Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Tim Moss (Cadeirydd)
  • Carys Williams
  • Mutale Merrill
  • Aled Edwards
  • Mike Usher
  • Tracey Burke
  • Andrew Slade
  • Judith Paget
  • Sioned Evans
  • Dom Houlihan
  • David Richards
  • Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur
  • Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y Bwrdd 

Yn mynychu 

  • Ruth Meadows
  • Georgina Haarhoff
  • Nicola Edwards
  • Liz Lalley 

 Ysgrifenyddiaeth 

  • Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol

Ymddiheuriadau 

  • Andrew Goodall
  • Amelia John
  • Dean Medcraft
  • Nia James
  • Cyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol

1. Croeso a materion cyfredol

1.1 Cadeiriwyd y cyfarfod gan Tim Moss ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn anffodus. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a gafwyd. Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod ar 01
Tachwedd.

1.2 Nododd y Cadeirydd y bydd tymor Amelia John fel Hyrwyddwr Cydraddoldeb yn dod i ben ar 31 Rhagfyr. Diolchodd y Cadeirydd i Amelia am yr egni a’r ymrwymiad y mae wedi eu neilltuo i’r rôl ac am y cyfraniad y mae wedi ei wneud i’r sefydliad fel Hyrwyddwr Cydraddoldeb. Mae ymarfer recriwtio yn mynd rhagddo i lenwi’r rôl.

1.3 Cyfeiriodd y Cadeirydd yn ôl at dymor y Senedd a oedd newydd ddod i ben a nododd fod cyllideb ddrafft 2025-26 wedi ei chyhoeddi ar 10 Rhagfyr.

1.4 Nododd y Cadeirydd fod canfyddiadau Arolwg Pobl 2024 wedi eu cyhoeddi. Bydd trafodaeth ar y camau a gynlluniwyd mewn ymateb i’r canfyddiadau yn dod gerbron y Bwrdd ddechrau 2025.

1.5 Nododd y Cadeirydd effaith Storm Darragh ar gymunedau ledled Cymru a diolchodd i’r swyddogion hynny ar draws Llywodraeth Cymru a oedd wedi gweithio yn ddiflino i gydlynu a rheoli’r ymateb.

1.6 Nododd y Cadeirydd fod Syr Chris Wormald wedi ei benodi yn Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth y DU a Phennaeth y Gwasanaeth Sifil.

2. Gwella safonau ysgolion i wella cyrhaeddiad a chodi presenoldeb yn yr ysgol ac mewn addysg ôl-16

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Georgina Haarhoff, Ruth Meadows a Nicola Edwards i’r cyfarfod a’u gwahodd i gyflwyno cynlluniau’r Bwrdd i fynd i’r afael â blaenoriaethau’r Prif Weinidog ar gyfer addysg.

2.2 Nododd David Richards a Mike Usher fod rôl ysgolion yn esblygu gan holi ai rhywbeth a oedd wedi digwydd yn ddamweiniol ynteu yn fwriadol oedd hyn. Atebodd Nicola fod rhai camau wedi bod yn benderfyniadau polisi bwriadol, fel ysgolion yn dod yn ganolfannau cymunedol, ond roedd eraill wedi eu gwneud mewn ymateb i anghenion dysgwyr, er enghraifft ysgolion yn darparu gwasanaethau golchi dillad i gefnogi teuluoedd. Ychwanegodd Ruth Meadows fod rhai o’r union heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu yn cael eu gweld ar draws y sector Addysg Bellach. Nododd Ruth hefyd bwysigrwydd codi uchelgais a dyheadau dysgwyr wrth iddynt ddechrau ar eu haddysg.

2.3 Nododd Mutale Merrill ac Aled Edwards natur gymhleth y materion y mae’r sector addysg yn eu hwynebu a gofyn sut y gall y trydydd sector ac eraill helpu. Nododd Nicola y cyfraniad gwerthfawr y mae’r trydydd sector yn ei wneud ac ychwanegodd fod swyddogion yn disgwyl esblygu’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector.

2.4 Holodd Carys Williams a oes arferion gorau rhyngwladol gan wladwriaethau bach eraill y gallai Cymru ddysgu ohonynt. Gofynnodd Mike ac Aled sut fyddai orau i ledaenu’r arferion gorau gan ysgolion yng Nghymru.

2.5 Nododd Judith Paget bwysigrwydd mabwysiadu dull trawslywodraethol o ymdrin â’r heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu ac amlygodd bwysigrwydd lleihau’r amser aros ar gyfer asesiadau niwrowahaniaeth.

2.6 Atgoffodd Hyrwyddwr Cenedlaethau’r Dyfodol y Bwrdd yr aelodau o bwysigrwydd ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn yr ymateb i’r heriau y mae’r sector addysg yn eu hwynebu.

2.7 Gofynnodd y Cadeirydd i’r cyflwynwyr awgrymu beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol i ymateb i’r heriau a amlinellwyd yn y cyflwyniad. Awgrymodd Georgina y dylai ymateb i’r materion a amlinellwyd yn y cyflwyniad fod yn flaenoriaeth i’r Adran Addysg – o ran ei gwaith ei hun ond hefyd o ran ei rhyngweithio ag adrannau eraill. Nododd Nicola bwysigrwydd edrych ar sefyllfa y sector addysg o safbwynt y tymor hwy, ac ystyried sut y gallai edrych yn y dyfodol. Awgrymodd Ruth y dylid gwella’r ddealltwriaeth drawslywodraethol o’r rôl y mae’r sector Addysg Bellach yn ei chwarae a phwysleisiodd bwysigrwydd helpu dysgwyr i wneud y dewis cywir yn 16 oed.

2.8 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a dod â’r eitem i ben.

3. Diweddariad ar weledigaeth, egwyddorion a matrics aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Liz Lalley i’r cyfarfod. Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar y cynnydd ar Weledigaeth LlC, y Portffolio Newid ac LlC2025 ers y gweithdy rhwng yr Ysgrifennydd Parhaol, y Cyfarwyddwyr Cyffredinol a’r Cyfarwyddwyr Anweithredol ym mis Hydref a nododd y camau nesaf i’r Bwrdd eu hystyried.

3.2 Holodd Carys Williams a oes unrhyw feysydd lle y gellid cymryd camau gweithredu uniongyrchol ac effeithiol. Cytunodd Judith Paget ac awgrymodd y dylid canolbwyntio ar nifer bach o feysydd lle y gallai bod y mwyaf o fomentwm ar gyfer newid ac effaith.

3.3 Amlygodd Mike Usher yr angen am flaenoriaethu a phwysigrwydd nodi adnoddau i gefnogi’r rhaglen newid. Awgrymodd Mike gynnwys trafodaeth ar sut y gall Llywodraeth Cymru weithio orau gyda’r sector cyhoeddus ehangach i feithrin gwell canlyniadau i Gymru.

3.4 Awgrymodd Dom Houlihan y dylid adolygu canfyddiadau’r Arolwg Pobl i nodi’r prif feysydd lle y mae staff yn dymuno gweld gwelliannau a defnyddio’r wybodaeth hon i lywio’r blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer gweithredu.

3.5 Awgrymodd Sioned Evans y gallai staff deimlo eu bod wedi eu hanalluogi ac amlygodd y newid mewn diwylliant sydd ei angen i unioni’r sefyllfa hon.

3.6 Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Bwrdd am eu sylwadau gan eu sicrhau bod trafodaethau yn mynd rhagddynt ar adnoddau ar gyfer y rhaglen newid.

4. Diweddariad ar y materion allweddol gan y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar

4.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Judith Paget i roi diweddariad i’r Bwrdd ar waith y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar gan amlygu’r blaenoriaethau a’r materion dybryd y mae’r Grŵp yn ymdrin â hwy, neu y mae’n disgwyl ymdrin â hwy dros y misoedd nesaf.

4.2 Nododd Carys Williams rôl bwysig y trydydd sector o ran cefnogi gwaith y GIG a gofynnodd a allai pwysau ariannol arwain at dorri rhai gwasanaethau. Atebodd Judith y byddai swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau i nodi cyfleoedd ar gyfer cyflawni arbedion ac enillion cynhyrchiant.

4.3 Gofynnodd Carys a oedd cynnydd yn nifer y staff sy’n adrodd am achosion o drais. Ymatebodd Judith fod y rhai sy'n gweithio yn y GIG ac sy'n ymgymryd â rolau gofalu eraill yn y sector cyhoeddus yn debygol o wynebu trais ac ymddygiad ymosodol. Ychwanegodd fod staff yn cael eu hannog i roi gwybod am achosion o'r fath a bod adnoddau ar gael i gefnogi hyn.

4.4 Holodd Mike Usher a oedd yn bosibl eto i nodi beth yw’r manteision o sefydlu Gweithrediaeth y GIG. Gofynnodd Mike hefyd a oedd trosglwyddo’r cyfrifoldeb am bortffolio’r Blynyddoedd Cynnar i’r Grŵp yn helpu’r sefydliad i fynd i'r afael â’r heriau y mae’r sector yn eu hwynebu. Ymatebodd Judith fod Gweithrediaeth y GIG yn dechrau cyflawni ei photensial a bod trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y Blynyddoedd Cynnar i’r Grŵp yn gam gwirioneddol gadarnhaol.

4.5 Gofynnodd Mutale Merrill am ddiweddariad ar brif ffrydio’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol ar gyfer cleifion a staff. Ymatebodd Judith fod adroddiad Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu i Gymru newydd gael ei gyhoeddi. Nododd Judith fod angen rhagor o waith i wella’r data ar brofiadau pobl o gefndir ethnig leiafrifol sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru. Amlygodd Judith y cynnydd mewn bydwragedd dan hyfforddiant o gefndir ethnig leiafrifol a datblygiadau yn y gwaith mewn perthynas â gofal a chymorth mamolaeth.

4.6 Nododd Judith y rôl sydd gan ddatblygiadau technolegol o ran ei gwneud yn bosibl i’r GIG drin rhagor o bobl ac amlygodd bwysigrwydd dewisiadau personol ar iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd.

5. Diweddariad ar gyllid

5.1 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar sefyllfa cyllid yn ystod y flwyddyn gan nodi bod y Cabinet wedi cytuno ar ddyraniad cyllid ychwanegol yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Hydref. Bydd ExCo a’i is-bwyllgor Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn ystod y flwyddyn yn agos.

6. Unrhyw Fater Arall

6.1 Awgrymodd Carys Williams y dylid meddwl mwy am y ffordd orau o ddefnyddio cyfarfodydd y Bwrdd, gan osgoi dyblygu trafodaethau a geir mewn grwpiau a chyfarfodydd eraill o bosibl.