Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1: Nodiadau a chamau gweithredu ers y cyfarfod blaenorol 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. 

Eitem 2: Y Bil Hawliau Cyflogaeth 

Cafodd y Fforwm gyflwyniad gan uwch swyddog o Adran Busnes a Masnach y DU. Roedd hyn yn rhoi trosolwg o'r mesurau yn y Bil a'r dull o ymgynghori ac ymgysylltu. Nododd y Fforwm yr ymgysylltiad adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y Bil. 

Eitem 3: Canllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: gweithio hybrid, menopos ac aflonyddu 

Cafodd y Fforwm yr wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau'r Comisiwn ar fynd i'r afael ag aflonyddu yn y gweithle, menopos, a chefnogi gweithwyr anabl gyda gweithio hybrid. Rhoddwyd gwybod i'r Fforwm am yr wybodaeth, yr offer a'r adnoddau sydd ar gael ar wefan y Comisiwn, sydd wedi'u cynllunio i helpu cyflogwyr i ddeall eu rhwymedigaethau a'u cefnogi i wneud addasiadau rhesymol. 

Eitem 4: Mynd i'r afael â hiliaeth a thrais yn y gweithle 

Cafodd y Fforwm grynodeb o becyn cymorth TUC Cymru i fynd i'r afael â hiliaeth yn y gweithle. Esboniodd hyn sut mae'r pecyn cymorth yn ddefnyddiol i gefnogi gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur, yn ogystal â darparu gwybodaeth i gyflogwyr. Nododd y Fforwm fod gan gyflogwyr, undebau llafur, y Llywodraeth a rheoleiddwyr i gyd ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r mater hwn.