Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Frances Duffy, Cadeirydd
  • Saz Willey, Is-gadeirydd
  • Bev Smith, aelod
  • Kate Watkins, aelod
  • Dianne Bevan, aelod
  • Sara Rees, ysgrifenyddiaeth
  • Leighton Jones, ysgrifenyddiaeth

Rhanddeiliaid allanol oedd yn bresennol yn y cyfarfod

Cynrychiolwyr o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru:

  • Roger Ashton-Winter
  • Cher Cooke 

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 7 Ionawr. 

Nod y cyfarfod oedd:

  • adolygu'r cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Tachwedd a chytuno arnynt, nodi diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb, ac adolygu a diweddaru'r cynllun gweithredol ar gyfer 2024 i 2025
  • ystyried a chytuno ar y papurau canlynol a gyflwynwyd i'r Panel er mwyn llywio'r Adroddiad Terfynol a'r Penderfyniadau, gan gynnwys:
    • crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i law mewn perthynas ag adroddiad blynyddol drafft 2025
    • adroddiad Blynyddol Terfynol, sy'n cynnwys adborth o'r ymgynghoriad a'r Penderfyniadau ar gyfer 2025 i 2026
    • y dadansoddiad mwyaf diweddar o'r holl lwfansau a dalwyd i aelodau cynghorau cymuned a thref yn 2023 i 2024
    • dadansoddiad o'r lwfans mynychu ar gyfer cynghorau cymuned a thref yng ngrŵp 3
    • adolygu'r adroddiad etifeddiaeth sydd wedi'i ddiweddaru, a nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddo data i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Isod ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel.

Camau gweithredu, yr Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb, diweddariadau

Cytunodd y Panel ar y cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Tachwedd, gan nodi'r diweddariad ar y gyllideb.

Fe wnaeth y Panel adolygu a thrafod yr ohebiaeth a oedd wedi dod i law oddi wrth ddau gyngor cymuned a thref, ac un prif gyngor, a'i ymateb arfaethedig i bob un. 

Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i law mewn perthynas ag adroddiad blynyddol drafft 2025

Rhoddwyd crynodeb i'r Panel o'r ymatebion a oedd wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori ar yr adroddiad blynyddol drafft. Nododd y Panel fod llai o ymatebion nag yn y blynyddoedd blaenorol ac, er y gallai hyn fod yn adlewyrchiad o’r ffaith nad oedd yr adroddiad drafft yn cynnwys llawer o fentrau newydd na newidiadau, mae'n parhau i fod yn bryder o ran pa mor effeithiol yw ein gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.

Bydd unrhyw themâu allweddol sydd wedi codi yn cael sylw yn yr adroddiad terfynol, a gyhoeddir erbyn diwedd mis Chwefror. 

Mae'r Panel yn dymuno diolch i'r holl randdeiliaid a roddodd adborth ac ymatebion i'r adroddiad blynyddol drafft.  

Datganiad Taliadau 2023 i 2024: Cynghorau Cymuned a Thref

Bu'r Panel yn ystyried papur, a oedd wedi ei ddiweddaru, ar y datganiad ynghylch y taliadau a wnaed i aelodau cynghorau cymuned a thref yn ystod 2023 i 2024.

Yn y papur hwn, roedd dadansoddiad pellach o'r holl lwfansau a dalwyd ers y papur gwreiddiol ym mis Hydref, ynghyd â'r tueddiadau blynyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i greu sail ar gyfer gwaith yn y dyfodol, ac i weld pa mor effeithiol yw'r fframwaith taliadau cydnabyddiaeth ledled Cymru.

Mae'r Panel yn parhau i bryderu am y lefel wael o gydymffurfiaeth ymhlith y cynghorau llai, a chytunodd i drafod hyn gydag Un Llais Cymru a Swyddfa Cymru.

Lwfans mynychu

Ystyriodd y Panel ddadansoddiad o lwfans mynychu cynghorau cymuned a thref grŵp 3 a oedd wedi darparu'r lwfans hwn i'w haelodau. 

Roedd y Panel eisiau gweld a yw'r lwfans wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n mynychu cyfarfodydd, ac a oedd yn cael unrhyw effaith ar y taliadau sylfaenol ac uwch. Roedd y dadansoddiad hwn yn un o'i amcanion ar gyfer 2024 i 2025. Nid oes digon o ddata ar hyn o bryd i wneud penderfyniad cytbwys, felly bydd hyn yn cael ei nodi fel mater i'r dyfodol ar gyfer yr adroddiad etifeddiaeth.

Adroddiad etifeddiaeth

Rhoddwyd diweddariad i'r Panel ar hynt yr adroddiad etifeddiaeth. Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys meysydd o ddiddordeb lle y gallai fod angen ystyriaeth bellach yn y dyfodol, megis cynrychiolaeth ieuenctid, cydymffurfiaeth cynghorau cymuned a thref a heriau gweinyddol cysylltiedig, a'r gyfradd taliadau i aelodau cyfetholedig. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan ochr yn ochr â'r Adroddiad Blynyddol Terfynol.

Unrhyw faterion eraill

Trafododd y Panel enghreifftiau o'r taliadau fesul awr newydd i aelodau cyfetholedig mewn prif awdurdodau. Bydd yr enghreifftiau hyn yn cael eu hanfon at randdeiliaid sydd â diddordeb.

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar 18 Chwefror 2025. 

Os bydd gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy'r Ysgrifenyddiaeth, cyfeiriad e-bost: IRPMailbox@llyw.cymru.