Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:
Un o'm blaenoriaethau pennaf dros y misoedd diwethaf oedd penodi Cadeirydd newydd ar Fwrdd Hybu Cig Cymru. Bydd heriau aruthrol yn wynebu diwydiant cig coch Cymru wrth inni adael yr UE a bydd gan y Cadeirydd ran ganolog a hanfodol i'w chwarae wrth helpu i fynd â gwaith HCC yn ei flaen yn wyneb yr heriau hynny.  

Mae'n bleser gen i gyhoeddi fy mod wedi penodi Kevin Roberts yn Gadeirydd newydd Hybu Cig Cymru. Mae'r rhinweddau y mae Kevin wedi'u dangos wrth fynd trwy'r broses penodiadau cyhoeddus yn rhoi hyder llwyr imi ein bod wedi sicrhau gwasanaethau Cadeirydd eithriadol.

Mae hi'n ddyddiau cyffrous ac anodd iawn ar HCC a'r diwydiant amaeth yng Nghymru a dymunaf bob llwyddiant i'r Bwrdd newydd yn y dyfodol.