Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cytundeb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Achos Busnes Amlinellol Porthladd Rhydd Ynys Môn, gosododd y ddwy lywodraeth ddeddfwriaeth i ddynodi eu safleoedd treth arfaethedig. Rwy'n falch o gyhoeddi, o heddiw (23 Ionawr) ymlaen, bod safleoedd treth Porthladd Rhydd Ynys Môn bellach yn fyw ac mae'r Porthladd Rhydd ar agor i fusnes.

Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol a sylweddol sy'n anelu at gefnogi twf parhaus a swyddi o ansawdd uchel yn Ynys Môn ac ar draws y rhanbarth. Mae'n adeiladu ar y newyddion cadarnhaol a gafwyd yr wythnos diwethaf am ailddechrau gweithrediadau fferi Caergybi, i bobl sydd eisiau teithio a busnesau sy'n cludo nwyddau, a gafodd eu heffeithio'n ddifrifol gan ddifrod storm cyn y Nadolig.

Gyda dynodiad Parc Ffyniant a Pharc Cybi yng Nghaergybi, a safleoedd M-Sparc a dau leoliad tir llwyd yn Ystâd Ddiwydiannol Llangefni yng nghanol Ynys Môn, gall busnesau yn yr ardaloedd hyn bellach gael mynediad at ystod o gymhellion treth sydd wedi'u cynllunio i sbarduno buddsoddiad a thwf.

Mae Ynys Môn yn ymuno â'r Porthladd Rhydd Celtaidd ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau lle daeth safleoedd treth yn fyw ddiwedd mis Tachwedd. Rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda Phorthladdoedd Rhydd a Llywodraeth y DU i gwblhau eu Hachosion Busnes Llawn a fydd yn rhyddhau hyd at £25m o gyfalaf sbarduno ar gyfer pob Porthladd Rhydd a'u symud i weithredu'n llawn. 

Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddyfodol rhaglen Porthladdoedd Rhydd y DU fel y nodwyd yn natganiad yr hydref. Rydym yn rhannu gwersi o'n dull o ymdrin â Phorthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn ogystal a cheisio dysgu gwersi o'r hyn a gyflawnwyd hyd yma yn Lloegr. 

Mae' dynodi safleoedd treth ar gyfer holl Borthladdoedd Rhydd Cymru, y cynnydd o ran cwblhau achosion busnes, a'n cydweithio parhaus yn amlygu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth y DU i gefnogi twf a swyddi. 

Mapiau o safleoedd treth Porthladd Rhydd Ynys Môn - GOV.UK

Mapiau o safleoedd treth y Porthladd Rhydd Celtaidd - GOV.UK