Canllawiau Deddf Caffael 2023: contractau cyfleustodau
Canllawiau technegol ar contractau cyfleustodau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw cyfleustodau a chontractau cyfleustodau?
1. Mae cyfleustodau yn awdurdodau cyhoeddus, yn ymgymeriadau cyhoeddus neu'n endidau eraill (cyfleustodau preifat) sy'n cyflawni gweithgareddau cyfleustod yn y sector ynni, y sector dŵr a'r sector trafnidiaeth. Maent yn cael eu rheoleiddio gan Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf) wrth gyflawni gweithgareddau cyfleustod gan nad ydynt yn agored i rymoedd cystadleuol yn y farchnad (gweler adran 6(5) a 6(6) o'r Ddeddf) a'i bod yn ofynnol i'r DU, o dan wahanol gytundebau rhyngwladol, ganiatáu i gyflenwyr gwladwriaeth gytuniad â hawliau penodol o dan gytundebau rhyngwladol perthnasol gymryd rhan mewn caffaeliadau ar gyfer contractau cyfleustodau.
Beth yw'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu contractau cyfleustodau?
2. Ceir y rheolau sy'n llywodraethu caffael cyfleustodau yn y DU yn y Ddeddf ac maent yn disodli Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 (Rheoliadau 2016) sydd wedi cael eu diddymu. Diffinnir gweithgareddau cyfleustod a chontractau cyfleustodau yn adran 6, a chyfleustodau yn adran 35 o'r Ddeddf.
3. Fel arfer, mae awdurdodau contractio sy'n dyfarnu contractau cyfleustodau yn cael eu llywodraethu gan y darpariaethau yn y Ddeddf yn union fel unrhyw awdurdod contractio arall. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o'r darpariaethau penodol yn y Ddeddf sy'n ymwneud â chyfleustodau.
4. Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â chanllawiau eraill ar y Ddeddf sy'n gymwys i bob awdurdod contractio ac a fydd yn gymwys i gyfleustodau, oni nodir yn wahanol.
5. Y rheol gyffredinol yw y bydd y Ddeddf yn gymwys i gyfleustodau yn yr un ffordd ag y mae'n gymwys i awdurdodau contractio eraill. Fodd bynnag, ceir eithriadau i'r rheol gyffredinol ac mae rhai darpariaethau penodol yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol i gyfleustodau. Mewn rhai achosion, mae'r darpariaethau hyn yn gymwys i bob cyfleustod ac mewn achosion eraill dim ond i fathau penodol o gyfleustodau, e.e. cyfleustodau preifat, y maent yn gymwys. Nodir y rhain yn Atodiad A.
6. Bydd rhai contractau cymysg yn cynnwys elfennau a fyddai, petaent yn cael eu caffael ar wahân, yn ddarostyngedig i reolau arbennig, megis y rhai sy'n gymwys i gontractau cyfleustodau. Mae adran 10 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer pryd y dylai'r contractau hynny gael eu trin yn unol â'r rheolau sy'n adlewyrchu natur arbennig un elfen (h.y. pryd y dylid eu trin fel contract cyfundrefn arbennig fel y'i diffiniwyd yn adran 10), neu pryd y dylid eu trin fel contractau sy'n ddarostyngedig i'r rheolau safonol yn y Ddeddf.
Beth sydd wedi newid?
7. Er bod contractau cyfleustodau yn arfer cael eu rheoleiddio ar wahân (o dan Reoliadau 2016), mae'r Ddeddf yn rheoleiddio contractau cyfleustodau a mathau eraill o gontractau. Mae'r broses gydgrynhoi hon yn lleihau deddfwriaeth ym maes caffael yn gyffredinol ac yn symleiddio'r rheolau i awdurdodau contractio.
8. Mae Atodlen 4 i'r Ddeddf yn nodi'r gweithgareddau cyfleustod a gwmpesir gan y Ddeddf ac yn cyd-fynd â chwmpas gweithgareddau cyfleustod a oedd yn cael eu cwmpasu gan y ddeddfwriaeth flaenorol, ac eithrio gwasanaethau post nad ydynt yn cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf.
9. Mae'r esemptiadau yn Rhan 2 o Atodlen 4 yn adlewyrchu'r esemptiadau a nodir mewn tri o Benderfyniadau Comisiwn yr UE, sef:
10. Mae'r darpariaethau penodol ynglŷn â chyfleustodau yn rhoi hyblygrwydd i gyfleustodau sy'n adlewyrchu eu natur fasnachol. Yn benodol, bydd marchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlir o dan hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol yn disodli systemau cymhwyso yn Rheoliadau 2016 er mwyn cyflymu prosesau caffael cyfleustodau.
11. Cyfleustodau yw'r un mathau o gyrff o dan y Ddeddf ag a oedd yn cael eu cwmpasu o dan Reoliadau 2016.
12. O ran y diffiniad o ymgymeriad cyhoeddus, mae'r gofyniad penodol sy'n ymwneud â gweithredu ar sail fasnachol yn adran 2(2)(b) o'r Ddeddf yn newid o'r rheoliadau contractau cyfleustodau lle mae gofyniad yn ymwneud â rheolaeth (dylanwad trech), ond nid oes unrhyw ofyniad penodol bod yr endid yn gweithredu'n fasnachol, er bod llawer yn gwneud hynny.
13. Gallai ychwanegu'r gofyniad hwn sy'n ymwneud â gweithredu ar sail fasnachol olygu y gallai rhai cyrff a oedd yn cael eu hystyried yn ymgymeriadau cyhoeddus yn y rheoliadau contractau cyfleustodau, gael eu hystyried yn awdurdodau cyhoeddus o dan y Ddeddf. Nid yw'r ymarfer ailgategoreiddio hwn yn cael unrhyw effaith ymarferol, ar y cyfan, am fod y rheolau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus ac ymgymeriadau cyhoeddus yn y Ddeddf yn debyg. Nodir y gwahaniaethau yn Atodiad A.
Pwyntiau allweddol a bwriad polisi
Cymhwyso
14. Mae'r darpariaethau ynglŷn â chyfleustodau yn y Ddeddf yn gymwys i gontractau cyfleustodau sy'n gontractau cyhoeddus. Mae contract cyfleustodau yn gontract cyhoeddus:
- pan fydd gwerth amcangyfrifedig y contract yn uwch na'r trothwyon perthnasol, a
- pan na fydd y contract yn gontract esempt.
Beth yw cyfleustod?
15. Mae'r Ddeddf yn rheoleiddio ymarferion caffael cyfleustodau a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus, ymgymeriadau cyhoeddus a chyfleustodau preifat, y cyfeirir atynt fel cyfleustodau yn y diffiniad yn adran 35(4).
16. Mater i sefydliadau fydd penderfynu a ydynt yn awdurdod cyhoeddus, yn ymgymeriad cyhoeddus neu'n gyfleustod preifat, drwy gymhwyso'r diffiniadau yn adran 2(2) o'r Ddeddf. Nid yw'n briodol nac yn bosibl cael rhestr ddiffiniol o endidau oherwydd gall strwythurau fod yn gymhleth a newid dros amser a gall endidau adael y sector ac ymuno ag ef. Gall cyfleustodau amrywio, er enghraifft, o gwmnïau preifat sy'n gweithredu rhwydweithiau trawsyrru trydan i awdurdodau lleol sy'n berchen ar rwydweithiau gwresogi ardal.
Awdurdodau ac ymgymeriadau cyhoeddus
17. Mae awdurdodau cyhoeddus yn cael eu hariannu'n gyfan gwbl neu'n bennaf drwy arian cyhoeddus neu maent yn destun goruchwyliaeth awdurdod cyhoeddus, ac (ym mhob achos) nid ydynt yn gweithredu ar sail fasnachol.
18. Mae ymgymeriadau cyhoeddus yn destun goruchwyliaeth awdurdod cyhoeddus ond, yn wahanol i awdurdodau cyhoeddus, maent yn gweithredu'n fasnachol.
19. Gan ystyried goruchwyliaeth awdurdod cyhoeddus a gweithredu'n fasnachol yn eu tro:
Mae goruchwyliaeth awdurdod cyhoeddus yn gymwys yn yr un modd i awdurdodau cyhoeddus ac ymgymeriadau cyhoeddus. Mae'r Ddeddf yn diffinio goruchwyliaeth awdurdod cyhoeddus yn adran 2(3) fel bod o dan reolaeth un awdurdod cyhoeddus neu fwy neu fwrdd y mae mwy na hanner ei aelodau wedi'u penodi gan un awdurdod cyhoeddus neu fwy.
Mae egwyddor rheoli wedi hen ymsefydlu ym maes cyfraith caffael ac yn cael ei deall ac mae'n ddigon tebyg i gyfraith cwmnïau bresennol y DU. Nid yw'r Ddeddf yn newid y dehongliad hwn.
Nid ystyrir bod rheoleiddwyr cyfleustodau, megis OFGEM ac OFWAT, wrth gyflawni eu dyletswyddau statudol, yn rheoli cyfleustod. Felly, nid yw bod yn ddarostyngedig i reoleiddwyr cyfleustodau ynddo'i hun yn ddigon i fodloni adran 2(2)(a) o'r Ddeddf ar gyfer ymgymeriadau cyhoeddus. Os bydd cyfleustod yn ateb y diffiniad o gyfleustod preifat, yna cyfleustod preifat a gwmpesir gan y Ddeddf ydyw.
- Gweithredu'n fasnachol – mae ymgymeriadau cyhoeddus yn gweithredu ar sail fasnachol. Mae adran 2(4) o'r Ddeddf yn rhoi enghreifftiau o'r ffactorau y dylid eu hystyried wrth benderfynu a yw endid yn gweithredu ar sail fasnachol (nid yw'n rhestr ddiffiniol a gall fod ffactorau eraill o dan yr amgylchiadau).
Cyfleustodau preifat
20. Mae cyfleustodau preifat yn endidau eraill (h.y. nid awdurdodau cyhoeddus nac ymgymeriadau cyhoeddus) sy'n cyflawni gweithgaredd cyfleustod. Dim ond pan roddwyd hawl arbennig neu lwyr-gyfyngedig iddynt wneud hynny y mae cyfleustodau preifat yn cyflawni gweithgareddau cyfleustod a reoleiddir o dan y Ddeddf (gweler adran 6(2)(d) o'r Ddeddf).
21. Mae adran 6(3) o'r Ddeddf yn darparu bod cyflawni gweithgaredd cyfleustod yn unol â hawl arbennig neu lwyr-gyfyngedig yn golygu bod y person yn gwneud hynny yn unol â hawl a roddwyd gan ddarpariaeth statudol, reoliadol neu weinyddol sy'n cyfyngu'n sylweddol ar allu endidau eraill (na roddwyd y cyfryw hawl iddynt) i gyflawni'r gweithgareddau hynny. Mae cyfleustodau preifat sydd â hawliau arbennig neu lwyr-gyfyngedig mewn sefyllfa fonopoli i ryw raddau, ac, felly, gallent, waeth pa mor annhebygol ydyw, heb reoleiddio, gynnig triniaeth ffafraethol, er enghraifft, sy'n ffafrio eu personau ymgysylltiedig neu eu partneriaid strategol eu hunain ac sy'n gwahaniaethu yn erbyn cyflenwyr eraill sy'n ymgynnig am eu contractau.
22. Mae adran 6(4) o'r Ddeddf yn darparu nad yw hawliau yn arbennig nac yn llwyr-gyfyngedig pan roddwyd yr hawliau hynny yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol o dan y Ddeddf neu pan roddwyd cyhoeddusrwydd digonol i'r cyfle a rhoddwyd yr hawliau ar sail meini prawf gwrthrychol ac anwahaniaethol. Fodd bynnag, nid yw adran 6(4) yn gymwys os oes gan ddeiliad contract hawl arbennig neu lwyr-gyfyngedig bresennol a gaiff ei hadnewyddu neu ei hamnewid mewn modd nad yw'n cydymffurfio â'r adran; yn yr achos hwn, bydd rhoi hawl newydd neu amnewid yr hawl yn golygu bod adran 6(3) yn gymwys a bod y cyflenwr yn gyfleustod preifat o dan y Ddeddf.
23. Yn yr un modd, pan ddyfernir contract yn dilyn gweithdrefn sy'n cydymffurfio ag adran 6(4) (boed hynny cyn neu ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym), ond dyfernir contract newydd neu gontract amnewid yn uniongyrchol i'r deiliad contract wedyn, bydd hyn hefyd yn gyfystyr â rhoi hawl arbennig neu lwyr-gyfyngedig. Un enghraifft o hyn yw pan ddyfernir contract yn uniongyrchol i ddeiliad contract o dan reoliadau rhwymedigaethau gwasanaethau cyhoeddus (fel y'u diffiniwyd yn Atodlen 2, paragraff 21(2) o'r Ddeddf) pan oedd y contract gwreiddiol wedi'i ddyfarnu yn dilyn proses gystadleuol.
Beth yw contract cyfleustodau?
24. Contract i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion gweithgaredd cyfleustod yw contract cyfleustodau.
Beth yw gweithgareddau cyfleustod?
25. Diffinnir gweithgareddau cyfleustod yn adran 6(2) o'r Ddeddf ac maent yn weithgareddau:
- a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4
- nas pennir yn Rhan 2 o Atodlen 4
- nas cyflawnir yn gyfan gwbl y tu allan i'r DU, a
- yn achos cyfleustodau preifat, a gyflawnir yn unol â hawl arbennig neu lwyr-gyfyngedig (fel y'i hesboniwyd uchod).
26. Mae Atodlen 4 i'r Ddeddf yn nodi cwmpas gweithgareddau cyfleustodau ac mae iddi ddwy ran. Mae Rhan 1 yn nodi'r gweithgareddau sy'n weithgareddau cyfleustod (ac a gwmpesir, felly, gan y Ddeddf), ac mae Rhan 2 yn nodi'r gweithgareddau nad ydynt yn weithgareddau cyfleustod (ac nas cwmpesir, felly, gan y Ddeddf). I grynhoi, mae gweithgareddau cyfleustod yn weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
- darparu neu weithredu rhwydweithiau nwy a gwres, trydan a dŵr a chyflenwi'r rhwydweithiau hynny
- darparu neu weithredu rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus, porthladdoedd a meysydd awyr, neu
- echdynnu olew a nwy a chwilio am lo neu danwyddau solet eraill neu ei echdynnu/eu hechdynnu.
27. O dan amgylchiadau penodol, nid yw cyflenwi nwy na gwres, trydan na dŵr yfed (yn y drefn honno) yn weithgaredd cyfleustod. Gweler paragraffau:
- 1(2)(c)
- 2(2)(d), a
- 3(4)(d) o'r Ddeddf.
Er mwyn i hyn fod yn wir, mae amodau yn gymwys sy'n ei gwneud yn ofynnol i ganran y nwy neu'r gwres, y trydan a'r dŵr yfed a gyflenwir gael ei chyfrifo. Ym mhob achos, mae'r Ddeddf yn darparu y caiff awdurdod priodol, sef un o Weinidogion y Goron, Gweinidogion Cymru neu un o adrannau Gogledd Cymru) wneud rheoliadau ynglŷn â sut i gyfrifo'r ganran berthnasol.
28. Ar ôl ymgynghori, nid yw'r rheoliadau hyn wedi cael eu cynnwys yn Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 ac, yn lle hynny, cânt eu cynnwys mewn offeryn statudol arall, y disgwylir iddo ddod yn weithredol cyn i'r Ddeddf ddod i rym. Caiff y canllaw hwn ei ddiweddaru i gynnwys y rheoliadau perthnasol.
29. Crynhoir y gweithgareddau cyfleustod a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4 yn Atodiad B. Caiff awdurdod priodol bennu gweithgareddau i'w cynnwys yn Rhan 2 o Atodlen 4 os ydynt yn wynebu cystadleuaeth mewn marchnadoedd agored (gweler adrannau 6(5) a 6(6) o'r Ddeddf). Effaith hyn yw na fydd y gweithgareddau penodedig hynny yn weithgareddau cyfleustod ac, felly, na chânt eu rheoleiddio gan y Ddeddf. Caiff unrhyw weithgareddau o'r fath eu nodi mewn rheoliadau a'u hychwanegu at Ran 2 o'r Ddeddf.
Beth yw'r trothwyon ariannol ar gyfer contractau cyfleustodau?
30. Nodir symiau'r trothwyon yn Atodlen 1 i'r Ddeddf. Mae'r tabl isod yn nodi'r trothwyon ar gyfer contractau cyfleustodau sydd wedi bod yn gymwys ers 1 Ionawr 2024. Mae'r trothwyon yn y Ddeddf yn adlewyrchu'r rhai a oedd ar waith pan gafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol a chânt eu diweddaru gan y Rheoliadau Caffael (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) cyn i'r Ddeddf ddod i rym.
| Contract cyfleustodau | Trothwy |
|---|---|
| Nwyddau | £429,809 |
| Gwasanaethau | £429,809 |
| Gweithiau | £5,372,609 |
| Cyffyrddiad ysgafn £ | £884,720 |
31. Mae'r trothwyon yn adlewyrchu'r trothwyon yn ein cytundebau rhyngwladol a chânt eu diwygio ar y cyntaf o fis Ionawr ym mhob blwyddyn eilrif er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn arian cyfred a chwyddiant.
32. Nodir y rheolau ynglŷn ag amcangyfrif gwerth y contract yn Atodlen 3 i'r Ddeddf. Y brif egwyddor yw bod yn rhaid i'r amcangyfrif adlewyrchu'r cyfanswm tebygol y gallai'r awdurdod contractio ddisgwyl ei dalu o dan y contract, gan gynnwys TAW (gweler adran 123(2) o'r Ddeddf). Mae Atodlen 3 yn rhoi rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o'r hyn a allai fod yn berthnasol wrth amcangyfrif y swm y disgwylir iddo gael ei dalu.
Pa esemptiadau sydd ar gael i gyfleustodau?
33. Mae Atodlen 2 i'r Ddeddf yn nodi'r mathau o gontractau esempt nad yw'r rheolau ynglŷn â chaffaeliadau a gwmpesir yn gymwys iddynt. Ar yn amod y bodlonir yr amodau perthnasol, gall pob un ohonynt gael eu defnyddio gan gyfleustodau oni nodir fel arall. Crynhoir yr esemptiadau sy'n gymwys i gyfleustodau yn benodol yn y canllaw hwn. Gweler y canllaw ar gontractau esempt am esemptiadau eraill.
Cyd-fenter berthnasol
34. Mae Atodlen 2, paragraff 5 o'r Ddeddf yn esemptio contractau cyfleustodau a ddyfernir gan gyd-fenter berthnasol i un o aelodau'r gyd-fenter, a gan aelod o gyd-fenter i'r gyd-fenter berthnasol. Mae cyd-fenter berthnasol yn gyd-fenter a ffurfiwyd at ddibenion cyflawni gweithgaredd cyfleustod ac sy'n cynnwys aelodau sy'n gyfleustodau yn unig.
35. Caiff cyfleustodau ddod at ei gilydd i ffurfio cyd-fenter berthnasol er mwyn cyflawni gweithgaredd cyfleustod penodol, er enghraifft, gweithredu system drafnidiaeth integredig, pan fydd cyfleustodau gwahanol yn dod ag arbenigedd neu adnoddau gwahanol, er enghraifft, adnoddau/arbenigedd ariannol, technegol, marchnata neu gyflogeion. Byddai'r ddarpariaeth hon yn esemptio, er enghraifft, gontract y mae aelod-gyfleustod yn darparu gweithiau arbenigol i'r gyd-fenter berthnasol oddi tano er mwyn cyflawni'r contract. Mae hyn yn sicrhau bod y trefniadau yn parhau i fod yn ddeniadol ac yn ddichonadwy, na fyddai'n digwydd, o bosibl, petai'n ofynnol i gyfleustodau gaffael o dan y Ddeddf.
36. Mae Atodlen 2, paragraff 6 o'r Ddeddf yn esemptio contractau cyfleustodau a ddyfernir gan gyfleustod i berson sy'n ymgysylltiedig â'r cyfleustod neu gan gyfleustod sy'n gyd-fenter berthnasol i berson sy'n ymgysylltiedig ag unrhyw aelod o'r gyd-fenter honno. Gall cyfleustodau fod yn rhan o grŵp pan fydd y cyfleustod neu gwmni ar frig y strwythur (y rhiant-gwmni) yn berchen (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) ar un neu fwy o'r is-gwmnïau oddi tano.
37. Mae Atodlen 2, paragraff 6 o'r Ddeddf hefyd yn darparu bod person yn ymgysylltiedig â pherson arall os yw'r person yn dod o dan y diffiniad o ymgymeriad grŵp y person arall, fel y diffiniwyd y term hwnnw yn adran 1161(5) o Ddeddf Cwmnïau 2006.
38. Mae hyn yn wir p'un a yw'r naill neu'r llall yn ymgymeriad fel y'i diffiniwyd yn adran 1161(1) o'r Ddeddf Cwmnïau. I grynhoi, mae cydberthynas rhwng personau ymgysylltiedig yn codi pan fo ymgymeriad arall, mewn perthynas ag ymgymeriad (A):
- yn rhiant-ymgymeriad neu'n is-ymgymeriad i ymgymeriad (A), neu
- yn is-ymgymeriad i unrhyw riant-ymgymeriad i ymgymeriad (A).
39. Diffinnir y termau is-ymgymeriad a rhiant-ymgymeriad yn adran 1162 o Ddeddf Cwmnïau. Drwy gymhwyso'r termau hynny wrth ystyried yr hyn a olygir wrth ymgymeriad grŵp o dan adran 1161(5) o'r Ddeddf Cwmnïau, byddai esemptiad y personau ymgysylltiedig ar gael (ar yr amod y bodlonir yr holl ofynion perthnasol), er enghraifft, i gontractau cyfleustodau a ddyfernir gan y canlynol:
- cyfleustod i'w is-ymgymeriad
- cyfleustod sy'n is-ymgymeriad ei hun i gyd-is-ymgymeriad a reolir gan yr un rhiant-gyfleustod (y cyfeirir ato weithiau fel 'chwaer-gyfleustod')
- cyfleustod ('cyfleustod A') i is-ymgymeriad a reolir gan is-ymgymeriad cyfleustod A (y cyfeirir ato weithiau fel 'ŵyr-is-ymgymeriad').
40. Dim ond os bodlonir y prawf trosiant ym mharagraff 6(3) o Atodlen 2 y mae'r esemptiad yn gymwys. Mae'r prawf trosiant yn sicrhau na ellir camfanteisio ar yr esemptiad drwy ddarparu mai dim ond pan fo darparu nwyddau, gwasanaethau neu weithiau i'r cyfleustod ac eraill sy'n ymgysylltiedig â'r cyfleustod yn rhan sylweddol o fusnes y person ymgysylltiedig y mae'n gymwys.
41. Fel rhan o'r prawf trosiant, mae angen cyfrifo canran y trosiannau perthnasol sy'n cynnwys swm y trosiant ymgysylltiedig fel canran o gyfanswm ei drosiant.
42. Mae'r Ddeddf yn darparu y caiff awdurdod priodol wneud rheoliadau ynglŷn â sut i gyfrifo swm trosiant ymgysylltiedig a chyfanswm trosiant person. Ar ôl ymgynghori, nid yw'r darpariaethau hyn wedi cael eu cynnwys yn y Rheoliadau ac, yn lle hynny, cânt eu cynnwys yn y Rheoliadau Caffael (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru), y disgwylir iddynt ddod yn weithredol cyn i'r Ddeddf ddod i rym. Caiff y canllaw hwn ei ddiweddaru er mwyn cynnwys y rheoliadau perthnasol.
43. Mae Atodlen 2, paragraff 21 o'r Ddeddf yn esemptio contractau ar gyfer gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus a ddyfernir o dan ddeddfwriaeth ar wahân; pennir y ddeddfwriaeth yn adran 136(11) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993. Effaith ymarferol yr esemptiad hwn yw nad yw'r rheolau ynglŷn â chaffaeliad a gwmpesir yn gymwys i gontractau a ddyfernir ar gyfer rheilffyrdd a systemau metro, a chonsesiynau rheilffyrdd a systemau metro, er eu bod yn gymwys i gontractau ar gyfer bysiau a thramiau nad ydynt yn gonsesiynau.
44. Mae Atodlen 2, paragraff 37 o'r Ddeddf yn esemptio contractau consesiwn ar gyfer gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus.
45. Mae'r Atodlen 2, paragraff 31 o'r Ddeddf yn esemptio contractau cyfleustodau a ddyfernir at ddibenion gwerthu neu brydlesu i drydydd partïon, ar yr amod nad oes gan y cyfleustod hawl arbennig na llwyr-gyfyngedig i werthu'r nwyddau, y gwasanaethau na'r gweithiau a brynwyd a bod y farchnad yn agored. Y rheswm dros yr esemptiad hwn yw nad diben caffael y nwyddau, y gwasanaethau na'r gweithiau yw i'r cyfleustod gyflawni gweithgaredd cyfleustod ei hun. Nid yw'r esemptiad hwn ar gael pan fo'r cyfleustod sy'n dyfarnu'r contract yn gweithredu fel awdurdod prynu canolog.
46. Mae Atodlen 2, paragraff 32 o'r Ddeddf yn esemptio contractau cyfleustodau i brynu dŵr a ddyfernir gan gyfleustodau sy'n cyflawni gweithgaredd cyfleustod yn Atodlen 4, paragraff 3(1) (darparu neu weithredu rhwydwaith sefydlog neu gyflenwi dŵr yfed i rwydwaith sefydlog o'r fath).
47. Mae paragraff 33 o'r Ddeddf yn esemptio contractau cyfleustodau i brynu ynni, neu danwydd i gynhyrchu ynni, a ddyfernir gan gyfleustodau sy'n cyflawni gweithgaredd cyfleustod yn Atodlen 4, paragraffau 1, 2 neu 6 (nwy a gwres, trydan ac echdynnu olew a nwy a chwilio am lo neu danwyddau solet eraill neu ei echdynnu/eu hechdynnu). Dim ond i ynni neu danwydd a brynir i gynhyrchu ynni y mae'r esemptiad yn gymwys ac nid yw'n gymwys i ynni na thanwydd a brynir am resymau eraill, e.e. prynu tanwydd at ddibenion trafnidiaeth nad ydynt yn ymwneud â'r gweithgaredd cyfleustod.
48. Mae paragraff 34 o'r Ddeddf yn esemptio contractau at ddibenion y gweithgareddau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4, a fyddai'n weithgareddau cyfleustod pe na baent wedi'u nodi yn Rhan 2.
Cyflawni caffaeliadau cyfleustodau, gan gynnwys o dan farchnadoedd dynamig cyfleustodau
Gwahardd cyflenwyr o weithdrefn dendro gystadleuol
49. Ac eithrio cyfleustodau preifat, mae'r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ymwneud â chyflenwyr gwaharddedig a gwaharddadwy yn gymwys i gaffaeliadau a gyflawnir gan gyfleustodau yn yr un modd ag y maent yn gymwys i awdurdodau contractio eraill.
50. Ar gyfer cyfleustodau preifat, caiff unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf at gyflenwyr gwaharddedig ei drin fel cyfeiriad at gyflenwyr gwaharddadwy a chaiff unrhyw gyfeiriad at gyflenwyr gwaharddadwy ei drin fel petai'n cynnwys cyflenwyr gwaharddedig (gweler adran 57(4)). Mae hyn yn golygu y gall cyfleustodau preifat drin gyflenwyr sy'n destun sail fandadol dros wahardd fel petaent yn destun sail ddisgresiynol dros wahardd.
Gweithdrefnau tendro cystadleuol
51. Ar y cyfan, rhaid i awdurdodau contractio sy'n dyfarnu contractau cyfleustodau ddefnyddio'r un gweithdrefnau caffael ag a ddefnyddir gan awdurdodau contractio eraill. Mae adran 20 o'r Ddeddf yn nodi'r darpariaethau sy'n ymwneud â gweithdrefnau tendro cystadleuol. Gweler y canllaw ar weithdrefnau tendro cystadleuol am ragor o wybodaeth.
Dyfarniad uniongyrchol
52. Mae adran 41 o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod contractio ddyfarnu contract yn uniongyrchol heb gynnal gweithdrefn dendro gystadleuol yn gyntaf pan fo cyfiawnhad dros ddyfarniad uniongyrchol yn gymwys. Nodir y mathau o gyfiawnhad dros ddyfarniad uniongyrchol yn Atodlen 5 i'r Ddeddf. Gweler y canllaw ar ddyfarniad uniongyrchol am ragor o wybodaeth.
Marchnadoedd dynamig cyfleustodau (gweler hefyd y canllaw ar farchnadoedd dynamig)
53. Mae adrannau 34 a 35 o'r Ddeddf yn darparu y gellir sefydlu marchnadoedd, gan gynnwys marchnadoedd dynamig cyfleustodau, ac y gellir dyfarnu contractau i gyflenwyr ar farchnadoedd dynamig yn dilyn gweithdrefn hyblyg gystadleuol.
54. I bob pwrpas, mae marchnadoedd dynamig yn rhestrau cyfredol o gyflenwyr sydd wedi bodloni'r amodau angenrheidiol i gymryd rhan mewn caffaeliadau i ddyfarnu'r mathau o gontractau a gwmpesir gan y farchnad. Rhaid bod cyflenwyr yn gallu gwneud cais ar unrhyw adeg i gael eu derbyn i'r farchnad ac os ydynt yn llwyddiannus, cael eu derbyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (gweler adran 36(6)(a) ac (c).
55. Mae marchnad ddynamig cyfleustodau yn farchnad ddynamig a sefydlir at ddiben dyfarnu contractau cyfleustodau gan gyfleustodau yn unig. Mae hyn yn golygu bod unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf at farchnad ddynamig yn cynnwys marchnad ddynamig cyfleustodau, oni nodir yn wahanol (ond nid yw cyfeiriadau at farchnadoedd dynamig cyfleustodau yn cynnwys marchnadoedd dynamig eraill).
56. Mae adran 35(3) o'r Ddeddf yn caniatáu i gyfleustodau ddyfarnu contractau cyfleustodau o dan farchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlwyd gan unrhyw berson (a fyddai'n cynnwys person nad yw'n awdurdod contractio o dan y Ddeddf, e.e. cwmni preifat sy'n darparu gwasanaethau cymhwyso), ar yr amod bod y farchnad wedi'i sefydlu yn unol â'r rheolau yn y Ddeddf sy'n gymwys i farchnadoedd dynamig cyfleustodau a sefydlir gan gyfleustodau preifat.
57. Mae adran 36 o'r Ddeddf yn nodi sut y gall cyflenwyr ddod yn aelodau o farchnadoedd dynamig. Mae adran 36(1) o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio bennu amodau aelodaeth y mae'n rhaid i gyflenwyr eu bodloni er mwyn cael eu derbyn i farchnad ddynamig. Rhaid i amodau aelodaeth fod yn ffordd gymesur o asesu capasiti cyfreithiol ac ariannol a gallu technegol cyflenwyr i gyflawni contractau a allai gael eu dyfarnu o dan y farchnad.
58. Mae adran 38 o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau contractio godi ffioedd ar gyflenwyr. Ar gyfer marchnadoedd dynamig cyfleustodau, dim ond mewn cysylltiad â sicrhau a chynnal aelodaeth o'r farchnad y gellir codi ffioedd. Ar gyfer marchnadoedd dynamig eraill, dim ar gyflenwyr y dyfernir contract iddynt o dan farchnad ddynamig y gellir codi ffioedd ac ni ellir eu codi am aelodaeth o farchnad o'r fath.
59. Mae adran 39 yn ymdrin â gwahanol hysbysiadau marchnad ddynamig. Mae'r rhain yn gymwys i bob awdurdod contractio, gan gynnwys cyfleustodau, ac eithrio yn achos yr hysbysiad sy'n ofynnol o dan adran 39(5) ynghylch y farchnad yn peidio â gweithredu. Yn yr achos hwn, nid yw'n ofynnol i gyfleustodau preifat gyhoeddi hysbysiad.
Hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol
60. Mae marchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlir o dan hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol yn caniatáu i gyfleustodau gyfyngu ar y cyflenwyr a all gymryd rhan mewn gweithdrefnau hyblyg cystadleuol i'r rhai sydd wedi'u cofrestru ar y farchnad. Gall cyflenwyr wneud cais i gael eu derbyn i'r farchnad unrhyw bryd.
61. Effaith adran 40 o'r Ddeddf yw ei bod yn cyflymu caffaeliadau ac yn lleihau'r baich ar gyfleustodau sy'n caffael o dan farchnad ddynamig cyfleustodau sydd wedi'i sefydlu gan ddefnyddio hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol.
62. Pan ddefnyddir yr hysbysiad hwn, mae'n ofynnol i gyfleustodau ddarparu hysbysiadau tendro ar gyfer caffaeliadau sydd i'w cynnal i gyflenwyr sydd eisoes ar y farchnad ddynamig cyfleustodau, neu ran briodol o'r farchnad ddynamig cyfleustodau, yn lle cyhoeddi'r hysbysiad (y mae'n ofynnol ei gyhoeddi yn achos marchnadoedd ddynamig eraill). Yn ymarferol, mae hynny'n golygu y gall cyfleustodau, er enghraifft, ddarparu'r hysbysiad tendro i gyflenwyr ar y farchnad ddynamig cyfleustodau fel rhan o'r dogfennau tendro cysylltiedig wrth i bob caffaeliad o dan y marchnadoedd dynamig cyfleustodau ddechrau.
63. Er mwyn manteisio ar yr hyblygrwydd hwn, rhaid i'r hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol nodi mai dim ond aelodau o'r farchnad ddynamig cyfleustodau a fydd yn cael hysbysiadau tendro ac yn gorfod bodloni gofynion sylfaenol o ran gwybodaeth, a nodir yn y Rheoliadau (gweler adran 40(6) o'r Ddeddf). Mae gan aelodau newydd sy'n ymuno â'r farchnad ddynamig cyfleustodau yr hawl i gael hysbysiadau tendro yn y dyfodol.
Amserlenni byrrach i gyfleustodau
64. Mae adrannau 54(4) a 54(5) o'r Ddeddf yn caniatáu cyfnodau byrrach ar gyfer cyflwyno tendrau mewn caffaeliadau a gyflawnir gan gyfleustodau pan fo'r cyflenwyr yn gyflenwyr a ddetholwyd ymlaen llaw. Mae cyflenwyr yn gyflenwyr a ddetholwyd ymlaen llaw pan gânt eu gwahodd i gyflwyno tendr ar ôl bodloni amodau cymryd rhan yn flaenorol fel rhan o weithdrefn dendro gystadleuol neu pan fônt ar farchnad ddynamig cyfleustodau ac yn cael eu gwahodd i gyflwyno tendr ar gyfer caffaeliad o dan y farchnad ddynamig cyfleustodau.
65. O dan adran 54 o'r Ddeddf, gall cyfleustodau gytuno ar gyfnod addas o amser â phob cyflenwr a ddetholwyd ymlaen llaw (pan na fydd unrhyw gyfnod lleiaf a ganiateir); neu, os na allant gytuno, bennu cyfnod nad yw'n llai na 10 diwrnod o leiaf.
Fframweithiau
66. Mae adran 47 o'r Ddeddf yn nodi'r cyfnod hwyaf a ganiateir ar gyfer fframweithiau. Mae'n darparu, o dan adran 47(1)(a), mai'r cyfnod hwyaf a ganiateir ar gyfer fframwaith cyfleustodau a ddyfernir gan awdurdod cyhoeddus neu ymgymeriad cyhoeddus (neu ar gyfer fframwaith amddiffyn a diogelwch) yw wyth mlynedd.
67. Nid oes unrhyw gyfnod hwyaf a ganiateir ar gyfer fframweithiau a ddyfernir gan gyfleustodau preifat (gweler adran 47(5)(b) o'r Ddeddf).
68. O dan adran 47(4)(b), mae'r Ddeddf yn diffinio fframwaith cyfleustodau fel fframwaith sy'n darparu ar gyfer dyfarnu contractau cyhoeddus sy'n gontractau cyfleustodau yn y dyfodol ac nad yw'n darparu ar gyfer dyfarnu unrhyw gontractau cyhoeddus eraill.
69. Y cyfnod hwyaf a ganiateir ar gyfer fframweithiau nad ydynt yn fframweithiau cyfleustodau (nac yn fframweithiau amddiffyn a diogelwch) yw pedair blynedd. Mae'r cyfnod hwy yn adlewyrchu cymhlethdodau'r marchnadoedd amddiffyn a chyfleustodau, lle mae cyfnodau hwy yn fwy priodol.
70. Ym mhob achos, gall y cyfnod hwyaf a ganiateir fod yn hwy os bydd yr awdurdod contractio o'r farn bod natur y nwyddau neu'r gwasanaethau sydd i'w darparu neu'r gweithiau sydd i'w cyflawni o dan gontractau a ddyfernir o dan y fframwaith yn golygu bod angen tymor hwy.
Cyfnod segur
71. Mae adran 50 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract cyn ymrwymo i gontract cyhoeddus. Bydd yr hysbysiad yn cynnwys manylion am ganlyniad y caffaeliad, yn tynnu sylw'r farchnad at y ffaith y bydd yr awdurdod contractio yn ymrwymo i gontract a, lle mae un i'w gael, bydd yn dechrau'r cyfnod segur perthnasol.
72. Mae adran 51 o'r Ddeddf yn ymdrin â'r cyfnod segur. Bydd y cyfnod segur yn dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad dyfarnu contract a'r cyfnod lleiaf ar gyfer y cyfnod segur gorfodol yw wyth diwrnod gwaith. Gall y cyfnod segur fod yn hwy os pennir cyfnod hwy yn yr hysbysiad dyfarnu contract (gweler adran 51(1) o'r Ddeddf).
73. Mae'r cyfnod segur yn saib gorfodol cyn y gall yr awdurdod contractio ymrwymo i'r contract, er bod eithriadau penodol fel y'u nodwyd yn adran 51(3) o'r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys pan ddyfernir contract yn uniongyrchol gan gyfleustod preifat. O dan yr amgylchiadau hyn, caiff cyfleustodau preifat ddewis defnyddio cyfnod segur gwirfoddol drwy nodi hyn yn yr hysbysiad dyfarnu contract.
74. Pan roddir cyfnod segur gwirfoddol ar waith, mae adran 51(4) o'r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid cydymffurfio'n llawn ag ef ac na ddylid ymrwymo i'r contract cyn i'r cyfnod ddod i ben. Ni ddylai unrhyw gyfnod segur gwirfoddol fod yn llai nag wyth diwrnod gwaith yn dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad dyfarnu contract, a gellir pennu cyfnod hwy os bydd yn briodol gwneud hynny.
Beth yw'r prif hysbysiadau sy'n gysylltiedig â'r agwedd hon ar y Ddeddf?
75. Fel arfer, caiff ymarferion caffael cyfleustodau eu llywodraethu gan yr un gofynion o ran hysbysiadau ag ymarferion caffael eraill o dan y Ddeddf gan gynnwys, er enghraifft, cyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract ar gyfer contractau a ddyfernir o dan fframwaith cyfleustodau.
76. Mae rheolau penodol yn gymwys pan sefydlir marchnad ddynamig cyfleustodau drwy gyfeirio at hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau. Ceir esemptiadau pellach rhag darpariaethau penodol neu ofynion cyhoeddi ar gyfer cyfleustodau neu gyfleustodau preifat a nodir isod.
Hysbysiad tendro
77. Gellir sefydlu marchnadoedd dynamig cyfleustodau gan ddefnyddio'r canlynol:
- hysbysiad marchnad ddynamig, yn y ffordd arferol (gweler adran 39 o'r Ddeddf), neu
- hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol (gweler adran 40 o'r Ddeddf).
78. Mae adran 40(2) o'r Ddeddf yn darparu eithriad i'r ddyletswydd i gyhoeddi hysbysiad tendro fel rhan o weithdrefn agored neu weithdrefn hyblyg gystadleuol pan gaffaelir contractau o dan farchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlwyd drwy gyfeirio at hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol.
79. Mae adran 40(2) yn darparu bod yn rhaid i'r hysbysiad tendro gael ei ddarparu, yn lle hynny, i bob cyflenwr sy'n aelod o'r farchnad ddynamig, neu'r rhan berthnasol o'r farchnad, ac yn rhoi disgresiwn i awdurdod contractio ddarparu hysbysiad i gyflenwyr sy'n dal i gael eu hystyried i fod yn aelodau o'r farchnad ddynamig cyfleustodau, neu ran o'r farchnad.
80. Effaith adran 40(4) o'r Ddeddf yw, yn achos marchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlwyd drwy gyfeirio at hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol, fod yn rhaid i'r hysbysiad tendro a ddarperir i gyflenwyr, y dogfennau tendro cysylltiedig neu'r hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol gynnwys y lefel ddigonol o wybodaeth sy'n ofynnol o dan adran 21(5) o'r Ddeddf er mwyn gwahodd cyflenwyr i gyflwyno tendr.
81. Mae adran 40(5) o'r Ddeddf yn darparu, ar gyfer marchnad ddynamig a sefydlwyd drwy gyfeirio at hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol, nad oes rhwymedigaeth ar awdurdodau contractio i ystyried ceisiadau newydd am aelodaeth o farchnad ddynamig cyfleustodau, neu ran o farchnad, cyn gwahardd cyflenwyr neu ddiystyru tendrau am nad yw'r cyflenwr yn aelod o'r farchnad.
82. Fel y'i nodwyd yn adran 40(7) o'r Ddeddf, mae cyfeiriadau mewn rhannau eraill o'r Ddeddf at gyhoeddi hysbysiad tendro yn cynnwys darparu hysbysiad tendro i gyflenwyr ar farchnad ddynamig cyfleustodau neu gyflenwyr sy'n gwneud cais i gael eu derbyn i farchnad o'r fath.
Hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol
83. Mae adran 40(6) o'r Ddeddf yn darparu, yn achos hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol, fod yn rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad mai dim ond aelodau o'r farchnad a gaiff eu hysbysu o fwriad i ddyfarnu contract o dan y farchnad ddynamig cyfleustodau yn y dyfodol (am nad yw hysbysiad tendro yn cael ei gyhoeddi).
84. Mae rheoliad 26(2)(i) o'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad gynnwys cymaint o'r wybodaeth ag a fyddai'n cael ei chyhoeddi mewn unrhyw hysbysiad tendro o dan reoliad 22(2), i'r graddau y mae'r wybodaeth hon ar gael pan gyhoeddir yr hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol.
85. Wrth ddarparu hysbysiad tendro i aelodau'r farchnad ddynamig, dim ond gwybodaeth nad yw wedi'i darparu eisoes yn yr hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol y bydd angen ei chynnwys yn yr hysbysiad tendro.
Esemptiadau rhag cyhoeddi hysbysiadau ar gyfer cyfleustodau preifat
86. Nid yw'n ofynnol i gyfleustodau preifat gyhoeddi'r canlynol:
| Esemptiadau rhag cyhoeddi | Adrannau o'r Ddeddf |
|---|---|
| Hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad | Diwygiwyd adran 17 o'r Ddeddf gan Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 i ddatgymhwyso'r adran hon ar gyfer cyfleustodau preifat |
| Hysbysiadau sy'n nodi bod marchnad ddynamig wedi peidio â gweithredu | Gweler adran 39(6) o'r Ddeddf |
| Dangosyddion perfformiad allweddol | Mae adran 52(6)(b) o'r Ddeddf yn darparu nad yw'r gofyniad i bennu a chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol yn gymwys i gontractau cyfleustodau a ddyfernir gan gyfleustod preifat |
| Hysbysiadau manylion contract neu gontractau | Gweler adran 53(6)(a) o'r Ddeddf |
| Hysbysiadau terfynu caffaeliad | Gweler adran 55(3) o'r Ddeddf |
| Hysbysiadau cydymffurfio taliadau | Gweler adran 69(6)(b) o'r Ddeddf |
| Gwybodaeth am daliadau o dan gontractau cyhoeddus | Gweler adran 70(4)(a) o'r Ddeddf |
| Hysbysiadau newid contract | Mae adran 75(6)(c) o'r Ddeddf yn darparu nad yw'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiad newid contract cyn addasu contract cyhoeddus neu gontract trosadwy (gweler adran 74(1) o'r Ddeddf) yn gymwys i gyfleustod preifat. |
| Copi o gontract a addaswyd neu'r addasiad perthnasol. | Dim ond addasiadau cymhwysol y mae'n rhaid eu cyhoeddi ac nid yw addasiadau i gontractau a ddyfernir gan gyfleustodau preifat yn dod o dan y diffiniad hwn am nad oes unrhyw ofyniad i gyhoeddi hysbysiad newid contract (gweler adran 77 o'r Ddeddf) |
| Hysbysiadau terfynu contractau | Gweler adran 80(4)(a) o'r Ddeddf |
| Hysbysiadau piblinell | Gweler adran 93(6) o'r Ddeddf |
Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
87. Mae'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â chynnwys y gwahanol hysbysiadau caffael a sefydlwyd o dan y Ddeddf. Mae rhai gwahaniaethau yng nghynnwys yr hysbysiadau ar gyfer contractau cyfleustodau (a hefyd gyfleustodau preifat). Ceir manylion y gwahaniaethau hyn yn Atodiad A.
Pa ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r pwnc hwn?
88. Bydd angen i gyfleustodau ddeall y Ddeddf gyfan oherwydd, heblaw am fân wahaniaethau yn y darpariaethau, mae'n gymwys yn yr un modd i gyfleustodau a chontractau cyfleustodau ag ydyw i awdurdodau contractio sy'n dyfarnu mathau eraill o gontract.
Atodiad A: Crynodeb o ddarpariaethau penodol ynglŷn â chyfleustodau yn Neddf Caffael 2023 (y Ddeddf)
| Cyfeiriad deddfwriaethol | Darpariaethau penodol ynglŷn â chyfleustodau | Cyfleustod cymwys |
|---|---|---|
| Adran 2: Awdurdod contractio | Mae adran 2 (1) yn nodi mai awdurdod cyhoeddus yw awdurdod contractio; neu mewn perthynas â chontract cyfleustodau, awdurdod cyhoeddus, ymgymeriad cyhoeddus neu gyfleustod preifat ydyw, heblaw (ym mhob achos) awdurdod eithriedig. | Pob cyfleustod |
Mae adran 2 (2) yn disgrifio:
| Awdurdodau cyhoeddus | |
| Ymgymeriad cyhoeddus yw person sy'n destun goruchwyliaeth awdurdod cyhoeddus ac sy'n gweithredu ar sail fasnachol | Ymgymeriadau cyhoeddus | |
| Cyfleustod preifat fel person nad yw'n awdurdod cyhoeddus nac yn ymgymeriad cyhoeddus ac sy'n cyflawni gweithgaredd cyfleustod. | Cyfleustodau preifat | |
Mae adran 2 (7) yn darparu bod yn rhaid i ymgymeriadau cyhoeddus a chyfleustodau preifat gael eu trin fel awdurdodau Albanaidd datganoledig os ydynt yn gweithredu yn yr Alban neu mewn perthynas â'r Alban yn unig, ac:
| Ymgymeriadau cyhoeddus a chyfleustodau preifat | |
| Adran 6: Contractau cyfleustodau | Mae adran 6 (1) yn nodi'r diffiniad o gontract cyfleustodau, sef contract ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion gweithgaredd cyfleustod. | Pob cyfleustod |
Mae adran 6 (2) yn diffinio gweithgaredd cyfleustod fel a ganlyn: Adran 6 (2) (a) a (b) – gweithgaredd a restrir yn Rhan 1 ond nid Rhan 2 o Atodlen 4 (gweithgareddau cyfleustod); Adran 6 (2) (c) – gweithgaredd a gyflawnir yn gyfan gwbl y tu allan i'r DU (e.e. nad yw'n golygu defnyddio rhwydwaith nac ardal ddaearyddol yn y DU); | Pob cyfleustod | |
| Adran 6 (2) (d) – ar gyfer cyfleustodau preifat, unrhyw weithgaredd y rhoddwyd hawl arbennig neu lwyr-gyfyngedig i'r cyfleustod ar ei gyfer (h.y. ni fyddai caffaeliad na roddwyd y cyfryw hawl i gyfleustod preifat ar ei gyfer yn cael ei gwmpasu gan y Ddeddf). | Cyfleustodau preifat | |
| Mae adran 6 (3) yn darparu bod yn rhaid i berson gyflawni gweithgaredd cyfleustod yn seiliedig ar hawl arbennig neu lwyr-gyfyngedig os rhoddwyd yr hawl i gyflawni'r gweithgaredd drwy ddarpariaeth statudol, reoliadol neu weinyddol a bod y ddarpariaeth hefyd yn cyfyngu'n sylweddol ar allu personau eraill na roddwyd yr hawl iddynt i gyflawni'r gweithgaredd. | Cyfleustodau preifat | |
| Mae adran 6 (4) yn darparu nad yw hawl yn hawl arbennig na llwyr-gyfyngedig os rhoddwyd yr hawl honno yn dilyn gweithdrefn dendro gystadleuol o dan adran 19 o'r Ddeddf neu pan roddwyd cyhoeddusrwydd digonol i'r cyfle a rhoddwyd yr hawl yn seiliedig ar feini prawf anwahaniaethol. | Cyfleustodau preifat | |
| Mae adran 6 (5-6) yn gweithio gyda'i gilydd ac yn darparu y caiff awdurdod priodol ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 4, sy'n nodi gweithgareddau nad ydynt yn weithgareddau cyfleustod, er mwyn pennu gweithgareddau neu ddileu gweithgareddau o'r Rhan honno. Dim ond os yw'n fodlon bod y prawf yn adran 6 (6) wedi'i fodloni y caiff awdurdod priodol bennu gweithgaredd yn Rhan 2: h.y. bod y farchnad ar gyfer y gweithgaredd a bennir yn destun cystadleuaeth deg ac effeithiol ac na chyfyngir ar fynediad i'r farchnad honno. | Pob cyfleustod | |
| Mae adran 6 (7) yn egluro bod cyfeiriad at gyfleustodau yn cynnwys cyfeiriad at gytundeb fframwaith lle mae'r fframwaith hwnnw ar gyfer dyfarnu contractau cyfleustodau yn y dyfodol. | Pob cyfleustod | |
| Adran 10: Caffael cymysg: contractau cyfundrefn arbennig | Mae adran 10 (6) yn darparu mai math o gontract cyfundrefn arbennig sy'n ddarostyngedig i'r rheolau yn yr adran hon yw contractau cyfleustodau. | Pob cyfleustod |
| Adran 13: Y datganiad polisi caffael cenedlaethol | Mae adran 13 (10) yn darparu nad yw'r rhwymedigaeth yn adran 13 (9) i roi sylw i'r datganiad polisi caffael cenedlaethol yn gymwys i gyfleustodau preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 14: Datganiad polisi caffael Cymru | Mae adran 14 (9) yn darparu nad yw'r rhwymedigaeth yn adran 14 (8) i roi sylw i ddatganiad polisi caffael Cymru yn gymwys i gyfleustodau preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 17: Hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad | Nid yw adran 17 yn gymwys i gyfleustodau preifat: diwygiwyd adran 17 gan Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 er mwyn datgymhwyso'r adran hon ar gyfer cyfleustodau preifat | Cyfleustodau preifat |
| Adran 21: Hysbysiadau tendro a dogfennau tendro cysylltiedig | Mae adran 21 (7) yn cyfeirio at adran 40 (Hysbysiadau marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol: dim dyletswydd i gyhoeddi hysbysiad tendro) sy'n darparu eithriad i'r ddyletswydd i gyhoeddi hysbysiad tendro (fel rhan o weithdrefn agored neu weithdrefn hyblyg gystadleuol) pan ddyfernir contractau o dan farchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlwyd drwy gyfeirio at hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol. (Mae adran 40 yn darparu bod yn rhaid i'r hysbysiad tendro gael ei ddarparu yn lle hynny i bob cyflenwr sy'n aelod o'r farchnad ddynamig, neu ran berthnasol o'r farchnad.) | Pob cyfleustod |
| Adran 34: Dyfarnu cystadleuol drwy gyfeirio at farchnadoedd dynamig | Mae adran 34 (7) yn golygu y gellir caffael contractau consesiwn sydd hefyd yn gontractau cyfleustodau o dan farchnadoedd dynamig (ond na ellir eu caffael fel arall). | Pob cyfleustod |
| Adran 35: Marchnadoedd dynamig: sefydlu | Mae adran 35(2) yn diffinio marchnad ddynamig cyfleustodau fel marchnad ddynamig a sefydlir at ddiben dyfarnu contractau cyfleustodau gan gyfleustodau yn unig. | Pob cyfleustod |
Mae adran 35 (3) yn darparu, os bydd unrhyw berson yn sefydlu marchnad ddynamig cyfleustodau sy'n cydymffurfio â darpariaethau'r Ddeddf sy'n gymwys i farchnadoedd dynamig cyfleustodau a sefydlir gan gyfleustodau preifat, y dylid ei thrin fel marchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlwyd gan gyfleustod preifat ac y gall cyfleustodau ei defnyddio i ddyfarnu contractau cyhoeddus sy'n gontractau cyfleustodau. * Ystyr “unrhyw berson” yn y tabl hwn yw person nad yw'n gyfleustod ac sydd wedi sefydlu marchnad ddynamig cyfleustodau ac sy'n gweithredu marchnad o'r fath. | Dd/G, mae'r ddarpariaeth yn ymwneud ag unrhyw berson | |
| Mae adran 35(4) yn diffinio cyfleustod at ddibenion y Ddeddf fel awdurdod cyhoeddus, neu ymgymeriad cyhoeddus, sy'n cyflawni gweithgaredd cyfleustod; neu gyfleustod preifat. | Pob cyfleustod | |
| Adran 38: Marchnadoedd dynamig: ffioedd | Nid yw adran 38 (1) na (2) sy'n ymwneud â ffioedd yn gymwys i farchnadoedd dynamig cyfleustodau. | Ddim yn gymwys |
| Dim ond i farchnadoedd dynamig cyfleustodau y mae adran 38 (3) yn gymwys. Mae'n darparu mai dim ond mewn cysylltiad â sicrhau a chynnal aelodaeth o'r farchnad y gellir codi ffioedd a nodir mewn dogfennau sy'n sefydlu marchnad ddynamig cyfleustodau ar gyflenwyr o dan farchnad ddynamig cyfleustodau. Mae'r ddarpariaeth hon, fel darpariaethau eraill sy'n ymwneud â marchnadoedd dynamig a sefydlir gan gyfleustodau preifat, yn un o ofynion marchnadoedd dynamig cyfleustodau a sefydlir gan unrhyw berson pan ddefnyddir y farchnad gan awdurdod contractio o dan y Ddeddf (adran 35 (3)). | Pob cyfleustod (gan gynnwys pan sefydlir marchnad ddynamig cyfleustodau gan unrhyw berson) | |
| Adran 39: Hysbysiadau marchnad ddynamig | Mae adran 39 (6) yn darparu nad oes rhaid i gyfleustodau preifat gyhoeddi hysbysiad yn unol ag adran 39 (5) unwaith y bydd marchnad ddynamig wedi peidio â gweithredu. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 40: Hysbysiadau marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol: dim dyletswydd i gyhoeddi hysbysiad tendro | Gellir sefydlu marchnadoedd dynamig cyfleustodau gan ddefnyddio'r canlynol:
| Pob cyfleustod |
| Mae adran 40 (1) yn darparu bod yn rhaid i awdurdod contractio sy'n caffael contract o dan farchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlwyd gan ddefnyddio hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol, fel rhan o'r weithdrefn hyblyg gystadleuol, beidio â chyhoeddi hysbysiad tendro at ddiben gwahodd cyflenwyr i gyflwyno cais i gymryd rhan, neu, lle y bo'n berthnasol, dendr ar gyfer caffaeliad (gweler adran 21 (1) (Hysbysiadau tendro a dogfennau tendro cysylltiedig). | Pob cyfleustod | |
| Mae adran 40 (2) yn darparu, pan fo'n rhaid i awdurdod contractio beidio â chyhoeddi hysbysiad tendro (h.y. pan fo adran 40 (1) yn gymwys), fod yn rhaid i'r awdurdod contractio hwnnw, yn lle hynny, ddarparu hysbysiad tendro i aelodau o'r farchnad ddynamig cyfleustodau neu ran briodol o'r farchnad. | Pob cyfleustod | |
| Mae adran 40 (3) yn rhoi disgresiwn i awdurdod contractio roi hysbysiad tendro i gyflenwyr sy'n dal i gael eu hystyried ar gyfer aelodaeth o'r farchnad ddynamig cyfleustodau, neu ran o'r farchnad. | Pob cyfleustod | |
| Mae adran 40 (4) yn ymgorffori hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol yn adran 21 (5) (Hysbysiadau tendro a dogfennau tendro cysylltiedig). Mae hyn yn golygu, yn achos marchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlwyd drwy gyfeirio at hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol, fod yn rhaid i'r hysbysiad tendro a roddir i gyflenwyr, dogfennau tendro cysylltiedig neu hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol gynnwys y lefel ddigonol o wybodaeth sy'n ofynnol o dan adran 21 (5) er mwyn gwahodd cyflenwyr i gyflwyno tendr. | Pob cyfleustod | |
| Mae adran 40 (5) yn datgymhwyso'r gofyniad yn adran 34 (4) (Dyfarnu cystadleuol drwy gyfeirio at farchnadoedd dynamig), pan fo marchnad ddynamig wedi'i sefydlu drwy gyfeirio at hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol, i awdurdodau contractio ystyried ceisiadau am aelodaeth o farchnad ddynamig cyfleustodau, neu ran o farchnad, cyn gwahardd cyflenwyr neu ddiystyru tendrau am nad yw'r cyflenwr yn aelod o'r farchnad. | Pob cyfleustod | |
| Mae adran 40 (6) yn diffinio hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol. Rhaid i'r hysbysiad hwn ymwneud â sefydlu marchnad ddynamig cyfleustodau a chynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 40 (6) (b) | Pob cyfleustod | |
| Mae adran 40 (7) yn darparu bod unrhyw gyfeiriadau at gyhoeddi hysbysiad tendro mewn rhannau eraill o'r Ddeddf yn cynnwys cyfeiriadau at ddarparu hysbysiad tendro fel y'i disgrifir yn adran 40 (2) a (3). | Pob cyfleustod | |
| Adran 47: Fframweithiau: Cyfnod hwyaf | Mae adran 47 (1) yn nodi mai'r cyfnod hwyaf ar gyfer fframwaith cyfleustodau yw wyth mlynedd. Mae adran 47 (2) yn darparu nad yw'r cyfyngiad yn gymwys os bydd yr awdurdod contractio o'r farn bod angen cyfnod hwy. Mae adran 47 (3) yn darparu bod yn rhaid i'r awdurdod contractio nodi ei resymau yn yr hysbysiad tendro neu'r hysbysiad tryloywder ar gyfer y fframwaith. | Awdurdodau cyhoeddus ac ymgymeriadau cyhoeddus |
| Mae adran 47 (4) (b) yn diffinio fframwaith cyfleustodau fel fframwaith nad yw'n darparu ar gyfer dyfarnu contractau cyfleustodau yn y dyfodol heblaw contractau cyfleustodau. | Pob cyfleustod | |
| Mae adran 47 (5) (b) yn darparu nad yw'r cyfnod hwyaf ar gyfer fframweithiau a nodir yn adran 47 (1) yn gymwys i gyfleustodau preifat. | Cyfleustodau preifat | |
| Adran 51: Cyfnodau segur o ran dyfarnu contractau | Mae adran 51 (3) (c) yn darparu nad yw'r gwaharddiad ar ymrwymo i gontract cyn diwedd cyfnod segur yn gymwys i gyfleustodau preifat pan ddyfernir contract o dan adran 41 (dyfarniad uniongyrchol) neu adran 43 (newid i ddyfarniad uniongyrchol). | Cyfleustodau preifat |
| Adran 52: Dangosyddion perfformiad allweddol | Mae adran 52(6)(b) yn darparu nad yw'r gofyniad i bennu a chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol yn gymwys i gontractau cyfleustodau a ddyfernir gan gyfleustod preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 53: Hysbysiadau manylion contract a chyhoeddi contractau | Mae adran 53 (6) (a) yn darparu nad yw'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiad manylion contract ar ôl i gontract gael ei ddyfarnu a, lle y bo'n berthnasol, gopi o'r contract, yn gymwys i gyfleustodau preifat (er bod yn rhaid i fanylion y contract sydd i'w ddyfarnu gael eu cynnwys yn yr hysbysiad dyfarnu contract o dan adran 50 cyn ymrwymo i'r contract). | Cyfleustodau preifat |
| Adran 54: Terfynau amser | Mae adran 54 (4) yn nodi mewn tablau y cyfnodau tendro lleiaf o dan amgylchiadau gwahanol. Ar gyfer cyfleustodau, mae'r hyblygrwydd canlynol yn gymwys:
Effaith y ddwy ddarpariaeth hyn yw, os yw'r contract sydd i'w ddyfarnu yn gontract cyfleustodau ac mai dim ond cyflenwyr a ddetholwyd ymlaen llaw a gaiff gyflwyno tendrau, y caiff yr awdurdod contractio a'r cyflenwyr gytuno ar y cyfnod o amser neu, os na allant gytuno, mai'r cyfnod lleiaf yw 10 diwrnod. (Diffinnir ‘cyfnod tendro, cyfnod tendro a negodwyd a chyflenwr a ddetholwyd ymlaen llaw’ yn adran 54 (5)). | Pob cyfleustod |
| Adran 55: Hysbysiadau terfynu caffaeliad | Mae adran 55 (3) yn darparu nad yw'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiad terfynu caffaeliad os bydd yn terfynu'r weithdrefn yn gymwys i gyfleustodau preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 57: Ystyr cyflenwr gwaharddedig a gwaharddadwy | Mae adran 57 (4) yn darparu, ar gyfer cyfleustodau preifat, fod yn rhaid ystyried unrhyw gyfeiriad at gyflenwyr gwaharddedig fel cyfeiriad at gyflenwyr gwaharddadwy a bod unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf at gyflenwr gwaharddadwy yn cynnwys cyflenwr gwaharddedig. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 68: Telerau talu ymhlyg mewn contractau cyhoeddus | Mae adran 68 (1) yn darparu nad yw'r telerau talu ymhlyg a nodir yn yr adran hon yn gymwys i gontractau cyfleustodau a ddyfernir gan gyfleustod preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 69: Hysbysiadau cydymffurfio taliadau | Mae adran 69 (6) (b) yn darparu nad yw hysbysiadau cydymffurfio taliadau yn gymwys i gyfleustodau preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 70: Gwybodaeth am daliadau o dan gontractau cyhoeddus | Mae adran 70 (4) (a) yn darparu nad yw'r gofyniad i gyhoeddi gwybodaeth benodedig am daliadau sy'n fwy na £30,000 o dan gontractau cyhoeddus yn gymwys i gontract cyhoeddus sy'n gontract cyfleustodau a ddyfernir gan gyfleustod preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 71: Asesiad o gyflawni contract | Mae adran 71 (7) yn nodi'n glir nad yw'r gofyniad i awdurdodau contractio gynnal asesiad o gyflawni contract yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol a nodir o dan adran 52 (1) a chyhoeddi gwybodaeth benodol yn gymwys i gyfleustodau preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 73: Telerau talu ymhlyg mewn is-gontractau | Mae adran 73 (6) (b) yn darparu nad yw'r telerau talu ymhlyg (sy'n ymwneud ag is-gontractau cyhoeddus) a nodir yn yr adran hon yn gymwys i is-gontract cyhoeddus ar gyfer cyflawni (neu gyfrannu at gyflawni) contract cyfleustodau cyfan a ddyfernir gan gyfleustod preifat neu ran o gontract o'r fath. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 75: Hysbysiadau newid contract | Mae adran 75 (6) (c) yn darparu nad yw'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiad newid contract cyn addasu contract cyhoeddus neu gontract trosadwy (gweler adran 74 (1)) yn gymwys i gyfleustod preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 77: Cyhoeddi addasiadau | Mae adran 77 (2) (a) a'r diffiniad o addasiad cymhwysol yn golygu nad yw'r gofyniad i gyhoeddi copi o gontract a addaswyd neu'r addasiad perthnasol yn gymwys i gyfleustodau preifat (gan nad yw'n ofynnol i gyfleustodau preifat gyhoeddi hysbysiad newid contract o dan adran 75). | Cyfleustodau preifat |
| Adran 80: Hysbysiadau terfynu contract | Mae adran 80 (4) (a) yn darparu nad yw'r gofyniad i gyhoeddi hysbysiad terfynu contract pan derfynir contract yn gymwys i gyfleustodau preifat. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 83: Asesiadau gwrthdaro | Nid yw adran 83 (7) yn esemptio cyfleustodau preifat rhag yr adran ond mae'n addasu rhai termau wrth gymhwyso'r termau hynny at gyfleustodau preifat, neu fel arall byddai'r adran yn cynnwys cyfeiriadau nad ydynt yn gymwys i gyfleustodau preifat. Er enghraifft, mae adran 83 (7) (b) yn darparu bod cyfeiriad at gyhoeddi hysbysiad terfynu yn gyfeiriad at derfynu'r contract. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 93: Hysbysiadau piblinell | Mae adran 93 (6) yn darparu nad yw'n ofynnol i gyfleustodau preifat gyhoeddi hysbysiadau piblinell. | Cyfleustodau preifat |
| Adran 96: Cyfathrebu electronig | Mae adran 96 (3) (b) yn darparu nad yw'r gofyniad i ddefnyddio systemau cyfathrebu electronig i'r graddau y bo'n ymarferol, yn gymwys i gaffaeliadau a gynhelir o dan farchnad ddynamig cyfleustodau. | Pob cyfleustod |
| Adran 108: Ymchwiliadau caffael | Mae adran 108 (5) yn darparu nad yw cyfleustod preifat yn cael ei ystyried yn awdurdod contractio perthnasol at ddibenion yr adran hon ac, felly, nad yw'n agored i ymchwiliadau caffael o dan yr adran hon. (Rhaid i gyfleustodau preifat gydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan awdurdod priodol yn dilyn ymchwiliad caffael fel y darperir ar ei gyfer yn adran 110, yn amodol ar yr argymhelliad ei hun.) | Cyfleustodau preifat |
| Adran 111: Gweinidogion Cymru: cyfyngiadau ar arfer pwerau | Mae adran 111 (2) yn darparu bod yn rhaid trin awdurdodau contractio sy'n ymgymeriadau cyhoeddus neu'n gyfleustodau preifat sy'n gweithredu'n gyfan gwbl neu'n bennaf mewn perthynas â Chymru, ac y mae eu gweithgareddau, yn gyfan gwbl neu'n bennaf, yn weithgareddau nad ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl, fel awdurdodau Cymreig datganoledig. | Ymgymeriadau cyhoeddus a chyfleustodau preifat |
| Adran 112: adran Gogledd Iwerddon: cyfyngiadau ar arfer pwerau | Mae adran 112 (3) yn darparu bod yn rhaid trin awdurdodau contractio sy'n ymgymeriadau cyhoeddus neu'n gyfleustodau preifat sy'n gweithredu yng Ngogledd Iwerddon neu mewn perthynas â Gogledd Iwerddon yn unig ac y mae eu gweithgareddau, yn gyfan gwbl neu'n bennaf, yn weithgareddau nad ydynt yn ymwneud â materion a eithrir neu a gedwir yn ôl, fel awdurdodau a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon. | Ymgymeriadau cyhoeddus a chyfleustodau preifat |
| Adran 115: Pwerau sy'n ymwneud â threfniadau caffael | Mae adran 115 (4) (c) yn darparu bod ystyr deddfwriaeth gaffael yr Alban yn y Ddeddf yn cynnwys Rheoliadau Contractau Cyfleustodau (Yr Alban) 2016 (O.S.A. 2016/49). | Pob cyfleustod |
| Adran 119: Diddymiadau ac ati | Mae adran 119 (2) (b) yn darparu mai dim ond mewn perthynas ag awdurdodau Albanaidd datganoledig y mae Rheoliadau Contractau Cyfleustodau (Yr Alban) 2016 (O.S.A. 2016/49) yn gymwys. | Pob cyfleustod |
| Adran 121: Pŵer i ddiwygio'r Ddeddf hon mewn perthynas â chyfleustodau preifat | Mae adran 121 (1) yn darparu pŵer i awdurdod priodol wneud rheoliadau i gwtogi ar reoleiddio cyfleustodau preifat o dan y Ddeddf. | Cyfleustodau preifat |
| Mae adran 121 (2) yn darparu rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o'r hyn y gall rheoliadau ei wneud, er enghraifft gofynion datgymhwyso; neu ofynion addasu er mwyn lleihau baich penodol neu'r baich cyffredinol. | Cyfleustodau preifat | |
| Mae adran 121 (3) yn darparu bod yn rhaid i awdurdod priodol ymgynghori â phersonau penodol cyn gwneud rheoliadau. | Cyfleustodau preifat | |
| Mae adran 121 (4) yn rhoi rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o ddarpariaethau y gellid ystyried eu bod yn 'faich', megis y rhai sy'n arwain at golled ariannol, anghyfleustra gweinyddol neu rwystrau i broffidioldeb, cynhyrchiant neu effeithlonrwydd. Nid yw'n rhestr gynhwysfawr. | Cyfleustodau preifat | |
| Adran 124: Mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio | Mae'r adran hon yn darparu tabl sy'n croesgyfeirio ymadroddion a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r Ddeddf at y darpariaethau perthnasol lle y'u diffinnir, gan gynnwys y termau cyfleustod preifat, ymgymeriad cyhoeddus, contract cyfleustodau, marchnad ddynamig cyfleustodau, cyfleustod a gweithgaredd cyfleustod. | Pob cyfleustod |
| Atodlen 1, paragraff 1: Symiau trothwyon (fel y maent i'w diweddaru gan y Rheoliadau Caffael (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (sydd i'w gosod gerbron Senedd Cymru ym mis Medi) | Mae'r trothwyon ar gyfer cyfleustodau fel a ganlyn:
| Pob cyfleustod |
| Atodlen 1, paragraff 5: Symiau trothwyon | Mae atodlen 1, paragraff 5 (1) (b) yn esemptio cyfleustodau preifat neu ymgymeriadau cyhoeddus rhag y diffiniad o awdurdod islaw'r llywodraeth ganolog. | Pob cyfleustod |
| Atodlen 2, paragraffau 2-3: Contractau esempt | Trefniadau fertigol Mae paragraff 2 (8) yn darparu nad yw'r esemptiad ynglŷn â threfniadau fertigol yn y paragraff hwn yn gymwys i ymgymeriadau cyhoeddus na chyfleustodau preifat. Yn lle hynny, caiff ymgymeriad cyhoeddus neu gyfleustod preifat ddefnyddio'r esemptiad ym mharagraff 6 o'r Atodlen hon, lle y bo'n berthnasol (sy'n gymwys i bob cyfleustod). | Awdurdodau cyhoeddus |
Trefniadau llorweddol Mae paragraff 3 (4) yn darparu nad yw'r esemptiad ynglŷn â threfniadau llorweddol yn gymwys i ymgymeriadau cyhoeddus na chyfleustodau preifat. Yn lle hynny, caiff ymgymeriad cyhoeddus neu gyfleustod preifat ddefnyddio'r esemptiad ym mharagraff 6 o'r Atodlen hon, lle y bo'n berthnasol (sy'n gymwys i bob cyfleustod). | Awdurdodau cyhoeddus | |
| Atodlen 2, paragraffau 5-6: Contractau esempt | Contractau cyfleustodau (contractau esempt â chyd-barti) Mae paragraff 5(1) yn esemptio contractau cyfleustodau a ddyfernir gan ‘gyd-fenter berthnasol’ i un o aelodau'r gyd-fenter, a gan aelod o gyd-fenter i'r gyd-fenter berthnasol. Caiff cyd-fenter berthnasol ei ffurfio at ddibenion cyflawni gweithgaredd cyfleustod ac mae'n ymrwymedig i wneud hynny am gyfnod o dair blynedd o leiaf. At hynny, rhaid i'r cyfleustodau sy'n ffurfio'r gyd-fenter barhau i fod yn aelodau o'r gyd-fenter am dair blynedd o leiaf ar ôl dyddiad y cytundeb. | Pob cyfleustod |
| Mae paragraff 5 (2) yn diffinio cyd-fenter berthnasol, a ddefnyddir ym mharagraffau 5 (1) a (2) a 6 (1) o'r Atodlen hon. Mae cyd-fenter berthnasol yn gyd-fenter a ffurfiwyd at ddibenion cyflawni gweithgaredd cyfleustod ac sy'n cynnwys cyfleustodau yn unig. | Pob cyfleustod | |
Mae paragraff 6 (1) yn esemptio contractau cyfleustodau a ddyfernir:
| Pob cyfleustod | |
| Mae paragraff 6 (2) yn esbonio, drwy gyfeirio at Ddeddf Cwmnïau 2006, beth mae'n ei olygu os yw person yn ymgysylltiedig â pherson arall. Mae person yn ymgysylltiedig â pherson arall os yw'r person mewn ymgymeriad grŵp, fel y'i diffiniwyd yn adran 1161 (5) o'r Ddeddf honno, â'r person hwnnw. Mae paragraff 6 (2) yn darparu y byddai hyn yn wir hyd yn oed pe na bai un ohonynt yn ymgymeriad fel y'i diffiniwyd yn adran 1161 (1) o'r Ddeddf honno: er enghraifft, pan nad yw un ohonynt yn gwmni cyfyngedig. | Pob cyfleustod | |
| Mae paragraffau 6 (3) a (5) yn darparu, er mwyn i'r esemptiad fod yn gymwys, fod yn rhaid bodloni'r prawf trosiant, gyda manylion pellach i'w nodi mewn rheoliadau. | Pob cyfleustod | |
| Atodlen 2, paragraff 21: Contractau esempt | Gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus (contract esempt ar sail testun) Mae paragraff 21 yn esemptio contractau a ddyfernir o dan reoliadau rhwymedigaethau gwasanaethau cyhoeddus a ddiffinnir yn adran 136(11) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993. Mae'r ddarpariaeth hon yn gweithredu i esemptio gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus penodol rhag y Ddeddf. | Pob cyfleustod |
| Atodlen 2, paragraffau 31-34: Contractau esempt | Contractau cyfleustodau (contractau esempt ar sail testun) Mae paragraff 31 yn esemptio contractau cyfleustodau a ddyfernir at ddibenion gwerthu neu brydlesu ymhellach i drydydd partïon, ar yr amod nad oes gan y cyfleustod hawl arbennig na llwyr-gyfyngedig (fel y'i diffiniwyd yn adran 6(3)) i werthu neu brydlesu'r nwyddau, y gwasanaethau na'r gweithiau a brynwyd a bod y farchnad yn agored. Nid yw'r esemptiad hwn ar gael pan fo'r cyfleustod sy'n dyfarnu'r contract yn gweithredu fel awdurdod prynu canolog. | Pob cyfleustod |
| Mae paragraff 32 yn esemptio contractau cyfleustodau i brynu dŵr a ddyfernir gan gyfleustodau sy'n cyflawni gweithgaredd cyfleustod yn Atodlen 4, paragraff 3(1)(a) neu (b). | Pob cyfleustod | |
| Mae paragraff 33 yn esemptio contractau cyfleustodau i brynu ynni, neu danwydd i gynhyrchu ynni, a ddyfernir gan gyfleustodau sy'n cyflawni gweithgaredd cyfleustod yn Atodlen 4, paragraffau 1, 2 neu 6 (nwy a gwres, trydan ac echdynnu olew a nwy a chwilio am lo neu danwyddau solet eraill neu ei echdynnu/eu hechdynnu. Dim ond i ynni neu danwydd a brynir i gynhyrchu ynni y mae'r esemptiad yn gymwys ac nid yw'n gymwys i ynni na thanwydd a brynir am resymau eraill, e.e. prynu tanwydd at ddibenion trafnidiaeth nad ydynt yn ymwneud â'r gweithgaredd cyfleustod. | Pob cyfleustod | |
| Mae paragraff 34 yn esemptio contractau at ddibenion y gweithgareddau a nodwyd yn Rhan 2 o Atodlen 4, a fyddai'n weithgareddau cyfleustod pe na baent wedi eu nodi yn Rhan 2. | Pob cyfleustod | |
| Atodlen 2, paragraff 35-37: Contractau esempt | Contractau consesiwn (contractau esempt ar sail testun) Mae paragraff 35 yn esemptio contractau consesiwn ar gyfer gweithgareddau cyfleustod sy'n ymwneud â gwasanaethau dŵr a ddisgrifiwyd yn Atodlen 4, paragraff 3(1) neu (2). Mae paragraff 36 yn esemptio contractau consesiwn ar gyfer gwasanaethau hedfan rheolaidd am gyfnodau penodedig yn y DU neu yn y DU a Gibraltar ac sy'n cael eu gweithredu o dan drwydded lwyr-gyfyngedig ac sy'n ddarostyngedig i ofynion gwasanaeth sylfaenol. Gelwir y contractau hyn yn rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig ac maent yn cael eu rheoleiddio ar wahân o dan Reoliad 1008/2008. O dan y rheoliad hwn, gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth osod rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus mewn perthynas â gwasanaethau hedfan rheolaidd rhwng maes awyr yn y DU a maes awyr sy'n gwasanaethu rhanbarth ymylol neu ranbarth datblygu yn y DU neu ar lwybr a ystyrir yn hollbwysig i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol y rhanbarth. Pan fydd rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus wedi cael ei gosod, caniateir i unrhyw gwmni hedfan cymwys ddechrau gwasanaethau hedfan rheolaidd sy'n bodloni'r holl ofynion yn y rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus. Gelwir hon yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus ‘agored’ ac nid yw'n golygu dyfarnu contract. Os nad oes unrhyw gwmni hedfan cymwys wedi dechrau neu os na all ddangos ei fod ar fin dechrau gwasanaethau hedfan rheolaidd cynaliadwy ar lwybr dan sylw yn unol â'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus, yna gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyfyngu mynediad i'r gwasanaethau hedfan rheolaidd i un cwmni hedfan cymwys am gyfnod o hyd at bedair blynedd. Gelwir hon yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus ‘gyfyngedig’. Mae'n rhaid i'r hawl i gynnig y gwasanaethau ar gyfer rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus gyfyngedig gael ei chynnig drwy dendr cyhoeddus o dan Reoliad 1008/2008. Mae'r esemptiad ym mharagraff 36 yn cwmpasu contractau consesiwn ar gyfer rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig. | Pob cyfleustod
Pob cyfleustod |
| Mae paragraff 37 yn esemptio contractau consesiwn i ddarparu gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus. | Pob cyfleustod | |
| Atodlen 4, paragraff 1: Gweithgareddau cyfleustod: nwy a gwres | Mae paragraff 1 yn nodi pryd mae gweithgareddau sy'n gysylltiedig â nwy a gwres yn weithgareddau cyfleustod. | Pob cyfleustod |
| Mae paragraff 1 (1) yn darparu bod darparu neu weithredu rhwydweithiau sefydlog y bwriedir iddynt ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd mewn cysylltiad â chynhyrchu, cludo neu ddosbarthu nwy neu wres a chyflenwi nwy neu wres i rwydweithiau o'r fath, yn weithgareddau cyfleustod. | Pob cyfleustod | |
Mae paragraff 1 (2) yn nodi'r amgylchiadau pan nad ystyrir bod cyflenwi nwy neu wres i rwydwaith yn weithgaredd cyfleustod, y mae'n rhaid i bob un ohonynt gael eu bodloni er mwyn i'r esemptiad fod yn gymwys. Yr amgylchiadau hyn yw: bod y gweithredwr (h.y. y cyflenwr nwy neu wres) yn gyfleustod preifat neu'n ymgymeriad cyhoeddus; bod y gweithredwr yn cynhyrchu'r nwy neu'r gwres fel sgil-gynnyrch na ellir ei osgoi wrth gyflawni gweithgaredd nad yw'n weithgaredd penodedig; ac nad yw'r nwy/gwres a gyflenwir i'r rhwydwaith yn cyfateb i fwy nag 20% o gyfanswm trosiant y gweithredwr. Nodir y diffiniad o weithgareddau penodedig (y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn ac ym mharagraffau 2 a 3) ym mharagraff 7 o'r Atodlen hon. | Pob cyfleustod | |
| Mae paragraff 1 (3) a (4) yn darparu y caiff awdurdod priodol wneud rheoliadau sy'n nodi sut i gyfrifo'r swm y cyfeirir ato ym mharagraff 1 (2) (c) ac yn rhoi rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o ddarpariaethau y gellir eu cynnwys yn y rheoliadau hynny. | Dd/G | |
| Atodlen 4, paragraff 2: Gweithgareddau cyfleustod: trydan | Mae paragraff 2 yn nodi pryd mae gweithgareddau sy'n gysylltiedig â thrydan yn weithgareddau cyfleustod. | Pob cyfleustod |
| Mae paragraff 2 (1) yn darparu bod darparu neu weithredu rhwydweithiau sefydlog y bwriedir iddynt ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd mewn cysylltiad â chynhyrchu, cludo neu ddosbarthu trydan a chyflenwi trydan i rwydweithiau o'r fath, yn weithgareddau cyfleustod. | Pob cyfleustod | |
| Mae paragraff 2 (2) yn nodi'r amgylchiadau pan nad ystyrir bod cyflenwi trydan i rwydwaith yn weithgaredd cyfleustod, y mae'n rhaid i bob un ohonynt gael eu bodloni er mwyn i'r esemptiad fod yn gymwys. Yr amgylchiadau hyn yw: bod y gweithredwr (h.y. y cyflenwr trydan) yn gyfleustod preifat neu'n ymgymeriad cyhoeddus; bod y gweithredwr yn cynhyrchu trydan am fod angen y trydan arno i wneud rhywbeth heblaw gweithgaredd penodedig; dim ond yr hyn sydd dros ben o weithgarwch cynhyrchu o'r fath nad yw'r gweithredwr wedi'i ddefnyddio ei hun yw'r trydan a gyflenwir; ac nad yw'r trydan a gyflenwir yn cyfateb i fwy na 30% o'r holl ynni a gynhyrchir gan y gweithredwr. | Ymgymeriadau cyhoeddus a chyfleustodau preifat | |
| Mae paragraff 2 (3) a (4) yn darparu y caiff awdurdod priodol wneud rheoliadau sy'n nodi sut i gyfrifo'r swm y cyfeirir ato ym mharagraff 2 (2) (d) ac yn rhoi rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o ddarpariaethau y gellir eu cynnwys yn y rheoliadau hynny. | Dd/G | |
| Atodlen 4, paragraff 3: Gweithgareddau cyfleustod: dŵr | Mae paragraff 3 yn nodi pryd y mae gweithgareddau sy'n gysylltiedig â dŵr yn weithgareddau cyfleustod. | Pob cyfleustod |
| Mae paragraff 3 (1) yn darparu bod darparu neu weithredu rhwydweithiau sefydlog y bwriedir iddynt ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd mewn cysylltiad â chynhyrchu, cludo neu ddosbarthu dŵr yfed a chyflenwi dŵr yfed i rwydweithiau o'r fath, yn weithgareddau cyfleustod. | Pob cyfleustod | |
| Mae paragraff 3 (2) yn nodi rhagor o weithgareddau sydd hefyd yn weithgareddau cyfleustod, i'r graddau y maent yn cael eu cyflawni gan berson sydd hefyd yn cyflawni'r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3 (1). Y gweithgareddau hyn yw: unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â phrosiect peirianneg hydrolig, dyfrhau neu ddraenio tir, ar yr amod y bodlonir yr amod ym mharagraff 3 (3); ac unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaredu neu drin carthion. | Pob cyfleustod | |
| Mae paragraff 3 (3) yn nodi'r amod y cyfeirir ato ym mharagraff 3 (2), sef bod yn rhaid i berson sy'n cyflawni'r gweithgaredd ddisgwyl yn rhesymol y bydd mwy nag 20% o'r holl ddŵr a ddarperir o dan baragraff 3 (2) yn cael ei gyflenwi fel dŵr yfed i rwydwaith ym mharagraff 3 (1). | Pob cyfleustod | |
| Mae paragraff 3 (4) yn nodi'r amgylchiadau pan nad ystyrir bod cyflenwi dŵr yfed yn weithgaredd cyfleustod, y mae'n rhaid i bob un ohonynt gael eu bodloni er mwyn i'r esemptiad fod yn gymwys. Yr amgylchiadau hyn yw: bod y gweithredwr (h.y. y cyflenwr dŵr yfed) yn gyfleustod preifat neu'n ymgymeriad cyhoeddus; bod y gweithredwr yn cynhyrchu dŵr yfed am fod angen y dŵr yfed arno i wneud rhywbeth heblaw gweithgaredd penodedig; dim ond yr hyn sydd dros ben o weithgarwch cynhyrchu o'r fath nad yw'r gweithredwr wedi'i ddefnyddio ei hun yw'r dŵr yfed a gyflenwir; ac nad yw'r dŵr yfed a gyflenwir yn cyfateb i fwy na 30% o'r holl ddŵr yfed a gynhyrchir gan y gweithredwr. | Ymgymeriadau cyhoeddus a chyfleustodau preifat | |
| Mae paragraffau (5) a (6) yn darparu y caiff awdurdod priodol wneud rheoliadau sy'n nodi sut i gyfrifo'r swm y cyfeirir ato ym mharagraff 4 (d) ac yn rhoi rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o ddarpariaethau y gellir eu cynnwys yn y rheoliadau hynny. | Dd/G | |
| Atodlen 4, paragraff 4: Gweithgareddau cyfleustod: Trafnidiaeth | Mae paragraff 4 yn nodi pryd y mae gweithgareddau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn weithgareddau cyfleustod ac yn darparu bod darparu neu weithredu rhwydwaith sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd ar gyfer trafnidiaeth yn weithgaredd cyfleustod. Gellir darparu rhwydwaith o'r fath drwy unrhyw fodd, megis ar reilffyrdd, ar dramffyrdd neu ar fysiau. | Pob cyfleustod |
| Atodlen 4, paragraff 5: Gweithgareddau cyfleustod: Porthladdoedd a meysydd awyr | Mae paragraff 5 yn nodi pryd y mae gweithgareddau sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd a meysydd awyr yn weithgareddau cyfleustod. | Pob cyfleustod |
| Mae paragraff 5 (1) yn nodi bod gweithgaredd sy'n ymwneud ag ymelwa ar ardal ddaearyddol at ddibenion penodol yn weithgaredd cyfleustod sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd a meysydd awyr. Y dibenion hyn yw – darparu maes awyr i gludwyr teithwyr neu nwyddau mewn awyrennau; a darparu porthladd neu gyfleusterau terfynfa eraill i gludwyr teithwyr neu nwyddau ar y môr neu ddyfrffordd fewndirol. | Pob cyfleustod | |
| Mae paragraff 5 (2) yn diffinio maes awyr drwy gyfeirio at adran 66 o Ddeddf Hedfan Sifil 2012. | Pob cyfleustod | |
| Atodlen 4, paragraff 6: Gweithgareddau cyfleustod: Echdynnu olew a nwy a chwilio am lo neu danwyddau solet eraill neu ei echdynnu/eu hechdynnu | Mae paragraff 6 yn darparu bod gweithgareddau sy'n ymwneud ag ymelwa ar ardal ddaearyddol i echdynnu olew a nwy a chwilio am lo neu danwyddau solet eraill neu ei echdynnu/eu hechdynnu, yn weithgareddau cyfleustod. | Pob cyfleustod |
| Atodlen 4, paragraff 7: Gweithgareddau cyfleustod: dehongli'r Atodlen | Mae paragraff 7 yn nodi'r diffiniadau o weithgaredd penodedig a chyflenwi a ddefnyddir yn y rhan hon o'r Atodlen | Pob cyfleustod |
| Atodlen 4, paragraffau 8-17: Gweithgareddau cyfleustod: Gweithgareddau nad ydynt yn weithgareddau cyfleustod | Mae rhan 2 o'r Atodlen hon yn pennu'r gweithgareddau nad ydynt yn weithgareddau cyfleustod ac, felly, nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y Ddeddf. Mae'r esemptiadau hyn yn adlewyrchu'r esemptiadau a nodwyd mewn tri o Benderfyniadau Comisiwn yr UE (2006/211/EC, 2007/141/EC a 2010/192/EU). Mae'r pŵer yn adran 6 (5) o'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod priodol wneud rheoliadau i ddiwygio Rhan 2. | Pob cyfleustod |
| Atodlen 8, paragraff 4: Addasiadau a ganiateir i gontract | Amgylchiadau anrhagweladwy Mae paragraff 4 (2) yn darparu nad yw'r trothwy o 50% ar gyfer addasu contractau pan fo'r sail amgylchiadau anrhagweladwy dros addasiadau a ganiateir yn gymwys, yn gymwys i gontractau cyfleustodau. | Pob cyfleustod |
| Atodlen 8, paragraff 5: Addasiadau a ganiateir i gontract | Gwireddiad risg hysbys Mae paragraff 5 (2) yn darparu nad yw'r trothwy o 50% ar gyfer addasu contractau pan fo'r sail gwireddiad risg hysbys dros addasiadau a ganiateir yn gymwys, yn gymwys i gontractau cyfleustodau. | Pob cyfleustod |
| Atodlen 8, paragraff 8: Addasiadau a ganiateir i gontract | Nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol Mae paragraff 8 (2) yn darparu nad yw'r trothwy o 50% ar gyfer addasu contractau pan fo'r sail nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol dros addasiadau a ganiateir yn gymwys, yn gymwys i gontractau cyfleustodau. | Pob cyfleustod |
| Atodlen 11, Paragraff 7: diddymiadau a dirymiadau | Mae paragraff 7 yn diddymu Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 (O.S. 2016/274). | Dd/G |
Ychwanegiad at Atodiad A: Crynodeb o reolau penodol yn Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024
| Rheoliad | Rheolau penodol ynglŷn â chyfleustodau yn Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 | Mathau cymwys o gyfleustodau |
|---|---|---|
| Rheoliad 5: Cyhoeddi hysbysiadau ar y platfform digidol canolog | Mae rheoliad 5 yn nodi pryd y mae'n rhaid cyhoeddi hysbysiad ar y platfform digidol canolog. Mae'r rhestr o ddarpariaethau y cyfeirir atynt pan fo'n rhaid cyhoeddi hysbysiadau ar y platfform yn cynnwys hysbysiadau o dan adran 39 (2) o'r Rheoliadau (hysbysiadau marchnad ddynamig: bwriad i sefydlu marchnad ddynamig), sy'n cynnwys hysbysiadau marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol (yn rhinwedd adran 40 (6) o'r Ddeddf). | Pob cyfleustod |
| Rheoliad 8: Gwybodaeth graidd y cyflenwr: platfform ddim yn gweithio, sefyllfa frys, cyfleustodau preifat | Mae rheoliad 8 yn nodi esemptiad rhag rheoliad 6 (rhannu gwybodaeth graidd y cyflenwr drwy'r platfform digidol canolog) ar gyfer cyfleustodau preifat yn achos contract cyhoeddus a ddyfernir yn uniongyrchol yn unol â pharagraffau 13 a 14 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (sefyllfa frys). | Private utilities |
| Rheoliadau 19-22: Hysbysiadau Tendro | Mae rheoliadau 19-22 yn nodi cynnwys yr hysbysiadau tendro ar gyfer y weithdrefn agored, y weithdrefn hyblyg gystadleuol, fframweithiau, a marchnadoedd dynamig (ac eithrio marchnadoedd dynamig cyfleustodau cymhwysol). | Pob cyfleustod |
| Rheoliad 19: Hysbysiadau tendro: gweithdrefn agored | Mae rheoliad 19 yn cynnwys darpariaethau arbennig ar gyfer cyfleustodau fel a ganlyn:
| Pob cyfleustod |
Rheoliad 20: Hysbysiadau tendro: gweithdrefn hyblyg gystadleuol Rheoliad 21: Hysbysiadau Rheoliad 22: Hysbysiadau tendro: marchnadoedd | Mae rheoliadau 20-22, drwy raeadru'r gofynion i gynnwys yr wybodaeth yn rheoliad 19 (2), i bob pwrpas, yn creu darpariaethau tebyg sydd hefyd yn gymwys i hysbysiadau tendro ar gyfer y weithdrefn hyblyg gystadleuol, fframweithiau a marchnadoedd dynamig (ac eithrio marchnadoedd dynamig cyfleustodau cymhwysol). | |
| Rheoliad 23: Hysbysiadau tendro: hysbysiadau marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol | Mae rheoliad 23 yn nodi cynnwys yr hysbysiadau tendro pan fônt yn ymwneud â chaffaeliadau a gyflawnir o dan farchnad ddynamig cyfleustodau a sefydlwyd drwy hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau – h.y. pan ddarperir hysbysiadau tendro i aelodau o'r farchnad, yn hytrach na'u cyhoeddi. Rhaid i'r hysbysiad hwn gynnwys yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol y mae a wnelo'r hysbysiad tendro ag ef os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chynnwys (fel y'i caniatawyd gan reoliad 26 (2) (ii)) yn yr hysbysiad hwnnw. Gyda'i gilydd, rhaid i hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol a'r hysbysiad tendro perthnasol a'r dogfennau tendro cysylltiedig ddarparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyflenwyr er mwyn iddynt allu paratoi tendr (adrannau 21 (5) a 40 (4) o'r Ddeddf). | Pob cyfleustod |
| Rheoliad 26: Hysbysiadau marchnad ddynamig (gan gynnwys hysbysiadau marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol) | Mae rheoliad 26 yn nodi'r manylion y mae'n rhaid i'r hysbysiad sy'n sefydlu marchnad ddynamig cyfleustodau, gan gynnwys marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol, eu cynnwys, gan gynnwys yr wybodaeth ychwanegol y mae'n rhaid i'r hysbysiad ei chynnwys os yw'n hysbysiad marchnad ddynamig cyfleustodau cymhwysol (gweler rheoliad 25 (2) (h) (ii)). | Pob cyfleustod, a thrydydd personau |
| Rheoliad 27: Hysbysiadau tryloywder | Mae rheoliad 27 yn nodi'r manylion y mae'r hysbysiad tryloywder, y mae'n ofynnol i awdurdod contractio ei gyhoeddi, fel arfer, cyn dyfarnu contract yn uniongyrchol o dan adrannau 41 neu 43 o'r Ddeddf, eu cynnwys. Mae rheoliad 27 (2) (g) yn nodi gofyniad i nodi bod y contract yn gontract cyfleustodau yn yr hysbysiad tryloywder. | Pob cyfleustod |
| Rheoliad 28: Hysbysiadau dyfarnu contract ac eithrio'r rhai a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat | Mae rheoliad 28 yn nodi'r wybodaeth sy'n ofynnol yn yr hysbysiad dyfarnu contract, a gyhoeddir cyn i awdurdod contractio ymrwymo i gontract â chyflenwr neu gyflenwyr penodedig. Mae rheoliad 28 (2) (k) yn nodi gofyniad i nodi bod y contract yn gontract cyfleustodau yn yr hysbysiad dyfarnu contract. Mae rheoliad 28 (8) yn nodi nad yw rheoliad 28 yn gymwys i gontract cyfleustodau a ddyfernir gan gyfleustod preifat. | Awdurdodau cyhoeddus ac Cyfleustodau preifat |
Rheoliad 29: Hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau Rheoliad 30: Hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat: dyfarniadau uniongyrchol Rheoliad 31: Hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat: fframweithiau | Mae rheoliadau 29-31 yn nodi cynnwys yr hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat, sy'n adlewyrchu'r awydd i leihau beichiau ar gyfleustodau preifat. Gan nad yw'n ofynnol i gyfleustodau preifat gyhoeddi hysbysiad manylion contract ar ôl i gontract gael ei ddyfarnu, defnyddir yr hysbysiad dyfarnu contract i gofnodi gwybodaeth benodol sy'n ymwneud â'r contract sydd i'w ddyfarnu. | Cyfleustodau preifat |
Rheoliad 33: Hysbysiadau manylion contract: gweithdrefn agored neu weithdrefn hyblyg gystadleuol Rheoliad 34: Hysbysiadau manylion contract: fframweithiau Rheoliad 35: Hysbysiadau manylion contract: contractau cyhoeddus a ddyfernir yn unol â fframweithiau Rheoliad 36: Hysbysiadau manylion contract: dyfarniad uniongyrchol | Mae rheoliadau 33-36 yn nodi'r wybodaeth sy'n ofynnol yn yr hysbysiad manylion contract, a gyhoeddir ar ôl i awdurdod contractio ymrwymo i gontract. Mae rheoliad 33 (2) (o) yn nodi gofyniad i nodi bod y contract yn gontract cyfleustodau yn yr hysbysiad manylion contract ar gyfer gweithdrefn agored neu weithdrefn hyblyg gystadleuol. Mae rheoliadau 34-36, drwy raeadru cyfeiriadau at y rhannau perthnasol o reoliad 33 (2), yn estyn y gofyniad hwn i gynnwys hysbysiadau manylion contract ar gyfer fframweithiau, contractau cyhoeddus a ddyfernir yn unol â fframweithiau, a chontractau a ddyfernir yn uniongyrchol. | Awdurdodau cyhoeddus ac ymgymeriadau cyhoeddus |
| Rheoliad 49: Ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad mewn perthynas â chyfleustodau preifat | Mae rheoliad 49 yn darparu, wrth arfer y pŵer yn adran 121 o'r Ddeddf, nad yw'r gofyniad yn adran 17 o'r Ddeddf i gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad yn gymwys i gyfleustodau preifat, heblaw i gyfleustod preifat sy'n awdurdod Cymreig datganoledig nad yw'n caffael o dan drefniant caffael a gedwir yn ôl na threfniant caffael a drosglwyddwyd i Ogledd Iwerddon. Mae Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 wedi gwneud diwygiad er mwyn esemptio awdurdodau contractio Cymreig datganoledig rhag adran 17 mewn perthynas â chyfleustodau preifat (gweler rheoliad 47 o'r rheoliadau hynny). Effaith y diwygiadau hyn yn y ddwy set o reoliadau yw na fydd adran 17 yn gymwys i unrhyw gyfleustodau preifat. | Cyfleustodau preifat |
Atodiad B: Crynodeb o weithgareddau cyfleustodau yn Neddf Caffael 2023
| Sector | Atodlen 4 Gweithgareddau cyfleustod | Atodlen 4 (Rhan 2) Gweithgareddau eithriedig neu Atodlen 2 Contractau esempt |
|---|---|---|
| Nwy a gwres | Atodlen 4, paragraff 1 – darparu neu weithredu rhwydwaith sefydlog ar gyfer darparu gwasanaeth i'r cyhoedd mewn cysylltiad â chynhyrchu, cludo neu ddosbarthu nwy neu wres a chyflenwi nwy neu wres i rwydwaith o'r fath. Mae hyn yn debygol o fod yn berthnasol i fusnesau rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu nwy a gwres sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd. | Atodlen 4, paragraff 1(2) – Cyflenwadau nwy neu wres i rwydwaith nad ydynt yn weithgareddau cyfleustod Atodlen 4, paragraff 11 – Cyfanwerthu neu fanwerthu nwy yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban Atodlen 2, paragraff 33 – Contractau cyfleustodau i gyflenwi ynni neu danwydd i gynhyrchu ynni |
| Trydan | Atodlen 4, paragraff 2 – darparu neu weithredu rhwydwaith sefydlog ar gyfer darparu gwasanaeth i'r cyhoedd mewn cysylltiad â chynhyrchu, cludo neu ddosbarthu trydan neu gyflenwi trydan i rwydwaith o'r fath. Mae hyn yn debygol o fod yn berthnasol i fusnesau rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu trydan sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd. | Atodlen 4, paragraff 2(2) – Cyflenwadau trydan i rwydwaith nad ydynt yn weithgareddau cyfleustod Atodlen 4, paragraffau 8 a 9 – Cynhyrchu trydan yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Atodlen 4, paragraff 10 – Cyfanwerthu neu fanwerthu trydan yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban Atodlen 2, paragraff 33 – Contractau cyfleustodau i gyflenwi ynni neu danwydd i gynhyrchu ynni |
| Dŵr | Atodlen 4, paragraff 3 – Darparu neu weithredu rhwydwaith sefydlog ar gyfer darparu gwasanaeth i'r cyhoedd mewn cysylltiad â chynhyrchu, cludo neu ddosbarthu dŵr yfed. Mae hyn yn debygol o fod yn berthnasol i gwmnïau dŵr a charthffosiaeth a reoleiddir a chwmnïau dŵr a reoleiddir. | Atodlen 2, paragraff 32 – Contractau cyfleustodau i gyflenwi dŵr Atodlen 2, paragraff 35 – Contractau consesiwn i gyflawni gwasanaethau dŵr penodol |
| Trafnidiaeth | Atodlen 4, paragraff 4 – Gweithgareddau sy'n ymwneud â darparu neu weithredu rhwydweithiau sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd ym maes trafnidiaeth ar:
| Atodlen 2, paragraff 21 – Rheilffyrdd a systemau metro a reoleiddir gan ddeddfwriaeth yr Adran Drafnidiaeth Atodlen 2, paragraff 36 – Contractau consesiwn ar gyfer gwasanaethau hedfan Atodlen 2, paragraff 37 – Contractau consesiwn ar gyfer gwasanaethau cludo teithwyr cyhoeddus |
| Porthladdoedd a meysydd awyr | Atodlen 4, paragraff 5 – Gweithgareddau sy'n ymwneud â darparu meysydd awyr i gludwyr teithwyr neu nwyddau mewn awyrennau neu borthladdoedd (a fyddai'n cynnwys porthladdoedd morol neu fewndirol) neu gyfleusterau terfynfa eraill i gludwyr ar y môr neu ddyfrffordd fewndirol. | |
| Olew a nwy | Atodlen 4, paragraff 6 – Echdynnu olew a nwy a chwilio am lo neu danwyddau solet eraill neu ei echdynnu/eu hechdynnu | Atodlen 4, paragraffau 12 a 13 – Chwilio am olew a nwy naturiol yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban Atodlen 4, paragraffau 14 a 15 – Cynhyrchu olew a nwy naturiol yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban Atodlen 4, paragraffau 16 a 17 – Datblygu seilwaith i gynhyrchu olew a nwy naturiol yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban Atodlen 2, paragraff 33 – Contractau cyfleustodau i gyflenwi ynni neu danwydd i gynhyrchu ynni |
