Mae’r dangosfwrdd hwn yn dwyn ynghyd holl ddata iechyd meddwl cyfredol a gyhoeddir ar StatsCymru mewn un gofod, sy’n deillio o amrywiaeth eang o ffynonellau data.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r dangosfwrdd hwn yn dwyn ynghyd holl ddata iechyd meddwl cyfredol a gyhoeddir ar StatsCymru mewn un gofod, sy’n deillio o amrywiaeth eang o ffynonellau data. Dyma’r tro cyntaf i’r dangosfwrdd rhyngweithiol ystadegau iechyd meddwl gael ei gyhoeddi dan y themâu canlynol:
- iechyd y cyhoedd
- gofal sylfaenol
- gofal eilaidd
- addysg
- cyllid
Mae’n fwriad gennym ddiweddaru’r dangosfwrdd hwn yn y dyfodol. Fodd bynnag, cyn penderfynu yn derfynol pa gylch ddylai hwn fod, rydym am oedi er mwyn cael derbyn adborth defnyddwyr am y dangosfwrdd hwn.
