoriad.
Drwy'r ymgynghoriad hwn, gofynnodd Llywodraeth Cymru am safbwyntiau ar y cynnig i dynnu rhyddhad ardrethi elusennol yn ôl wrth ysgolion annibynnol, y diffiniad arfaethedig o ysgol annibynnol, ac effeithiau posibl y cynnig.
Roedd yr ymgynghoriad hwn ar agor am gyfnod o 12 wythnos, o 23 Medi tan 16 Rhagfyr 2024.
Cwestiynau ac ymatebion
Cafwyd cyfanswm o 109 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Daeth ymatebion i law gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys ysgolion annibynnol, cyrff cynrychioliadol, rhieni unigol disgyblion ysgolion annibynnol ac aelodau eraill o'r cyhoedd. Ceir rhestr lawn o'r ymatebwyr yn atodiad a.
Ceir crynodeb o'r ymatebion a ddaeth i law i bob cwestiwn isod. Nid yw'n ceisio nodi pob pwynt a wnaed gan ymatebwyr, ond tynnu sylw at y prif themâu.
Ni wnaeth rhai ymatebwyr ateb pob cwestiwn. Mae pob canran yn seiliedig ar ymatebion i'r cwestiwn perthnasol, yn hytrach na chyfanswm nifer yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad cyffredinol.
Cwestiwn 1: Beth yw eich barn ar y cynnig i ddiddymu rhyddhad ardrethi annomestig elusennol ar gyfer ysgolion preifat yng Nghymru?
Atebodd pob un o'r ymatebwyr y cwestiwn hwn. Roedd 42 o ymatebwyr (39%) o blaid y cynnig. Rhannwyd y farn hon yn gyffredinol gan aelodau unigol o'r cyhoedd, yn ogystal â dau gorff cynrychioliadol ehangach. Roeddent o'r farn y dylai'r cyllid cyhoeddus a ddefnyddir i ddarparu rhyddhad ar hyn o bryd fod ar gael i wasanaethau lleol yn lle hynny, gan gynnwys ysgolion a gynhelir. Gwnaeth rhai ymatebwyr a ddarparodd sylwadau manylach o blaid y cynnig dynnu sylw at allu ysgolion annibynnol i weithredu fel busnesau a chodi incwm drwy ffioedd.
Nid oedd 60 o'r ymatebwyr (55%) o blaid y cynnig. Rhannwyd y farn hon gan ysgolion annibynnol, eu cynrychiolwyr a rhieni eu disgyblion. Roedd yr ymatebwyr hyn yn poeni'n gyffredinol y byddai ffioedd o bosibl yn codi gan arwain at gostau ychwanegol i rieni neu at symud rhai disgyblion i ysgolion a gynhelir. Cyfeiriodd rhai at effaith gyfunol y cynnig hwn a phenderfyniadau Llywodraeth y DU i gymhwyso TAW at ffioedd ysgolion preifat a'r cynnydd o ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr. Caiff manylion ychwanegol ynghylch yr effeithiau posibl a godwyd gan ymatebwyr a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig eu cynnwys yn y crynodeb i'r ymatebion i gwestiwn 3.
Ni wnaeth saith ymatebydd ddangos cefnogaeth na gwrthwynebiad i'r cynnig cyffredinol. O'r rhain, roedd tri o'r farn na ddylai ysgolion annibynnol sy'n arbenigo mewn darparu ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol gael eu cynnwys yn y cynnig. Roedd sylwadau ehangach eraill yn cyfeirio at y gofynion cyfreithiol i elusennau gyflawni eu dibenion er budd y cyhoedd a chysondeb y dull gweithredu ledled Cymru, Lloegr a'r Alban y byddai'r cynnig yn ei ddarparu. Awgrymwyd hefyd y dylid gohirio'r broses o roi'r cynnig ar waith am flwyddyn.
Gwnaed sylwadau ehangach hefyd, gan ymatebwyr a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig, ynghylch y cyfraniadau y mae ysgolion annibynnol yn eu gwneud i'w cymunedau lleol. Ymhlith yr enghreifftiau mae rhannu cyfleusterau ag ysgolion a gynhelir neu grwpiau cymunedol a darparu bwrsarïau neu ysgoloriaethau i rai disgyblion. Mae'r gweithgareddau hyn yn adlewyrchu dibenion elusennol yr ysgolion y byddai'r cynnig yn effeithio arnynt.
Cwestiwn 2: Ydy'r diffiniad arfaethedig o ysgol annibynnol yn cyflawni nod y cynnig?
Atebodd 75 o ymatebwyr y cwestiwn gyda barn benodol yn gysylltiedig ag effaith y diffiniad arfaethedig. O'u plith, roedd 47 (63%) yn cytuno y byddai'r diffiniad arfaethedig yn cyflawni nod y polisi. Rhannwyd y farn hon yn gyffredinol gan ymatebwyr a oedd o blaid y cynnig, yn ogystal â rhai a bwysleisiodd eu gwrthwynebiad.
Cyfeiriodd dau gorff cynrychioliadol at y diffiniad a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, lle y bydd ysgolion sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â darparu addysg amser llawn i unigolion y caiff Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal ei gynnal ar eu cyfer, yn parhau i fod yn gymwys am ryddhad ardrethi elusennol. Awgrymwyd y dylid mabwysiadu'r un eithriad ar gyfer tynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer Cymru. Awgrymodd dwy ysgol annibynnol y dylid teilwra'r diffiniad i greu eithriadau sy'n gysylltiedig â'u hamgylchiadau penodol eu hunain, y maent yn ystyried eu bod yn eu gosod ar wahân i ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru.
Roedd y 24 o ymatebwyr a oedd yn weddill (32%) a roddodd sylwadau ar y diffiniad, o'r farn na fyddai'n cyflawni nod y polisi, ond ni roesant resymau penodol nac awgrymu diffiniad arall. Ar y cyfan, rhannwyd y farn hon gan ymatebwyr a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig a'r nod polisi cysylltiedig.
Darparodd 17 o ymatebwyr pellach ymateb i'r cwestiwn hwn. Naill ai, ni wnaethant roi barn benodol ar y diffiniad arfaethedig neu gwnaethant sylwadau a oedd yn atgyfnerthu eu gwrthwynebiad i'r cynnig nad oeddent yn berthnasol i'r cwestiwn penodol.
Cwestiwn 3: Beth yw eich barn ar effeithiau posibl y cynnig?
Rhoddodd 100 o ymatebwyr safbwyntiau a oedd yn berthnasol i'r cwestiwn hwn. Roedd 36 o ymatebwyr (36%) naill ai'n cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o'r effeithiau posibl neu roeddent yn pwysleisio'r buddiannau disgwyliedig. Pwysleisiodd llawer o'u sylwadau'r cyllid ychwanegol a fyddai ar gael ar gyfer gwasanaethau lleol, yn enwedig ysgolion a gynhelir. Roedd eraill o'r farn na fyddai'r goblygiadau ariannol cyfyngedig ar gyfer yr ysgolion yr effeithir arnynt yn debygol o arwain at benderfyniadau i symud llawer o ddisgyblion i ysgolion a gynhelir. Ar y cyfan, roedd y safbwyntiau hyn yn cael eu rhannu gan ymatebwyr a oedd o blaid y cynnig.
Pwysleisiodd 64 o ymatebwyr (64%) a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig, eu barn y byddai cynnydd mewn ffioedd yn arwain at gostau ychwanegol i rieni neu at benderfyniadau i symud disgyblion i ysgolion a gynhelir. Roedd rhai ymatebwyr o'r farn y gallai symud disgyblion a heriau recriwtio gael effaith andwyol ar hyfywedd ysgolion annibynnol ac arwain at gau ysgolion. Awgrymodd eraill y byddai ysgolion annibynnol o bosibl yn lleihau nifer y staff neu'n cynnig llai o ysgoloriaethau a bwrsarïau er mwyn ymateb i gostau uwch.
Roedd rhai o'r ymatebwyr a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig o'r farn fod rhai plant, gan gynnwys y rhai hynny ag anghenion dysgu ychwanegol, yn mynychu ysgolion annibynnol oherwydd na ellir diwallu eu hanghenion yn eu hysgol a gynhelir leol. Mynegwyd pryder y gallai unrhyw gynnydd mewn ffioedd gynyddu cost lleoliadau'r awdurdod lleol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd llai o ymatebwyr yn canolbwyntio ar blant a oedd yn mynychu ysgolion annibynnol sy'n adlewyrchu eu credoau crefyddol ac athronyddol. Roedd yr ymatebwyr hyn yn poeni y gallai plant fod dan anfantais pe na fyddent yn cael eu haddysgu mewn ysgolion annibynnol.
Ymhlith yr ymatebwyr a oedd yn rhagweld y byddai nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael eu symud o ysgolion annibynnol o ganlyniad i'r cynnig, roedd rhai o'r farn y byddai hyn yn rhoi pwysau ar ysgolion a gynhelir. Roeddent yn credu na fyddai ysgolion a gynhelir yn gallu darparu ar gyfer disgyblion ychwanegol, neu y byddai meintiau dosbarthiadau yn cynyddu ac y byddai effaith ar safon yr addysg a ddarperir. Cyflwynodd dau ymatebydd ddadansoddiad a oedd yn anelu at ddangos y gallai'r costau i sector cyhoeddus Cymru sy'n gysylltiedig ag achosion posibl o symud disgyblion, yn deillio o effaith gyfunol tynnu rhyddhad elusennol yn ôl a pholisïau treth Llywodraeth y DU, wrthbwyso'r refeniw ychwanegol o'r cynnig hwn ar ei ben ei hun (nid oedd y dadansoddiad yn ystyried y refeniw ychwanegol a fyddai'n deillio o bosibl o newidiadau treth Llywodraeth y DU).
Ystyriwyd yr effeithiau posibl a godwyd gan ymatebwyr a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig yn asesiad effaith Llywodraeth Cymru, ond cafwyd casgliadau gwahanol o ran pa mor debygol roeddent o gael eu gwireddu fel yr awgrymwyd.
Cwestiwn 4: Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw ysgolion annibynnol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i wneud darpariaeth dysgu ychwanegol sydd hefyd yn elusennau y gallai'r cynnig effeithio arnynt? Os felly, rhowch fanylion.
Rhoddodd 77 o ymatebwyr safbwyntiau a oedd yn berthnasol i'r cwestiwn hwn. Nid oedd y mwyafrif (69%) yn ymwybodol o unrhyw ysgolion annibynnol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i wneud darpariaeth dysgu ychwanegol, y byddai'r cynnig yn effeithio arnynt.
Nododd 24 (31%) o'r ymatebwyr eu bod yn ymwybodol o ysgolion o'r fath. Ni wnaeth llawer o'r rhain enwi ysgolion penodol. Soniodd rhai eu bod yn disgwyl i bob ysgol y gallai'r cynnig effeithio arni wneud rhywfaint o ddarpariaeth dysgu ychwanegol (sy'n wahanol i rai sydd wedi'u trefnu'n arbennig at y diben hwn).
Cyfeiriwyd at 23 o ysgolion penodol yn yr ymatebion i'r cwestiwn hwn. O'r rhain, nid yw 20 ohonynt wedi'u trefnu'n arbennig i wneud darpariaeth dysgu ychwanegol. Yn hytrach, ysgolion annibynnol prif ffrwd ydynt â niferoedd cymharol isel o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Nodwyd yr ysgolion hyn (sy'n elusennau ac y byddai'r cynnig yn effeithio arnynt) wrth ddatblygu'r cynnig.
Tynnwyd sylw at dair ysgol sydd wedi'u trefnu'n arbennig i wneud darpariaeth dysgu ychwanegol mewn ymatebion i'r cwestiwn hwn. Nid oedd ardrethi annomestig yn berthnasol i ddwy ohonynt, ac felly, ni fyddai'r cynnig yn effeithio arnynt. Mae'n ymddangos y byddai'r cynnig yn effeithio ar yr un ysgol arall, gan mai elusen ydyw wedi'i lleoli mewn eiddo sydd ar y rhestr ardrethi annomestig.
Cwestiwn 5: Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:
cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; a
peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu'r effeithiau cadarnhaol neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Rhoddodd 67 o ymatebwyr safbwyntiau a oedd yn berthnasol i'r cwestiwn hwn. Roedd y mwyafrif o'r farn na fyddai'r cynnig yn cael unrhyw effaith sylweddol ar yr iaith Gymraeg. Pwysleisiodd rhai ymatebwyr mai prin yw'r ddarpariaeth Gymraeg a geir mewn ysgolion annibynnol. Nododd eraill fod rhai ysgolion annibynnol yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at y Gymraeg a allai gael ei leihau mewn ymateb i'r cynnig. Gwnaed mwy o sylwadau cyffredinol gan rai ymatebwyr a oedd o'r farn nad oedd y ffocws ar y Gymraeg yn berthnasol i'r cynnig polisi hwn nac yn adlewyrchu eu blaenoriaethau.
Cwestiwn 6: Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y cynigion, yn eich barn chi, er mwyn sicrhau:
eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; ac
nad ydynt yn cael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Rhoddodd 46 o ymatebwyr safbwyntiau a oedd yn berthnasol i'r cwestiwn hwn. Darparwyd barnau penodol cyfyngedig gan leiafrif o ymatebwyr ynghylch sut y gellid llunio'r cynigion i gefnogi'r Gymraeg. Yr awgrym mwyaf cyffredin a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r cynnig oedd y gallai ysgolion annibynnol sy'n cynnig gwersi Cymraeg i'w disgyblion ac i gymunedau ehangach barhau i fod yn gymwys am ryddhad. Awgrymodd rhai o'r ymatebwyr a oedd o blaid y cynnig y dylid blaenoriaethu'r cyllid ychwanegol i gefnogi addysg Gymraeg mewn ysgolion a gynhelir.
Ymateb y Llywodraeth
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr ystod eang o safbwyntiau a gyflwynwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Ar hyn o bryd, mae ysgolion annibynnol sy'n elusennau cofrestredig yn cael tua £1.3 miliwn y flwyddyn mewn rhyddhad ardrethi elusennol. Mae'r cynnig yn ceisio sicrhau bod ysgolion annibynnol sy'n elusennau yn cael eu trin yn unol ag ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru, at ddibenion rhwymedigaeth ardrethi annomestig.
Cafodd y materion a godwyd gan y rhai a oedd yn gwrthwynebu newid polisi eu hystyried wrth ddatblygu'r cynnig. Cafodd safbwynt Llywodraeth Cymru ar y materion hyn eu nodi yn yr ymgynghoriad a'r asesiadau effaith. Yn arbennig, ystyrir bod y potensial y ceir effaith sylweddol ar ffioedd cyfartalog a fydd yn arwain at symud disgyblion i ysgolion a gynhelir, yn deillio o'r cynnig hwn yn benodol, yn gyfyngedig iawn.
Cydnabyddir bod dull Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr yn cynnwys eithriad mewn perthynas â thynnu'r rhyddhad yn ôl ar gyfer ysgolion preifat sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â darparu addysg amser llawn i unigolion y caiff Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal ei gynnal ar eu cyfer. Un o nodau'r ymgynghoriad oedd nodi a fyddai effaith ar unrhyw ysgolion tebyg yng Nghymru. Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i amgylchiadau'r ysgolion perthnasol y tynnwyd sylw atynt yn yr ymatebion. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cynnwys eithriad ag effaith gyfatebol yn y dull gweithredu arfaethedig ar gyfer Cymru, gan ystyried gwahaniaethau yn y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer nodi anghenion dysgu ychwanegol.
Yng Nghymru, y Cynllun Datblygu Unigol (CDY) yw'r cynllun sy'n cyfateb yn fras i'r Cynllun Addysg, iechyd a Gofal, a gall naill ai awdurdod lleol, neu ysgol a gynhelir (lle mae'r plentyn neu'r person ifanc wedi'i gofrestru fel disgybl yn yr ysgol) baratoi a chynnal cynllun o'r fath. O dan y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer CDYau, dim ond awdurdod lleol all gynnal CDY ar gyfer disgybl mewn ysgol annibynnol. Yn hynny o beth, cynigir y byddai ysgol annibynnol yng Nghymru sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â darparu addysg amser llawn i unigolion â CDY yn parhau i fod yn gymwys am ryddhad ardrethi elusennol. Awgrymwyd y dull gweithredu hwn gan rai o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad.
Mae gan yr ysgolion y bydd y cynnig yn effeithio arnynt fel arall niferoedd isel iawn o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (llai nag 1% ar gyfartaledd, o gymharu â 22% ar gyfer pob ysgol annibynnol ac 11% ar gyfer ysgolion a gynhelir). Ysgolion annibynnol prif ffrwd yw pob un ohonynt, ac nid ystyrir bod modd gwahaniaethu rhyngddynt hwy ac ysgolion eraill prif ffrwd yn y sector preifat (a'r sector a gynhelir) nad ydynt yn cael rhyddhad elusennol yn hyn o beth.
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod angen gwneud unrhyw newidiadau ychwanegol i'r cynnig er mwyn sicrhau y caiff nod y polisi ei gyflawni. Y nod yw sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau lleol yng Nghymru, drwy dynnu rhyddhad treth i addysg breifat yn ôl, y telir amdano drwy gyllid cyhoeddus.
Y camau nesaf
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r rheoliadau sy'n ofynnol i roi'r cynnig ar waith. Yn amodol ar gael cymeradwyaeth i'r rheoliadau hynny gan y Senedd, ni fydd ysgolion annibynnol yng Nghymru yn gymwys am ryddhad ardrethi elusennol mwyach o 1 Ebrill 2025.
Atodiad a: rhestr ymatebwyr
Cafwyd ymatebion gan y canlynol:
- Y Gwasanaeth Addysg Catholig
- Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
- Sefydliad Siartredig Trethu
- Ffederasiwn Cwlwm
- Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw
- Y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig
- St Gerard's School Trust
- St John's College
- UWC Atlantic
- Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru
31 o aelodau unigol o'r cyhoedd (gan gynnwys rhai rhieni disgyblion ysgolion annibynnol).
68 o ymatebwyr a oedd am aros yn ddienw (gan gynnwys rhai ysgolion annibynnol, aelodau unigol o'r cyhoedd a rhieni disgyblion ysgolion annibynnol).
