Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a’r Gogledd
O ganlyniad i ymdrechion penderfynol a diflino nifer o sefydliadau partner, pleser o’r mwyaf yw gweld bod Porthladd Caergybi yn llwyr agored unwaith eto.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i deithwyr a’r diwydiant cludo nwyddau am eu hamynedd ac am eu cydweithrediad wrth addasu i’r newidiadau y bu’n rhaid eu gwneud i’r llwybrau hwylio yn sgil y difrod a wnaed gan Storm Darragh a effeithiodd ar y glanfeydd fferi yn nherfynellau 3 a 5. Hoffwn ddiolch hefyd i reolwyr y porthladd, y cwmnïau fferi a’r staff ymroddedig yng Nghaergybi, Abergwaun, Aberdaugleddau a thu hwnt, am eu gwaith caled yn sicrhau bod pobl a nwyddau’n cyrraedd pen eu taith, yn enwedig dros gyfnod prysur y gwyliau.
Bu’r cydweithio agos rhwng Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru a’u cydweithwyr yn Llywodraeth Iwerddon yn hwb aruthrol i’r gwaith hwn. Bu’r prif Weinidog mewn cyfarfod mor ddiweddar â dydd Gwener diwethaf â’r Taoiseach. Trwy gydweithio a rhannu gwybodaeth mewn amser real, cafwyd gwybod am y gwasanaethau amgen a oedd ar gael a helpu i osgoi effeithiau ar y traffig. Rwy’n ddiolchgar i Weinidogion ac Adrannau perthnasol Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a chyrff masnach am eu rhan yn y dasg hon.
Hoffwn ddiolch i Stena am gadw at eu haddewid i ailagor terfynell 5 heddiw er gwaetha’r tywydd gwael, gan olygu ailgychwyn eu fferïau eu hunain a fferïau Irish Ferries ac adfer y capasiti ar y llwybr hanfodol hwn i’r hyn ydoedd.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu’r tasglu a gyhoeddais wythnos ddiwethaf. Bydd nifer o randdeiliaid yn aelodau ohono. Byddaf yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth amdano wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.
